5.7 Swyddogaeth Arholwyr Allanol mewn Byrddau Arholi

1. Bydd pob adran academaidd yn sefydlu Bwrdd neu Fyrddau Arholi terfynol er mwyn ystyried canlyniadau a gwneud argymhellion ynglŷn ag ymgeiswyr sy’n dilyn cynlluniau sy’n arwain at ddyfarnu cymwysterau israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs. Caiff holl Fyrddau Arholi’r Senedd a’r Byrddau Arholi Adrannol eu cynnal yn rhithiol (ar-lein) bellach gan ddefnyddio MS Teams. Mae hyn yn cynnwys yr holl fyrddau trwy gwrs, gan gynnwys y bwrdd hyfforddiant ymchwil. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod y bydd rhai achosion lle bydd angen i’r Arholwyr Allanol deithio i Aberystwyth o hyd, e.e. i adolygu samplau o waith nad oes modd cael mynediad iddynt yn hawdd ar-lein, arsylwi ar berfformiadau byw neu arddangosfeydd celf, neu oherwydd amser marcio a chymedroli cyfyngedig sy’n atal i samplau o sgriptiau arholiad gael eu hanfon at Arholwr Allanol cyn cyfarfod Bwrdd Arholi. Mewn achosion o’r fath, os oes rheswm da, bydd modd mynychu’r Byrddau Arholi’n bersonol.

2. Ar gyfer pob Bwrdd Arholi adrannol, bydd:

(i) Cadeirydd a fydd yn aelod o staff hŷn yr Adran berthnasol, a enwebwyd gan Bennaeth yr Adran

(ii) Arholwr (neu Arholwyr) Allanol a benodwyd yn unol â’r trefniadau penodi

(iii) Arholwyr Mewnol a/neu gynrychiolydd/wyr modiwlau perthnasol

(iv) Unigolion priodol a fydd yn bresennol, trwy wahoddiad y Cadeirydd, ar gyfer rhoi cyngor. Ni fydd gan y cyfryw unigolion yr hawl i bleidleisio.

3. Bydd holl ganlyniadau’r cynlluniau trwy gwrs yn cael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi perthnasol y Senedd yn cynnwys:

(i) Cadeirydd, sef y Dirprwy Is-Ganghellor sy’n gyfrifol am safonau academaidd oni bai fod y Dirprwy Is-Ganghellor yn dirprwyo’r cyfrifoldeb hwn i aelod o’r Bwrdd Academaidd

(ii) Adolygwr Allanol y Senedd a fydd yn uwch-weinyddwr o brifysgol arall â phrofiad sylweddol o weithredu arferion a threfniadau arholi ac asesu. Eu gwaith fydd cadarnhau bod PA wedi gweithredu ei gweithdrefnau cymeradwy yn gywir a nodi gwelliannau posibl ar sail arferion da mewn mannau eraill. Byddai gofyn i’r sawl a benodir fynychu Byrddau Arholi’r Senedd i oruchwylio’r trafodion

(iii) Arholwyr Mewnol a fydd yn cynrychioli holl fodiwlau dysgu’r adrannau y mae eu canlyniadau yn cael eu hystyried

(iv) Unigolion priodol a fydd yn bresennol, trwy wahoddiad y Cadeirydd, ar gyfer rhoi cyngor. Ni fydd gan y cyfryw unigolion yr hawl i bleidleisio.

4. Ystyrir Arholwyr Allanol yn aelodau o Fyrddau Arholi, i roi barn allanol a chynnig cyngor ac arweiniad. Ni fydd ganddynt yr hawl i roi feto ar benderfyniadau’r Bwrdd. Wrth gwblhau cylch arholi, bydd llofnod Arholwr Allanol ar y rhestr(au) llwyddo perthnasol yn awgrymu bod y penderfyniadau a nodwyd wedi’u cymryd gan y Bwrdd Arholi. Ni ddylid ei ddehongli o reidrwydd fel awgrym o gymeradwyo safonau’r arholiad neu drefniadau’r asesu; materion i’w hystyried yn adroddiadau’r Arholwyr Allanol i’r Brifysgol yw’r rhain.

5. Yn ystod semester un, bydd Arholwyr Allanol yn cyflawni’r holl dasgau sydd fel arfer yn gysylltiedig ag arholi megis cymeradwyo asesiadau a rhoi adborth ar gynlluniau/modiwlau y maent yn gyfrifol amdanynt ym Myrddau Arholi semester un. Ni ofynnir i Arholwyr Allanol fynychu cyfarfodydd Byrddau Arholi semester un ond gallant wneud hynny os ydynt yn dymuno. Bydd ymgynghori yn digwydd trwy ohebiaeth neu ddull priodol arall. Nid oes angen cyflwyno adroddiad ffurfiol ar ôl Byrddau Arholi semester un, ond dylai arholwyr allanol gynnwys eu sylwadau ynghylch modiwlau semester 1 yn yr adroddiad blynyddol y maent yn ei gyflwyno ar ôl Byrddau Arholi Semester 2.

6. Mae’n ddisgwyliad ffurfiol gan y Brifysgol i Arholwyr Allanol cynlluniau israddedig fod yn bresennol ym mhrif gyfarfod, semester dau y Byrddau Arholi ym Mehefin pan benderfynir ar ganlyniadau arholiadau’r pynciau y buont yn ymwneud â hwy.

7. Mae’r Brifysgol yn disgwyl yn ffurfiol i Arholwyr Allanol cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs fod yn bresennol ym myrddau arholi semester dau; er y gall adrannau wahodd Arholwyr Allanol i fynychu’r Bwrdd Arholi dyfarnu graddau terfynol ym mis Tachwedd/Rhagfyr, yn ychwanegol at Fwrdd Arholi semester dau. Dylai o leiaf un arholwr allanol fod yn bresennol yn ystod y bwrdd dyfarnu graddau terfynol ym mis Tachwedd/Rhagfyr; penderfynir hyn gan yr Adran yn ôl yr un gyfradd.

8. Mae'n ofynnol yn ffurfiol i Arholwr Allanol ARCHE fynychu dau banel blynyddol lle dyfernir cymrodoriaeth yr AAU i ymgeiswyr (fel arfer tua mis Tachwedd a mis Mai). Diben y panel yw cadarnhau dyfarnu statws Cymrawd Cyswllt, Cymrawd, ac Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch drwy gais uniongyrchol drwy ARCHE a chydnabod dyfarnu statws Cymrawd Cyswllt a Chymrawd drwy gymryd rhan yn y cynlluniau TUAAU ac AUPA.

9. Mae'n ofynnol i arholwr allanol TUAAU gyflwyno adroddiad blynyddol ar ôl y prif Fwrdd Arholi TUAAU ym mis Chwefror, oni bai bod Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gofyn iddo wneud yn wahanol.

10. Os bydd Arholwyr Allanol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, yn methu bod yn bresennol mewn cyfarfod lle mae eu presenoldeb yn ddisgwyliedig yn ffurfiol, dylent fod ar gael i ymgynghori â Chadeirydd y Bwrdd trwy gyfrwng ffôn, rhwydwaith fideo neu ddull priodol arall ac anfon yr holl ddogfennau angenrheidiol ar gyfer trafodaethau’r cyfarfod.