1.1 Ynglŷn â’r Llawlyfr

1. Mae’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) yn ffynhonnell hwylus ar gyfer y polisïau, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sy’n cefnogi rheolaeth Prifysgol Aberystwyth dros safonau ac ansawdd academaidd. Fe’i bwriedir i’w ddefnyddio gan aelodau staff y Brifysgol, arholwyr allanol, adolygwyr allanol a phartneriaid cydweithredol. Cyhoeddir y Llawlyfr ar-lein ond gellir hefyd lawrlwytho ei adrannau unigol ar ffurf pdf a’u hargraffu. Mae’r Llawlyfr hefyd yn cynnwys dolen i Reolau a RheoliadauChonfensiynau Arholiadau’r Brifysgol.

2. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau bod enw da Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal a’i wella lle bynnag y bo hynny’n bosibl, a bod ein trefniadau sicrhau ansawdd yn parhau i fod yn drwyadl ac yn eglur.

3. Gellir lawrlwytho gwybodaeth ychwanegol a chopïau electronig o ffurflenni a thempledau (yn cynnwys ffurflenni ar gyfer arholwyr allanol) o’r adran berthnasol o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Gan fod ffurflenni’n cael eu diweddaru’n gyson, dylid eu cyrchu o’r Llawlyfr ym mhob achos, yn hytrach na chadw ac ailddefnyddio fersiynau’r blynyddoedd cynt.