1.4 Swyddogion y Brifysgol gyda chyfrifoldebau Sicrwydd Ansawdd

1. Yr Is-Ganghellor yw prif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol ac mae’n gyfrifol am berfformiad cyffredinol y Brifysgol. Yr Is-Ganghellor yw Cadeirydd y Senedd.

2. Mae’r Dirprwy Is-Gangellorion, Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, yn aelodau allweddol o Grŵp Gweithredol y Brifysgol ac maent yn adrodd i’r Is-Ganghellor ar feysydd penodol eu cyfrifoldeb.

3. Dirprwy Is-Ganghellor pob Cyfadran sy’n gyfrifol am arwain y Gyfadran honno, ac mae’n atebol i’r Cyngor, trwy’r Is-Ganghellor. Mae’r Cyfadrannau yn hwyluso trefniadaeth a gwaith academaidd y Brifysgol.

Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn gwneud gwaith cydlynu allweddol rhwng yr adrannau sy’n gweithredu yn eu meysydd diddordeb penodol hwy. Mae ganddynt hefyd y grym i weithredu ar faterion sy’n peri pryder, ar yr amod eu bod yn adrodd ynghylch hynny i’w cyfadrannau, y Pwyllgor Materion Academaidd, y Dirprwy Is-Gangellorion Dysgu ac Addysgu ac Ymchwil, a’r Is-Ganghellor fel y bo’n briodol. Mae Dirprwy Is-Gangellorion y Cyfadrannau yn cydweithio’n agos yn eu meysydd cyfrifoldeb ac yn trefnu, trwy gyfrwng y Gofrestrfa Academaidd, i drafod a gwneud argymhellion ar eitemau sy’n gyffredin i’r cyfadrannau. Yn hyn o beth cânt lawer o gymorth gan aelodau allweddol o staff cymorth y Gofrestrfa. Maent hefyd yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau bod y cyfadrannau’n ymdrin â materion sy’n ymwneud â myfyrwyr mewn modd cyson. Maent yn cael eu cefnogi yn eu swyddi gan Ddeoniaid Cyswllt, sydd â chyfrifoldebau penodol am Ddysgu ac Addysgu, Ymchwil a darpariaeth Gymraeg.

Bydd gan bob adran academaidd o fewn cyfadran Bennaeth sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol, gan gynnwys goruchwylio rhaglenni a strwythurau academaidd. Mae Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran a Deon Cyswllt y Gyfadran yn cael cymorth Rheolwr Cyfadran ac yn cael eu cynghori gan Bwyllgor Gweithredol, sy’n cynnwys aelodau o staff sy’n gyfrifol am feysydd allweddol megis Dysgu ac Addysgu, a Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae’n ofynnol i bob cyfadran gael Pwyllgor Materion Academaidd. Amlinellir hyn yn Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol.

Penaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am reoli’r addysgu a’r ymchwil yn eu hadrannau o ddydd i ddydd, o fewn y canllawiau a bennwyd ar lefel y Brifysgol, gan gynnwys y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae gan yr Adrannau Gyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu a Chyfarwyddwyr Ymchwil penodedig sy’n adrodd i Bennaeth yr Adran ar y materion hyn. Mae’n ofynnol i bob adran gynnal cyfarfodydd adrannol sy’n cynnwys yr holl staff academaidd o leiaf unwaith y tymor i drafod materion academaidd. Ymhlith dibenion y cyfarfod mae:

(i) Bod yn gyfrwng ymgynghori â, a chynghori, Pennaeth yr Adran ar y modd y gweinyddir materion yr adran

(ii) Trafod y materion canlynol er mwyn hybu’r uchod:

  • i’w gilydd natur a chynnwys cyrsiau
  • dyrannu dyletswyddau addysgu a dyletswyddau eraill o fewn yr adran
  • dyrannu arian ac ystafelloedd o fewn yr adran
  • y defnydd o gymorth ysgrifenyddol, ymchwil a thechnegol.

Yn rhan o’r uchod, maent yn cael adroddiadau gan Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr Adran ac adroddiadau ar y monitro ffurfiol ar raglenni a gynhelir yn yr adran yn flynyddol, ac maent hefyd yn cofnodi’n ffurfiol adroddiadau Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr yr adran, sy’n fodd defnyddiol i’r staff a’r myfyrwyr roi adborth i’w gilydd.

4. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant Datblygu Ymchwilwyr trwy’r Brifysgol gyfan; y mae hefyd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu polisi ar faterion uwchraddedig, darparu cyfleusterau ar gyfer uwchraddedigion, a monitro recriwtio a chynnydd academaidd myfyrwyr uwchraddedig. Mae Pennaeth Ysgol y Graddedigion hefyd yn cymeradwyo enwebiadau ar gyfer arholwyr allanol ar raddau ymchwil.

5. Mae nifer o aelodau staff hŷn y Gofrestrfa Academaidd yn ymwneud â chynnal y gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan adrodd i’r Cofrestrydd Academaidd. Mae’r Gofrestrfa Academaidd hefyd yn darparu cymorth ar lefel cyfadrannau.