Adran y Gyfraith a Throseddeg Aber yn gosod y bar yn uchel mewn Arolwg Myfyrwyr

10 Awst 2016

Mae myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi sgôr ardderchog o 89% i’w phrif gwrs gradd yn Y Gyfraith mewn arolwg DU dylanwadol, sy’n uwch na ffigwr y Deyrnas Unedig o 86%.

Rhoddodd myfyrwyr a gymerodd ran yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016 sgôr uchel i Adran y Gyfraith ar gyfer cymorth gan staff, a gwella sgiliau cyfathrebu myfyrwyr, gan ei gosod ymhlith yr 20% uchaf o 101 o gyrsiau tebyg o fewn y Deyrnas Unedig yn y ddau faes.

Mae llwyddiannau Adran y Gyfraith yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ar y brig yng Nghymru, ac ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau uwch y Deyrnas Unedig ar gyfer boddhad cyffredinol, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.

Meddai’r Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:  “Yn dilyn ein ffigurau cyflogadwyedd yn gynharach yn y flwyddyn, gyda 100% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael, rydym yn hapus dros ben gyda chanlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr diweddaraf.

“Mae graddedigion 2015 yr Adran wedi symud ymlaen i nifer o rolau gwahanol, gan gynnwys Paragyfreithiwr, Hyfforddai Trawsgludo, Ymchwilydd Troseddau CThEM a Swyddog Cymorth i Ddioddefwyr. Aeth eraill ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig, ar gyrsiau megis y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Agweddau Cyfreithiol a Gwleidyddol Materion Rhyngwladol (LLM), MSc mewn Cyfraith a Busnes, a Chwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar (BPTC).  Yn ogystal â’r ffaith bod ein gradd flaenllaw yn y Gyfraith wedi cael sgôr uwch na chyfartaledd y DU am foddhad cyffredinol, mae’n dda gweld bod Prifysgol Aberystwyth gyfan wedi cael sgorau arbennig o dda.”

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’u cyrsiau, yna nid yw’n rhy hwyr.  Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

  • Cyrsiau yn y Gyfraith sy’n mynd trwy broses glirio
  • Diwrnodau Agored

Mae ffigurau’r Arolwg Myfyrwyr yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n dangos bod 100% o raddedigion oedd yn dilyn cwrs Y Gyfraith naill ai mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau cyllido addysg uwch y  Deyrnas Unedig a chyrff eraill, ac mae’n holi barn tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.