5.2 Meini Prawf ar gyfer Penodi

1. Cyfeirir pob darpar Arholwr Allanol at God Ansawdd Addysg Uwch yn y DU yr ASA yn ystod y cyfnod penodi. Gofynnir yn benodol i ddarpar Arholwyr Allanol ddatgan gwrthdaro buddiannau sy’n ychwanegol at y rheiny a nodir isod.

2. Fel arfer, ni ddylai Arholwyr Allanol ddal mwy na dwy swydd arholi allanol ar gyfer cynlluniau trwy gwrs ar yr un adeg.

3. Uwch-aelodau profiadol o staff yn unig all alw ar awdurdod ddylai gael eu penodi yn Arholwyr Allanol. Dylai pob Arholwr Allanol fod yn gyfarwydd â’r safon a ddisgwylir gan fyfyrwyr ar gyfer y dyfarniadau perthnasol ac â’r pwyntiau cyfeirio a gytunwyd gan y sector a gofynion cyrff proffesiynol priodol. Dylai’r academyddion a benodir wedi ymwneud yn helaeth â’r maes astudio perthnasol, ac ag asesu, cynllunio’r cwricwlwm, a gwella profiad myfyrwyr.

4.  Dylid ystyried mai’r egwyddor gyntaf yw penodi arholwyr mewnol ac allanol sy’n gymwys yn ieithyddol ac yn academaidd i farnu ar y testun Cymraeg gwreiddiol. Os nad yw’n bosibl penodi arholwr allanol i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid ystyried cyfieithu fel dewis, gan nodi bod i hyn risg uwch. I gael canllawiau pellach, darllenwch ganllawiau’r ASA ynglŷn ag arfer effeithiol wrth arholi ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg, guidelines-for-higher-education-providers-on-effective-practice-in-examining-and-assessing-in-welsh-within-wales.pdf

5. Bydd Arholwyr Allanol o’r tu allan i drefn y Brifysgol yn briodol lle bydd gofyn am arbenigedd proffesiynol. Rhaid i’r cyfryw Arholwyr ddangos eu bod yn gyfarwydd â’r safonau academaidd gofynnol neu gydweithio ag Arholwyr Allanol eraill sy’n gweithio o fewn i drefn y Brifysgol.

6. Ni ellir gwahodd cyn-fyfyrwyr neu gyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymuno â staff Prifysgol arall i fod yn Arholwyr Allanol cyn pen pum mlynedd, a rhoi amser penodol i’r myfyrwyr a ddysgwyd gan, neu gyda’r Arholwr Allanol fynd heibio, pa un bynnag sydd hwyaf. Fel arfer, ni fydd cyn-aelodau o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi ymddeol yn cael eu henwebu yn Arholwyr Allanol.

7. Bydd penodiadau Arholwyr Allanol yn cael eu monitro er mwyn sicrhau bod Arholwyr Allanol Prifysgol Aberystwyth yn parhau i gynrychioli ystod o sefydliadau’r DU ac i atal gorddibyniaeth ar Arholwyr o brifysgolion penodol.

8. Ni fydd Arholwr Allanol yn cael ei ailbenodi i arholi cynllun a gynigir yn yr un adran cyn pen pum mlynedd o leiaf, ac mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y caiff ei ailbenodi.

9. Ni chaniateir gwneud trefniadau cyfatebol ar gyfer arholi allanol gyda staff sy’n dysgu cynlluniau astudio tebyg mewn prifysgolion eraill.

10. Ni fydd Arholwr Allanol ar gyfer rhaglen neu raglenni arbennig yn cael ei olynu gan un arall o’r un adran o’r un Brifysgol.

11. Bydd Adolygwyr Allanol y Senedd yn staff gweinyddol uwch o Brifysgolion eraill a chanddynt brofiad sylweddol o weithredu arferion a gweithdrefnau arholi ac asesu. Eu gwaith fydd cadarnhau bod PA wedi gweithredu ei gweithdrefnau cymeradwy yn gywir a nodi gwelliannau posibl ar sail arferion da mewn mannau eraill.

12. Gellir penodi Arholwyr Cyswllt mewn meysydd pwnc arbenigol nad yw’r prif Arholwr Allanol y cynllunastudio neu faes pwnc yn gallu eu harholi. Gan y byddant yn atebol i’r prif Arholwr Allanol ac na fyddant yn rhoi sylwadau ar gynllun astudio, gwybodaeth arbenigol o faes pwnc perthnasol y modiwl(au) y disgwylir iddynt ei/eu g/cymedroli yn unig fydd angen arnynt.