5.5 Trefniadau Rhagarweiniol a Hawl i Weithio yn y DU

1. Bydd Arholwyr Allanol sydd wedi derbyn penodiadau yn derbyn dolen gyswllt i bennod berthnasol y Llawlyfr Ansawdd Academaidd gan y Gofrestrfa Academaidd er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gallu eu cyflawni. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn darparu deunyddiau briffio a chyflwyniadau ar-lein ar AberDysgu (Blackboard) bob sesiwn ar gyfer Arholwyr newydd ar gynlluniau israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs. Yn ogystal â’r deunyddiau briffio a ddarperir gan y Gofrestrfa Academaidd, mae llawlyfr Hanfodion Arholi Allanol AU Ymlaen (a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019) yn cynnig cyflwyniad cyffredinol cynhwysfawr i arholwyr allanol newydd ar sut mae arholi cynlluniau trwy gwrs, a gellir ei ddefnyddio fel ffynhonnell gyfeirio gan Arholwyr Allanol newydd a chyfredol. Yn rhan o brosiect Safonau Gradd, mae AU Ymlaen, ar y cyd â’r Swyddfa Fyfyrwyr, wedi datblygu dulliau ymarferol ar gyfer atgyfnerthu safonau arholi allanol yn y DU ar ffurf cwrs datblygu proffesiynol i arholwyr allanol, a allai fod o ddiddordeb i Arholwyr Allanol newydd a chyfredol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler: https://www.advance-he.ac.uk/degree-standards-project/professional-development-course-external-examiners.

2. Bydd yr adran academaidd berthnasol yn anfon copi o feysydd llafur ac amserlenni asesu’r cynllun(iau) astudio dan sylw at yr Arholwr Allanol, ynghyd â manylion dyddiadau cyfarfodydd y Byrddau Arholi perthnasol.

3. Yn unol â Chod Ansawdd Addysg Uwch yn y DU yr ASA, mae’n bosibl y bydd enwau, swyddogaethau a sefydliadau’r Arholwyr Allanol yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe staff adrannau, ac wrth fodiwlau/cynlluniau unigol ar y bas-data modiwlau/cynlluniau.

4. Yn unol â Deddf Lloches, Mewnfudo a Chenedlaetholdeb 2006, mae gan y Brifysgol ddyletswydd i sicrhau bod pawb sy’n gweithio i’r Brifysgol yn gymwys yn gyfreithiol i weithio yn y DU. Er mwyn gwirio hynny, bydd y Brifysgol yn gofyn i chi ddarparu sgan o’r dogfennau priodol o Restr A neu Restr B yn y rhestr wirio Hawl i Weithio i Gyflogwyr (https://www.gov.uk/government/publications/right-to-work-checklist). Dylid cyflwyno’r dogfennau hyn fel rhan o’r broses benodi. Ar amser cyhoeddi’r bennod hon, bydd y gwiriadau Hawl i Weithio’n cael eu gwneud gan yr Adran Adnoddau Dynol, a byddant yn cysylltu â phob Arholwr Allanol i drefnu’r manylion. Bydd copi o’r ddogfennaeth hon yn cael ei chadw gan y Brifysgol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Ni fydd modd gweinyddu treuliau a cheisiadau am ffioedd gan Arholwyr Allanol hyd nes y cwblheir y broses cadarnhau Hawl i Weithio.