Cadarnhad UCAS

Cadarnhad UCAS: Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Beth yw Cadarnhad UCAS?

Trwy broses Gadarnhad UCAS y byddwch chi’n cael gwybod a lwyddoch i gael lle mewn prifysgol. Caiff llythyrau cadarnhad (AS12b) eu hanfon atoch gan UCAS cyn gynted ag y caiff eich canlyniadau (graddau) eu derbyn gan y brifysgol a ddewisoch. Mae UCAS hefyd yn cadarnhau eich lle trwy system TRACIO UCAS.

Canlyniadau Cadarnhad UCAS:

  • Cadarnhad UCAS: Rydych chi wedi cael y graddau angenrheidiol – Byddwch yn ennill eich lle yn awtomatig ond mae’n rhaid i chi gadarnhau eich lle drwy anfon ebost yn dweud hynny at:  kay.morris@aber.ac.uk.
  • Cadarnhad UCAS: Os ydych yn methu o drwch blewyn â chael y graddau angenrheidiol ar gyfer eich cynnig cadarn (CF) – Gan ddibynnu ar boblogrwydd y cwrs hwnnw, gallech dal gael cynnig lle i’ch dewis cadarn. Fan hyn cewch wybod beth sy’n digwydd os ydych wedi methu o drwch blewyn â chael y graddau angenrheidiol. Os nad yw eich dewis cadarn yn gallu eich derbyn, yna, os ydych wedi cael y graddau angenrheidiol ar gyfer eich dewis wrth gefn byddwch yn cael cynnig y lle hwnnw yn awtomatig.
  • Cadarnhad UCAS: Clirio – Ni fyddwn yn cynnig lleoedd trwy drefn Clirio UCAS yn 2011
  • Cadarnhad UCAS: Addasu – Ni fyddwn yn cynnig lleoedd trwy drefn Addasu UCAS yn 2011

Os ydych wedi llwyddo i gwrdd â gofynion y cynnig a gawsoch gennym mae’n hanfodol bwysig eich bod yn ymateb i’r AS12b trwy anfon ebost at kay.morris@aber.ac.uk i gadarnhau eich bod yn derbyn eich lle ym Mhrifysgol Aberystwyth. Os na fyddwch yn cadarnhau eich bod yn derbyn ni allwn warantu llety i chi.

Os hoffech ddod yma i ymweld â’r brifysgol cyn dechrau ar eich astudiaethau gyda ni mae croeso mawr ichi gofrestru ar y Diwrnod Agored ar 15fed Medi. I warantu eich lle, cliciwch fan hyn .

Os nad ydych yn gallu dod i’r Diwrnod Agored ond yr hoffech gael gweld prif gampws y Brifysgol, byddwn yn cynnal cyfres o deithiau anffurfiol ym misoedd Awst a Medi. Gallwch archebu eich taith fan hyn.

Tracio UCAS

Y ffordd rwyddaf a chyflymaf i chi:

  • Wirio amodau eich cynnig
  • Wirio cadarnhad o’ch lle
  • Ebostio i ddweud wrthym eich bod yn ein dewis ni
  • Dod o hyd i’ch rhif Clirio UCAS os oes angen

Ewch ar drywydd eich sefyllfa fan hyn...