Cymryd Blwyddyn Allan
Bydd myfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn allan mewn Diwydiant neu flwyddyn dramor yn dal i allu defnyddio eu cyfrif ebost ym Mhrifysgol Aberystwyth ac felly gofynnir iddynt wneud cais am lety yn yr un modd ag y mae myfyrwyr eraill sy’n dod nôl am flwyddyn academaidd arall yn ei wneud. Cofiwch edrych ar eich cyfrif ebost yn rheolaidd, oherwydd bydd y dyddiad y gellir dechrau archebu ar lein yn cael ei hysbysu yn yr ebost wythnosol i fyfyrwyr.