Gwyliau Haf 2012
Nodiadau am Lety
Bydd ceisiadau yn agor am 9.00yb dydd Llun 30 Ebrill.
Cadwch y nodiadau hyn er mwyn i chi allu cyfeirio atynt pan fyddwch yn aros gyda ni
Gwneud eich cais
Mae llety ar gael yn ystod gwyliau’r haf mewn ystafelloedd gwely sengl yn neuadd Cwrt Mawr ar sail hunanarlwyo. Dim ond i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru â Phrifysgol Aberystwyth y mae Llety ar gael. Os nad ydych yn myfyriwr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth, cysylltwch â´r Swyddfa Gynadleddau conferences@aber.ac.uk ac mae'n bosib y gallant eich helpu.
I wneud cais am lety dros gyfnod yr haf llenwch y ffurflen gais ar-lein gan dilyn y cyswllt isod. Bydd angen mewngofnodi fel myfyrwyr presennol a cliciwch gwneud cais o dan pennawd Llety dros yr Haf:
http://accommodation-online.aber.ac.uk/portal/cy/
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5yp ar ddydd Gwener 18 Mai 2012.
Sylwer ar yr amodau archebu canlynol:
1. Cynigir yr ystafelloedd ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu a rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy'n parhau â'u cwrs astudio yn ystod cyfnod yr haf.
2. Rhaid aros am o leiaf 1 mis. Ni ystyrir eich cais am lety haf os ydych mewn dyled i swyddfa llety PA.
3. Bydd y myfyrwyr wedi’u rhwymo gan y dyddiadau preswylio a nodir yn nhelerau’r cytundeb trwydded ac maent yn atebol am yr holl ffioedd llety trwy gydol cyfnod y cytundeb trwydded.
4. Rhoddir gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus ar neu cyn dydd Mawrth 22 Mai 2012.
Ceisiadau hwyr
Ar ôl y dyddiad cau cyntaf sef dydd Gwener 18 Mai 2012 byddwn yn ailagor y ffurflen gais ar-lein ar dydd Mawrth 22 Mai 2012. Gan ddibynnu ar yr argaeledd byddwn yn ystyried ceisiadau hwyr ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu (gweithredir yr un termau ac amodau).
Mae angen blaendal
Gall myfyrwyr sydd mewn llety PA yn barod drosglwyddo eu blaendal tymor draw i'r Llety Haf.
Rhaid i'r fantolen gyfateb â'r £100 llawn bob amser. Byddwn yn eich rhybuddio os bydd angen ychwanegu ati.
Mewn pob achos arall rhaid talu blaendal o £100 ar ôl derbyn eich cynnig.
Cost
Cwrt Mawr: £88.96 (cyfwerth wythnosol wedi’i dalgrynnu, yn cynnwys ynni)
Dosbarthiadau
Caiff y llety ei ddosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu yn ôl dyddiad ac amser eich cais.
Byddwn yn ceisio lletya pobl sy’n aros am yr un cyfnod o amser gyda’i gilydd.
Yn anffodus, ni allwn fodloni unrhyw geisiadau i ffrindiau gael byw gyda’i gilydd.
Symud mewn – Trosglwyddo o lety arall
Y dyddiad newid yw dydd Mercher 13 Mehefin 2012 ar gyfer llety haf. Gallwch aros yn eich ystafell adeg tymor tan y dyddiad hwn a chodir y tâl haf safonol arnoch o ddydd Sul 10 Mehefin 2012 tan i chi newid llety.
Pawb arall
Os nad ydych yn trosglwyddo o Lety PA arall, cewch gyrraedd ar unrhyw ddiwrnod yn ystod yr wythnos o dydd Llun 18 Mehefin 2012. Yn anffodus, ni ellir ystyried dyddiadau cyrraedd cyn hyn gan fod angen amser i baratoi eich llety. Rhaid casglu'r allweddi o'r Swyddfa Lety yn Neuadd Penbryn rhwng 9yb a 4yp dydd Llun – Gwener. Ni allwn ddosbarthu allweddi tu hwnt i'r amseroedd hyn. Ni fyddwn yn gallu rhoi allwedd nes eich bod wedi llofnodi Cytundeb Trwydded a thalu blaendal o £100.
Gadael
Y diwrnod olaf posibl ar gyfer gadael yn ystod cyfnod yr haf fydd 10.00yb ar ddydd Gwener 31 Medi 2012. Rhaid dychwelyd yr allweddi i'r Swyddfa Llety, Neuadd Penbryn am 9yb ar y diwrnod ymadael. Ni allwn ail-osod eich ystafell nes ein bod wedi derbyn yr allwedd yn ôl felly byddwn yn codi tâl am bob noson tan fod yr allwedd wedi'i ddychwelyd a byddwch yn colli rhan o'ch blaendal.
Llety o 31 Awst 2012
Rydym ond yn medru cynnig llety o 31 Awst 2012 i fyfyrwyr cofrestredig PA sydd wedi sicrhau lle yn barod mewn llety PA ar gyfer 2012/2013 ac sydd naill ai wedi aros dros wyliau'r haf neu i fyfyrwyr sydd am ddychwelyd yn gynnar am resymau dilys wedi'u cymeradwyo o flaen llaw gan y Brifysgol.
Noder: Gall myfyrwyr sydd wedi sicrhau llety PA ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13 aros yn eu llety haf o 31 Awst nes bod eu hystafell yn ystod y tymor yn barod; codir tâl am bob noson yn ôl cyfradd 2012-13 o 1 Medi ymlaen.
Am eich Ystafell
Bydd y llety a fydd ar gael ar ffurf ystafell wely-astudio sengl mewn fflat yn rhannu cegin a chyfleusterau ymolchi. Bydd gan bob ystafell wely, cwpwrdd dillad, desg, cadair a chabinet ochr gwely ond bydd angen i chi ddarparu eich dillad gwely, llestri a chytleri eich hunain.
Talu am Lety
Byddwch yn cael eich anfonebi yn llawn ar gyfer eich arhosiad cyfan gan y Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr. Gellir talu gydag arian parod neu gyda siec (taladwy i “PA”) neu gyda cherdyn credyd/debyd yn Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr, Canolfan Croesawu Myfyrwyr, Campws Penglais.
Blaendal
Os achosir niwed i'r eiddo, neu os ydych yn methu archwiliad glanhau ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio glanhawyr, bydd tâl am hyn yn cael ei ddidynnu o'ch blaendal. Bydd colli allwedd, neu fethu â dychwelyd yr allwedd ar ddiwedd eich arhosiad yn golygu didyniad o £30 (yr allwedd) i dalu am y gost o gael un arall. Bydd eich blaendal yn cael ei ddychwelyd i chi, gan gynnwys unrhyw ddidyniadau, erbyn 30 Tachwedd 2012 man bellaf ar ôl i chi adael eich ystafell.
Mae mwy o wybodaeth am lety Cwrt Mawr i’w gael ar y linc yma http://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/our-residences/cwrt-mawr/
Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau eich amser yn Aberystwyth dros yr haf.