Israddedig

Buddsoddi mewn Llety o Safon Uchel

Oherwydd bod mwy a mwy o alw gan fyfyrwyr am le mewn neuadd, aeth y Brifysgol ati i ddatblygu llety newydd modern o safon uchel. Wrth fuddsoddi £24m mewn neuaddau preswyl newydd yn y blynyddoedd diweddar, gallwn sicrhau lle yn llety'r Brifysgol i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn cymunedau deniadol a chymdogol sy'n parchu'r amgylchedd.

Gwneud Cais am Lety

Mae’r Swyddfa Llety yn gweinyddu system ar lein ganolog ar gyfer ceisiadau am Preswylfeydd a’r Eiddo a weinyddir gan y Brifysgol.

Myfyrwyr newydd: bydd y swyddfa llety yn anfon llythyr yn awtomatig yn gwahodd myfyrwyr newydd i wneud cais ar lein am lety prifysgol yn fuan ar ôl Ebrill 1af ar ôl iddynt gael cadarnhad mai Aberystwyth yw eich dewis cadarn neu eich dewis wrth gefn. Sicrwydd o lety prifysgol os gwnewch gais cyn 1af Awst.

Myfyrwyr yn dychwelyd: Bydd y system o wneud cais ar lein am Lety yn dechrau ar ôl 1af Rhagfyr. Caiff yr union ddyddiad ac amser ei hysbysu yn yr ebost wythnosol i fyfyrwyr. Gweler hefyd y trefniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn allan.

Gofynnir i’r holl fyfyrwyr ymateb ar unwaith i unrhyw gynnig llety a gânt; bydd hyn yn sicrhau bod holl geisiadau’r myfyrwyr yn cael eu prosesu mor gyflym ac effeithiol â phosibl. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y llety o’u dewis cyntaf ond, yn amlwg, ni fydd yn bosib cyflawni hyn ymhob achos. Bydd ffurflenni cais am leoedd yn y Preswylfeydd i fyfyrwyr sy'n dychwelyd ar gael o'r Swyddfa Llety ar ôl 1 Rhagfyr. Gweler hefyd y trefniadau i fyfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn allan.

Preswylfeydd