Telerau ac Amodau
Byddwch yn torri amodau eich Cytundeb Trwydded os bydd ymwelydd yn aros yn eich ystafell dros nos heb gael caniatâd. Fe’ch cynghorir hefyd i geisio caniatâd eich cydletywyr.
Rhaid cofrestru ymwelwyr cyn 4pm bob dydd os ydynt am aros, a rhaid i westeion penwythnos gael eu cofrestru cyn 4pm ar ddydd Gwener. Fel rheol ni chaniateir i ymwelwyr aros am fwy na 3 noson yn olynol.
Rhaid i ymwelwyr cofrestredig fod yng nghwmni’r myfyriwr PA sydd wedi eu cofrestru trwy gydol eu harhosiad yn y llety. Cyfrifoldeb y myfyriwr PA yw ymddygiad a gweithredoedd yr ymwelydd.
Ni chaniateir i ymwelwyr gysgu yn unrhyw ran gymunol o’r llety preswyl.