2.12 Archwiliad Ansawdd Adrannol Holiadur

1. Mae prosesau sicrhau ansawdd yn ddarostyngedig i archwiliad cyfnodol gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd sy’n gwahodd Cyfadrannau/Adrannau i gwblhau holiadur Archwiliad Ansawdd Adrannol, fel arfer yn flynyddol. Mae’r holiadur hwn yn gweithredu fel rhestr wirio i atgoffa adrannau am bolisïau, canllawiau a gweithdrefnau cyfredol sy’n ymarfer da. Mae’n arbennig o ddefnyddiol fel pwynt cyfeirio i staff o fewn adrannau academaidd a allai ymgymryd â rolau newydd a hefyd fel modd o amlygu newidiadau i bolisïau wrth iddynt gael eu mireinio a’u diweddaru. Mae’n cwmpasu meysydd allweddol yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd gan gynnwys asesu ac adborth, monitro cynlluniau a modiwlau, trefniadau tiwtora personol, a chynrychiolaeth myfyrwyr. Mae’r Archwiliad Ansawdd Adrannol yn gofyn i Gyfadrannau/Adrannau gadarnhau bod polisi a chanllawiau’r Brifysgol yn cael eu rhoi ar waith, a bod materion sy’n codi o’r ymatebion i’r holiaduron yn cael eu hystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Sicrhau Ansawdd. Mae holiadur yr Archwiliad Ansawdd Adrannol yn atodiad pwysig i’r broses adolygu gyfnodol adrannol lle mae gofyn i Athrofeydd/Adrannau gyflwyno tystiolaeth ddogfennol lawn o’u prosesau Sicrhau Ansawdd.