Cysylltiadau Defnyddiol

Cysylltiadau Defnyddiol

Ceisiadau Estyniad ac Amgylchiadau Arbennig

Caiff estyniadau (o hyd at bedwar ar ddeg diwrnod calendr yn unig), cael ei ganiatáu mewn amgylchiadau eithriadol, e.e. am resymau meddygol, neu am amgylchiadau personol gwirioneddol na ellir eu rhagweld megis salwch, problemau teuluol neu brofedigaeth. 

Ni fydd methiant cyfrifiaduron, argraffwyr ac ati yn cael eu derbyn fel rhesymau dros gyflwyno gwaith a asesir yn hwyr.

Er mwyn derbyn estyniad, rhaid i'r Ffurflen Estyniad Aseiniad cael ei gyflwyno i fass-extensions@aber.ac.uk ar gyfer aseiniadau is-raddedig, o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cyflwyno.  Bydd penderfyniadau ynghylch ceisiadau yn cael eu cyfleu i'r myfyriwr o fewn 2 ddiwrnod gwaith wedi derbyn y cais.  Mae canllawiau cynhwysfawr yn cael ei darparu ar y ffurflen ei hun.

Ni fydd ceisiadau ôl-weithredol am estyniadau yn cael eu hystyried: mewn achosion lle mae'r amser terfyn yn cael ei golli, cynghori’r myfyrwyr i ddilyn Gweithdrefnau Amgylchiadau Arbennig.