4.1 Confensiynau Arholiadau: Cyflwyniad i Ddyfarniadau Israddedig

1. Dylid ddarllen y ‘Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar’ ochr yn ochr â’r confensiynau arholiadau a amlinellir isod yn Adran 4 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Cewch hyd iddynt yn:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/regulations/modular-degrees/

Cewch hyd i’r ‘Graddau Sylfaen’ yn:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/regulations/foundation/

Dylai myfyrwyr israddedig gyfeirio hefyd at y Llawlyfr Arholiadau Israddedigion:
https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/students/ug-issues/exam-assess/exam-handbook/

2. Defnyddir y confensiynau arholiadau i bennu cynnydd rhwng blynyddoedd astudio ar gyfer gwahanol fathau o ddyfarniadau ac i gyfrif dosbarth y radd ar ddiwedd cynlluniau gradd. Dylid darllen y Confensiynau hyn ar y cyd â’r Rheoliadau Academaidd ar Gynnydd Academaidd.

3. Ar gyfer myfyrwyr Gradd Baglor sy’n ystyried trosglwyddo i Radd Meistr Integredig, cyfeiriwch at y Confensiynau Arholiad ar gyfer cynlluniau Meistr Integredig.