Llety i rai sydd â Gofynion Arbennig
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â gofynion arbennig ac mae gennym nifer o ystafelloedd wedi’u haddasu ym Mhreswylfeydd y Brifysgol. Byddwn yn ceisio eich gosod yn y llety mwyaf priodol ar gyfer eich gofynion ym mhob blwyddyn yr ydych yn astudio yn y Brifysgol cyn belled bod ceisiadau yn cael eu derbyn o fewn dyddiadau cau cyhoeddedig y Swyddfa Llety.
Os oes gennych gyflwr meddygol neu nam ar y synhwyrau a wnewch chi roi’r manylion wrth i chi lenwi’r ffurflen gais ar gyfer llety os gwelwch yn dda. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol a bydd yn ein helpu i roi’r llety mwyaf addas ar eich cyfer i chi. Os nad ydych yn dewis datgelu eich gofynion arbennig efallai na fyddwn yn medru cynnig llety gwahanol i chi yn hwyrach.
Bydd ystafelloedd wedi’u haddasu heb eu llenwi yn cael eu dosbarthu yn ôl gweithdrefnau arferol y Brifysgol.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i egwyddorion cynhwysiant a chyfle cyfartal. Rydym yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chanllaw parhaus i’n myfyrwyr. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Chymorth i Fyfyrwyr, yn gyfrinachol, i drafod eu gofynion cyn gwneud cais ffurfiol.