4.14 Gradd Baglor Gyffredin

1. Gellir dyfarnu Gradd Baglor Gyffredin fel cymhwyster ymadael heb ddosbarth, a hynny i fyfyrwyr israddedig sydd wedi gasglu’r credydau a amlinellir isod yn llwyddiannus, ond sydd heb gasglu’r credydau angenrheidiol ar gyfer dyfarnu Gradd Baglor gydag Anrhydedd. Y cymhwyster ymadael i fyfyrwyr i fyfyrwyr ym mlwyddyn olaf gradd Meistr Integredig yw Gradd Baglor gydag Anrhydedd.

2. I fod yn gymwys i gael Gradd Gyffredin rhaid bod y myfyrwyr wedi:

(i) Llwyddo i gasglu 120 credyd yn llwyddiannus, yn ôl y confensiynau arferol ar gyfer cwblhau Rhan Un cynlluniau Gradd a Graddau Sylfaen

(ii) Dilyn o leiaf 300 credyd i gyd, gyda lleiafswm o 60 credyd ar Lefel Tri neu uwch

(iii) Cael marc pasio o 40% mewn o leiaf 160 credyd yn Rhan Dau yn ei chrynswth (ac eithrio modiwlau Lefel S).

3. Drwy’r cynllun Crynhoi a Throsglwyddo Credydau, gall myfyrwyr â chymwysterau addas gael eu heithrio o hyd at 120 credyd ar Lefel Un.

4. Ni fydd myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl dros dro gyda’r bwriad o ddychwelyd yn ddiweddarach er mwyn cwblhau eu hastudiaethau yn gymwys i dderbyn y Radd Gyffredin wrth iddynt dynnu’n ôl.

5. Cymhwyster wrth gefn ar gyfer cynlluniau Baglor a Meistr Integredig yw’r Radd Gyffredin, ac ni chaiff ei hysbysebu i ddarpar ymgeiswyr. Ni ellir ei dyfarnu fel cymhwyster ynddi ei hun i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cynlluniau a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn llwyddiannus.