Uwchraddedig
Mae’n bosibl y byddai uwchraddedigion yn dymuno dewis llety yn un o’r Preswylfeydd neu yn y Sector Preifat. Os oes gennych ddibynyddion yn dod gyda chi i Aberystwyth a’ch bod eisiau llety yn y Sector Preifat rydym yn eich cynghori i edrych ar Cronfa Ddata Llety a/neu i gysylltu â’r Swyddfa Llety.
Yn y Preswylfeydd gwneir ymdrech i letya uwchraddedigion gyda’i gilydd.
Mae’r Swyddfa Llety yn gweinyddu system ar lein ganolog ar gyfer ceisiadau am Lety ac Eiddo a weinyddir gan y Brifysgol.
Uwchraddedigion ar eu blwyddyn 1af: bydd y swyddfa llety yn anfon llythyr yn awtomatig i wahodd ymgeiswyr i wneud cais ar lein am lety prifysgol cyn gynted ag y bydd y Swyddfa Llety yn rhoi gwybod bod eich cais yn gyflawn, h.y. pan gadarnheir bod yr holl wiriadau academaidd ac ariannol yn foddhaol. Sicrwydd o lety prifysgol os gwnewch gais cyn 1af Medi.
Uwchraddedigion sy’n dychwelyd: Bydd y system o wneud cais ar lein am Lety yn dechrau ym mis Rhagfyr pob blwyddyn i uwchraddedigion sydd yn dod nol i ymgeisio llety. Caiff yr union amser a dyddiad ei hysbysu yn yr ebost wythnosol i fyfyrwyr. Gweler hefyd y trefniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn allan.
Gofynnir i’r holl fyfyrwyr ymateb ar unwaith i unrhyw gynnig llety a gânt; bydd hyn yn sicrhau bod holl geisiadau’r myfyrwyr yn cael eu prosesu mor gyflym ac effeithiol â phosibl. Gwneir pob ymdrech i sicrhau fod myfyrwyr yn cael y llety o’u dewis cyntaf ond, yn amlwg, ni fydd yn bosib cyflawni hyn ymhob achos.
Pentre Jane Morgan, Brynderw, Llety Glan y mor a Ty Clarendon yw'r Llety sydd ar gael o fis Medi hyd at ddechrau Mehefin.
Bydd gofyn i bob myfyriwr sy'n dymuno aros mewn neuadd yn ystod gwyliau'r haf symud i neuadd arall.