Llety Sector Preifat
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig yn byw ym Mhreswylfeydd y Brifysgol yn eu blwyddyn gyntaf ond dylent gofio y byddant yn debygol iawn o dreulio cyfnod mewn llety yn y sector preifat hefyd.
Mae’r Swyddfa Lety’n gweithredu cynllun cofrestru llety yn y sector preifat. Cedwir manylion am y llety sydd ar gael ac rydym yn sicrhau bod yr adeiladau’n cydymffurfio â nifer o safonau angenrheidiol, megis y Cynllun Trwyddedu Gorfodol, y cynllun trwyddedu Ychwanegol a Gofynion Diogelwch Nwy.
Mae gofyn i landlordiaid wneud cais i gofrestru’u heiddo â’r Swyddfa Lety bob blwyddyn.
Felly, gall y Swyddfa Lety roi cymorth i fyfyrwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd sy’n chwilio am rywle i fyw yn y sector preifat. Cewch fanylion am y llety yn y sector preifat drwy ddilyn y dolenni ar y dudalen hon.
Gall myfyrwyr gysylltu â’r Swyddfa Lety os ydynt yn awyddus i gael gwybodaeth, cymorth neu gyngor am lety yn y sector preifat.
Er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i’n myfyrwyr, mae’r Swyddfa Lety wedi cynhyrchu nifer o daflenni sy’n ceisio rhoi rhagor o gyngor a gwybodaeth i’n myfyrwyr wrth iddynt chwilio am lety yn y sector preifat a byw mewn llety yn y sector preifat.
Cynhelir cyflwyniadau am lety i fyfyrwyr bob blwyddyn, ym mis Rhagfyr, ac mae gwybodaeth am y llefydd gwag cofrestredig yn y sector preifat ar gael ar wefan y Swyddfa Lety, fel arfer ym mis Rhagfyr.
Pwysig:
Unig bwrpas y rhestr o lefydd gwag yn y sector preifat yw rhoi arweiniad i fyfyrwyr i’w helpu nhw i benderfynu a ddylent wneud rhagor o ymholiadau ynglyn â darpar landlordiaid. Nid oes gan y Brifysgol nac aelodau o staff y Brifysgol yr awdurdod i gynnig sylwadau neu warant ynglyn â’r llefydd gwag sydd wedi’u rhestru neu’r rhai hynny nad ydynt wedi’u rhestru. Yn benodol, ni allant roi gwarant i fyfyrwyr y bydd yr eiddo’n cydymffurfio â Rheoliadau Tân, Rheoliadau Adeiladu, y Deddfau Cynllunio, deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Chynlluniau Trwyddedu. Ni allan roi gwarant ychwaith ynglyn â phrisiau’r rhenti.
Gall myfyrwyr gael sicrwydd ynglyn â statws eiddo drwy ffonio Cyngor Sir Ceredigion, Adran y Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai: 01970 633386/53.
Dylai myfyrwyr sy’n bwriadu dod o hyd i lety yn y sector preifat sicrhau eu bod yn hapus â’r llety sy’n cael ei gynnig drwy ei archwilio. Mae gofyn i fyfyrwyr sy’n byw yn y sector preifat arfer eu hawl i weld y Dystysgrif Diogelwch Nwy berthnasol (cyn cychwyn ar denantiaeth) a’r Drwydded berthnasol (os yw hyn yn gymwys). Cynghorir myfyrwyr i sicrhau eu bod yn gallu bodloni gofynion y contract cyn arwyddo cytundebau tenantiaeth.
Diogelu Data: Dim ond myfyrwyr cofrestredig amser llawn Prifysgol Aberystwyth sydd â’r hawl i ddefnyddio’r data sydd i’w gael ar y system ar-lein hon, h.y. y rhai hynny sy’n astudio ar hyn o bryd. Petai rhywun yn rhoi gwybodaeth i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr neu’n bobl nad ydynt yn astudio amser llawn ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddai’n torri Deddf Diogelu Data.