Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar

Diwygiwyd fis Medi 2018 ac yn berthnasol i bob myfyriwr sy’n dechrau Rhan Un neu Ran Dau eu gradd o fis Medi 2018.

1. Gellir dyfarnu graddau cychwynnol (Baglor a Meistr Integredig) i'r sawl sydd wedi cwblhau cynllun astudio modiwlar a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn llwyddiannus.

2. Bydd pob cynllun yn cael ei ddiffinio fel un:

  • Anrhydedd Sengl
  • Anrhydedd Cyfun
  • Prif Bwnc/Is-bwnc
  • Cyffredin

       yn unol â'r strwythurau a gymeradwywyd gan y Brifysgol.

 3. I fod yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad gradd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyrwyr:

    • fod wedi dilyn cynllun astudio modiwlar a gymeradwywyd am y cyfnod a bennwyd gan y Brifysgol, ac eithrio fel y darperir drwy Reoliad 28 isod;
      • fod wedi cyrraedd y cyfryw isafswm lefelau credyd a bennir mewn Cynllun a gymeradwywyd gan y Brifysgol;
        • fod wedi cyflawni unrhyw amod arall/amodau eraill a fynnir gan y Brifysgol.

        4. Mae cynlluniau astudio’n cynnwys modiwlau sydd wedi'u cymeradwyo, pob un ohonynt â gwerth credyd sydd wedi'i ddiffinio mewn perthynas â'r oriau dysgu tybiannol  sy'n gysylltiedig â'r modiwl, fel yr amlinellir yng Nghynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau’r Brifysgol.

        5. Bydd graddau cychwynnol yn cynnwys dwy ran, sef Rhan Un a Rhan Dau.  Bydd y Brifysgol yn pennu ac yn cyhoeddi fel y bo'n addas reolau i reoli cynnydd myfyrwr rhwng blynyddoedd astudio a dosbarthiad graddau Anrhydedd. Bydd pob modiwl a astudir yn Rhan Dau yn cyfrannu at asesiad gradd terfynol pob myfyriwr, yn amodol ar gyfyngiadau a amlinellir yng Nghynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau’r Brifysgol. Mae’n bosibl y gellir derbyn modiwlau a astudiwyd mewn sefydliadau eraill sydd wedi'u cymeradwyo yn lle modiwlau a astudiwyd yn y Brifysgol.

        6. Mae modiwlau ar gael ar wahanol lefelau, yn unol â'r hyn a ddiffinnir gan y Brifysgol yn ei Chynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau.

        7. Ac eithrio myfyrwyr a dderbynnir o dan ddarpariaethau Rheoliad 30 isod, rhaid i fyfyrwyr fod wedi astudio’r hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 360 o gredydau, ac o leiaf 120  o'r rheiny fel rheol ar Lefel 3 AU/Lefel 6 FfCChC, neu'n uwch, er mwyn bod yn gymwys i gael gradd Anrhydedd ar lefel Baglor.  Ar gyfer dyfarniadau Meistr integredig, rhaid i fyfyrwyr fod wedi astudio’r hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 480 o gredydau, ac o leiaf 120 o’r rheiny fel rheol ar Lefel M AU/Lefel 7 FfCChC, neu’n uwch. Fel rheol mae'n ofynnol i fyfyrwyr amser-llawn astudio’r hyn sydd gyfwerth ag o leiaf 120 o gredydau yn ystod pob sesiwn academaidd, fel rheol ar sail 60 credyd fesul semester.  I ganiatáu hyblygrwydd ac i hwyluso dewis i fyfyrwyr, caniateir uchafswm o 70 credyd ac isafswm o 50 credyd fesul semester fel rheol.

        8. Caiff myfyrwyr astudio am ddyfarniadau ar sail ran-amser, yn amodol ar y terfynau amser cyffredinol ar gyfer cwblhau'r cynllun, fel y nodir ym mharagraff 28 isod.

        9. Gyda chymeradwyaeth y Brifysgol, ni all rhagor nag 20 credyd o fodiwlau Lefel 0 AU/3 FfCChC gyfrif tuag at gwblhau Rhan Un ac ni all rhagor nag 20 credyd o fodiwlau Lefel 1 AU/4 FfCChC gyfrif tuag at gwblhau Rhan Dau.

        10. Bydd myfyrwyr fel rheol yn cael eu hasesu yn ystod y cyfnod yn syth ar ôl cwblhau'r gwaith dysgu sy'n gysylltiedig â phob modiwl yn unol â'r dulliau asesu a'r gweithdrefnau marcio a gymeradwywyd gan y Brifysgol.

        11. Y marc pasio modiwlar ar Lefelau 1, 2 a 3 fydd 40%. Y marc pasio modiwlar ar Lefel M fydd 50%. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Un gael hyd at dair ymgais i adfer modiwl y maent wedi'i fethu.  Byddant yn gymwys i gael y marciau llawn pan fyddant yn ailsefyll. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i fyfyrwyr Rhan Dau gael dwy ymgais arall i ailsefyll neu gyfnewid modiwl y maent wedi'i fethu. Ni fydd modd iddynt gael mwy na’r marc pasio isaf ym mhob modiwl o'r fath, beth bynnag fo lefel eu perfformiad mewn gwirionedd. Gall y Byrddau Arholi gynnig rhagor o gyfleoedd i ailsefyll lle derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar berfformiad.

        12. Yn amodol ar baragraff 11 uchod, pan fo myfyriwr wedi methu modiwl yn gyffredinol ond wedi pasio rhai elfennau sy'n cael eu hasesu, bydd y marciau a gafwyd yn yr  elfennau hynny fel rheol yn cael eu cario ymlaen i unrhyw ailsefyll.

        13. Yn achos modiwlau a fethwyd, fel rheol disgwylir i fyfyrwyr:

              1.  (ail)gyflwyno gwaith cwrs y maent wedi'i fethu neu waith cwrs nad yw'n bodoli (os mai gwendidau yn yr elfen hon sydd wedi arwain at y methiant)

              NEU:

              2.  ailsefyll yr arholiad (pan fo'r myfyrwyr wedi methu'r arholiad neu wedi bod yn absennol ohono)

              NEU:

              3.  ailgyflwyno'r gwaith i'w asesu ac ailsefyll yr arholiad (pan fo myfyrwyr wedi methu dwy ran yr asesiad, neu naill ran yr asesiad neu'r llall mewn rhai achosion).

        Gall yr Adrannau, fodd bynnag, fynnu defnyddio dulliau asesu gwahanol i’r asesiadau gwreiddiol a gymeradwywyd ar gyfer modiwl sy’n cael ei ailsefyll. Rhaid sicrhau bod y cyfryw asesiadau yn dal i brofi canlyniadau dysgu’r modiwl. Bydd yr Adrannau yn datgan yn eglur wrth fyfyrwyr pa asesiadau fydd yn berthnasol iddynt.

        14. Bernir bod myfyrwyr wedi cwblhau'r modiwl pan fo'r gwaith dysgu sy'n gysylltiedig ag ef wedi dod i ben. Ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu'n ôl o'r asesiad terfynol oni bai bod tystiolaeth o amgylchiadau arbennig (salwch neu amgylchiadau tosturiol eraill) y gellir dangos eu bod wedi effeithio ar eu perfformiad ac sydd wedi eu cyflwyno i'r Bwrdd Arholi perthnasol cyn iddo ystyried eu canlyniadau.

        15. Pan fo gwaith wedi'i asesu yn cael ei ddiffinio fel rhan hanfodol o fodiwl, bydd yr Adrannau yn nodi'n eglur yn y wybodaeth a roddir i fyfyrwyr beth yw'r cosbau ar gyfer peidio â chyflwyno. Pan fo myfyrwyr yn methu â chyflwyno gwaith cwrs i'w asesu yn Rhan Dau erbyn y dyddiad cau a nodwyd, ni ddylai fod ganddynt hawl awtomatig i  ailgyflwyno er mwyn adfer methiant.

        16. Fel rheol bydd myfyrwyr Rhan Un sy'n methu â chwblhau'r flwyddyn yn foddhaol yn ôl yr hyn a ddiffinnir yn y confensiynau, ond na chafwyd unrhyw adroddiadau  anffafriol ynghylch eu cynnydd academaidd, yn cael caniatâd i ailadrodd rhan neu'r cyfan o'r flwyddyn fel myfyrwyr amser-llawn, rhan-amser neu ran-amser allanol. Fel arfer, cedwir unrhyw gosbau am ymddygiad academaidd annerbyniol.

        17. Yn Rhan Dau, ni chaiff myfyrwyr ailsefyll unrhyw fodiwl yr enillwyd marc pasio ar ei gyfer eisoes. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr Rhan Dau, gyda chaniatâd yr Adran, ail- gychwyn eu hail flwyddyn eto ar gynllun gradd gwahanol ar yr amod bod yr amcanion dysgu wedi cael eu cyflawni ar gyfer blwyddyn gyntaf y cynllun gradd newydd. Mae’r cyfyngiad cyffredinol o dair ymgais i basio modiwl (modiwlau newydd eu dewis neu fodiwlau a astudiwyd yn flaenorol) yn parhau’n berthnasol e.e. byddai ail-wneud yr ail flwyddyn yn cael ei ystyried yn un o’r tair ymgais, os yw’r modiwlau wedi’u pasio’n flaenorol ai peidio. Bydd modiwlau sy’n cael eu hailsefyll am farc wedi’i gapio, dangosyddion N, yn ogystal ag unrhyw fodiwlau a basiwyd sydd eu hangen, yn cael eu trosglwyddo i’r cynllun gradd newydd. Caiff myfyrwyr hefyd ddewis ailsefyll y modiwlau y maent wedi eu methu yn flaenorol yn unig. Mae’n bosib y caiff myfyrwyr ddewis modiwlau newydd yn lle’r rhai a fethwyd, ond bydd y rhain yn aros wedi’u capio.

        18. Ar gyfer astudiaethau amser llawn rhaid i fyfyrwyr symud ymlaen o fewn dwy flynedd o gychwyn pob lefel yn Rhan Dau.

        19. Bydd yr Adrannau yn cadw cofnodion am yr holl fyfyrwyr sy'n methu modiwlau unigol.

        20. Bydd y Byrddau Arholi Adrannol yn cofnodi’n glir pan fo marciau wedi'u haddasu, ynghyd â'r rhesymau am yr addasu.

        21. Bydd myfyrwyr sy'n absennol o arholiadau heb reswm nac esboniad da neu sy'n methu oherwydd nad ydynt wedi cyflwyno gwaith i'w asesu dan y rheolau a ddiffinnir gan y Brifysgol yn cael eu cosbi’n unol â’r hyn a bennir gan y Brifysgol.  Gall y rhai sydd wedi methu neu wedi bod yn absennol o asesiadau modiwl am resymau meddygol, tosturiol neu resymau arbennig eraill, gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi, gael caniatâd i ailsefyll am y marc llawn. Bydd myfyrwyr o'r fath yn cael dewis ailsefyll y modiwlau perthnasol yn y cyfnod arholiadau atodol neu yn ystod y sesiwn ganlynol.   

        22. Ni chaiff myfyrwyr gradd Baglor fethu mwy nag 20 credyd sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio Modiwlau Lefel S). Ni chaiff myfyrwyr gradd Meistr Integredig fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau (Ail Flwyddyn) a Thri (Trydedd Flwyddyn) ac ni chant fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M (Pedwaredd Flwyddyn).

        22a. Cynlluniau BSc Nyrsio - rhaid i bob un o'r 360 credyd gael eu pasio yn Rhan Un a Rhan Dau, h.y. ni chaniateir methu unrhyw gredydau. (Medi 2022).

        23. Gall myfyrwyr a dderbynnir i gynllun gradd gychwynnol modiwlar ond sydd wedyn yn methu â bwrw ymlaen i'w gwblhau, neu na chaniateir iddynt wneud hynny, fod yn gymwys ar gyfer un o'r dyfarniadau canlynol, gan ddibynnu ar nifer y credydau yr oeddynt wedi'u casglu ar y lefelau priodol adeg gadael y cynllun:

          • Tystysgrif Addysg Uwch (Lefel 1 AU/4 FfCChC)
            • Diploma Addysg Uwch (Lefel 2 AU/5 FfCChC)
              • Gradd Gyffredin (Lefel 3 AU/6 FfCChC)
                • Gradd Baglor (Lefel 3 AU/ 6 FfCChC)

                Bydd y Brifysgol yn pennu confensiynau ar gyfer dyfarnu'r cymwysterau hyn. Fel rheol ni fydd myfyrwyr sy'n tynnu'n ôl dros dro gyda'r bwriad o ddychwelyd at eu hastudiaethau yn nes ymlaen yn gymwys i gael Tystysgrif Addysg Uwch, y Ddiploma Addysg Uwch, y Radd Gyffredin neu’r Radd Baglor.

                24. Bydd ymgeiswyr sy'n ymadael â chynllun gradd gyda Thystysgrif Israddedig Diploma Addysg Uwch neu Radd Gyffredin o dan y trefniadau hyn yn gymwys i gael marc Pasio yn unig.

                25. Dyfernir i fyfyrwyr graddau cychwynnol sydd wedi cyflawni gofynion y cynllun y dosbarthiadau Anrhydedd canlynol:

                • Cyntaf
                • Ail Ddosbarth, Adran
                • Ail Ddosbarth, Adran Dau
                • Trydydd Dosbarth

                Bydd gan Fwrdd Arholi ddisgresiwn i benderfynu ar y myfyrwyr hynny ar raddau cychwynnol y gallent fod, ar ôl methu â bodloni'r Bwrdd y dylid dyfarnu Anrhydedd iddynt, yn gymwys ar gyfer dyfarniad gradd ar lefel Pasio.

                26. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd ar lefel Anrhydedd neu Basio fynd ymlaen wedi hynny i ailsefyll modiwl a fethwyd gyda'r bwriad o wella Dosbarth y Radd a ddyfarnwyd ynghynt.

                27. Bydd myfyrwyr sy'n methu â chyrraedd y safon sy'n ofynnol ar gyfer dyfarnu gradd ond sydd wedyn yn adfer eu methiant mewn modiwlau er boddhad y Bwrdd Arholi o dan Reoliad 11 uchod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad gradd ar lefel Pasio neu Anrhydedd, fel y bo'n briodol.

                28. Rhaid i bob myfyriwr am radd fodiwlar gwblhau'r holl asesiadau a ragnodwyd o fewn y cyfnodau canlynol, heb gynnwys unrhyw flwyddyn ragarweiniol/sylfaen:

                      A.  Dull amser-llawn

                      cynllun dwy flynedd: heb fod yn fwy na phedair blynedd o ddechrau'r cynllun

                      cynllun tair blynedd: heb fod yn fwy na phum mlynedd o ddechrau'r cynllun 

                      cynllun pedair blynedd: heb fod yn fwy na chwe blynedd o ddechrau'r cynllun

                      cynllun pum mlynedd: heb fod yn fwy na saith mlynedd o ddechrau'r cynllun

                      B.  Dulliau astudio eraill

                Dim llai na phedair blynedd a dim mwy na deng mlynedd o ddechrau'r cynllun. Gall y Brifysgol bennu terfynau amser is ar gyfer cynlluniau astudio unigol. Gellir ymestyn y terfynau amser uchod mewn achosion eithriadol os ceir cymeradwyaeth gan y Brifysgol.

                29. Bydd yr Adrannau yn cadw sgriptiau arholiadau a gwaith arall a asesir am o leiaf chwe mis wedi i ymgeiswyr gwblhau pob rhan o'u cynllun astudio.

                30. O fewn y terfynau cyffredinol a bennwyd gan y Brifysgol ar gyfer casglu a throsglwyddo credydau, gall y Brifysgol, yn ôl ei disgresiwn, farnu bod perfformiad myfyrwyr  mewn astudiaethau a ddilynwyd yn flaenorol mewn sefydliad arall sydd wedi'i gymeradwyo ac/neu unrhyw ddysgu blaenorol drwy brofiad yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu gradd.  Rhaid i'r cyfryw astudiaethau neu ddysgu drwy brofiad blaenorol fod yn berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn a byddant yn cael eu graddio o safbwynt credydau gan y Brifysgol cyn i'r myfyrwyr gael eu derbyn i'r Brifysgol.

                Rhaid i uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i'w cyfrif tuag at radd Baglor gychwynnol y Brifysgol o dan y trefniadau hyn beidio â bod yn fwy na 240. DS Yn achos cynlluniau Nyrsio Cyn Cofrestru caniateir uchafswm o 50% o Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (Trwy Brofiad) (RP(E)L). Lle bo uchafswm y credydau y gellir eu trosglwyddo wedi ei dderbyn, rhaid i weddill y credydau sydd i'w hastudio yn y Brifysgol fod ar Lefel 3 AU/Lefel 6 FfCChC neu'n uwch. Gweler Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau’r Brifysgol.

                Rheoliadau Ychwanegol

                Darpariaethau arbennig mewn perthynas â'r graddau canlynol:

                BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) 

                Bydd myfyrwyr sydd yn cael eu derbyn i'r cynlluniau BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar gyda'r eithriad canlynol. Os na fyddant yn gallu symud ymlaen wedi hynny i gwblhau’r cymhwyster, neu os na chaniateir iddynt wneud hynny, mae’n bosibl – gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol pan fyddant yn gadael – y byddant yn gymwys am un o'r dyfarniadau canlynol, gydag 'Astudiaethau Gofal Iechyd' fel teitl y cynllun:

                • Tystysgrif Addysg Uwch (AU Lefel 1/FfCChC 4
                • Diploma Addysg Uwch (AU Lefel 2/FfCChC 5

                Graddau Meistr Integredig

                Cynllun Astudio

                Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo’r graddau Meistr integredig canlynol:

                MArts

                MBiol

                MAg

                MComp

                MEng

                MLaw

                MLibArts

                MMath

                MPhys

                MSci

                Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer gradd Meistr Integredig ddilyn cynllun astudio a fydd fel rheol yn para o leiaf bedair blynedd academaidd ac yn cynnwys cyfanswm o 480 o gredydau ar y lefelau a nodir isod:

                Credydau

                Lefel AU

                Lefel FfCChC

                120

                1

                4

                120

                2

                5

                120

                3

                6

                120

                M

                7

                 

                1. Trosglwyddo rhwng Graddau Meistr Integredig a chynlluniau Baglor cytras

                Yn ôl disgresiwn y Brifysgol, gall ymgeiswyr am radd Meistr Integredig drosglwyddo, neu orfod trosglwyddo, eu cofrestriad i gynllun astudio cytras am BSc, BEng neu BA ar yr adegau canlynol:

                       a. Naill ai

                       pan fyddant wedi casglu 120 o gredydau ar Lefel 1 AU/Lefel 4 FfCChC;

                       b. Neu, os yw'n ddiweddarach,

                       pan fyddant wedi casglu 120 o gredydau eraill ar Lefel 2 AU/Lefel 5 FfCChC.

                 Bydd ymgeiswyr o'r fath yn ymuno â'r cynllun gradd Baglor yn y man priodol, ac ar ddechrau'r modiwlau Lefel 3 AU/Lefel 6 FfCChC fan bellaf.

                2. Dyfarnu gradd Baglor i fyfyrwyr sydd wedi casglu 360 o gredydau mewn cynllun Meistr Integredig:

                Bydd myfyrwyr sydd wedi casglu 360 o gredydau, gyda    120 o gredydau yr un ar Lefelau 1, 2 a 3 AU/Lefelau 4, 5 a 6 FfCChC neu'n uwch, ond sydd:

                •  yn methu â mynd ymhellach â'r cynllun, neu
                •  yn methu â chasglu 120 o gredydau eraill ar Lefel M AU/Lefel 7 FfCChC

                yn gallu, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, cael gradd Baglor ar lefel Anrhydedd neu Basio, fel y bo'n briodol, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y cynllun hwnnw.

                3.  BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar)

                Bydd myfyrwyr sy'n cael eu derbyn ar gynllun BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau ar gyfer Graddau Cychwynnol Modiwlar gyda'r eithriad canlynol.   Os na allant wedyn symud ymlaen, neu os na chaniateir iddynt fynd ymlaen i gwblhau'r dyfarniad, yn ddibynnol ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol pan fyddant yn ymadael, mae'n bosib y byddant yn gymwys i dderbyn un o'r dyfarniadau canlynol gydag 'Astudiaethau Plentyndod Cynnar' fel teitl y cynllun (dim Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar):

                • Tystysgrif Addysg Uwch (AU Lefel 1/CQFW 4)
                • Diploma mewn Addysg Uwch (AU Lefel 2/CQFW 5)
                • Gradd Gyffredin (Lefel AU 3/CQFW 6)

                Medi 2023