Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Uwchraddedig Modiwlar trwy Gwrs

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu dyfarnu nifer o fathau o raddau Meistr trwy gwrs, Tystysgrifau Uwchraddedig a Diplomâu ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y Brifysgol o hyn allan. Oni nodir fel arall, maent yn berthnasol i raglenni sy’n cychwyn o Fedi 2018. Bydd myfyrwyr a gofrestrwyd ar raglenni cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu llywodraethu gan y rheoliadau a oedd mewn grym ar yr adeg y cawsant eu derbyn.

Mynediad

1.  Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cyrraedd 17 mlwydd oed neu fwy adeg cael mynediad ac, oni bai eu bod yn gallu bodloni Rheoliad 2 isod, rhaid iddynt ddal un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau'r cynllun:

(a) gradd gychwynnol o'r Brifysgol;

(b) gradd gychwynnol a ddyfarnwyd gan gorff dyfarnu graddau cymeradwyedig arall;

(c) cymhwyster anraddedig neu fod wedi cwblhau modiwlau uwchraddedig y mae'r Brifysgol wedi barnu eu bod o safon foddhaol at ddiben derbyn uwchraddedigion

2.  Hefyd gellir derbyn personau sydd heb radd yn ymgeiswyr ar yr amod eu bod yn dal swydd gyfrifol sy'n berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn.

3.  Rhaid i ddarpar ymgeisydd sydd eisoes yn meddu ar radd doethur ddangos bod y cynllun Gradd Meistr sydd i'w ddilyn mewn maes astudio gwahanol i'r un y dyfarnwyd y radd doethur amdano.

4.  Ni waeth beth fo cymwysterau mynediad yr ymgeisydd, rhaid i'r sefydliad fodloni ei hun fod yr ymgeisydd o'r safon academaidd sy'n ofynnol i gwblhau'r cynllun astudio arfaethedig.

5.  Rhaid i'r holl ymgeiswyr gofrestru fel myfyrwyr yn y Brifysgol ar ddechrau'r rhaglen a thalu'r ffioedd priodol.

Strwythur y Cynllun a'r Dyfarniadau

6.  Bydd ymgeiswyr yn dilyn cynllun astudio modiwlar, gan ddechrau ar y dyddiad dechrau priodol a gymeradwyir ar gyfer y cynllun.

7.  Caiff ymgeiswyr ymgymhwyso am Radd Meistr Modiwlar wedi iddynt gwblhau'n llwyddiannus 180 o gredydau FfCChC Lefel 7 (sef y Lefel M Addysg Uwch yn flaenorol) ar gynllun astudio modiwlar cymeradwyedig a ddarperir yn amser llawn, yn rhan-amser neu trwy ddysgu o bell. Beth bynnag fo’r dull dysgu, bydd cynnwys academaidd cynlluniau yn cyfateb i’w gilydd a rhaid i'r asesiad gynnwys traethawd hir neu'r hyn sy'n cyfateb ac sy'n gymeradwyedig (gweler Rheoliad 21, isod).

8.  Caiff ymgeiswyr a dderbynnir i gynllun Gradd Meistr Modiwlar ymgymhwyso am ddyfarniadau canolradd y Brifysgol, fel a ddangosir ym mharagraff 10 y rheoliadau hyn, isod.

9.  Oni phennir i'r gwrthwyneb yn Rheoliad 21 isod, bydd y modiwlau a ddysgir yn cwmpasu gwerth 120 o gredydau a gymeradwyir gan y Brifysgol. Hefyd gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau cyfnod, neu gyfnodau, o hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol. 60 credyd fydd gwerth elfen traethawd hir y cynllun, neu’r hyn sy’n cyfateb i hyn ac sy’n gymeradwyedig (gweler Rheoliad 21 isod). Amlinellir y trefniadau ar wahân ar gyfer MRes yn Rheoliad 22 isod.

10. Caiff ymgeiswyr a dderbynnir i gynllun Meistr modiwlar ond nad ydynt yn mynd ymlaen i'w gwblhau ymgymhwyso ar gyfer un o’r dyfarniadau canlynol:

Tystysgrif Uwchraddedig

(ar ôl ennill dim llai na 60 o gredydau ar Lefel 7 FfCChC, (Lefel M Addysg Uwch yn flaenorol);

Diploma Uwchraddedig

(ar ôl ennill 120 o gredydau ar Lefel 7 FfCChC (Lefel M Addysg Uwch yn flaenorol).

Ni fydd y credydau a ddyfernir am gwblhau lleoliad gwaith yn y diwydiant yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.

Byddai myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar yr MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Gradd Ddeuol) ac sy'n cwblhau 120 credyd yn llwyddiannus yn Aberystwyth ond nad ydynt yn mynd ymlaen i ail flwyddyn y cynllun yn gymwys ar gyfer dyfarnu MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol iddynt.

Trosglwyddo Credydau

11.  Ni chaiff mwyafswm y credydau y gellir eu trosglwyddo i gynlluniau astudio Meistr fod yn uwch na 120. Ni chaniateir trosglwyddo mwy na 30 credyd ar gyfer tystysgrif uwchraddedig, a dim mwy na 60 ar gyfer Diploma uwchraddedig. Rhaid i’rcredydau sydd i'w dilyn fod ar Lefel 7 FfCChC, (Lefel M Addysg Uwch yn flaenorol). Ni cheir priodoli credyd trosglwyddadwy i draethawd hir cynllun na’r hyn sy’n cyfateb i hynny ac sy’n gymeradwyedig. O fewn y terfyniadau hyn, caiff y Brifysgol, yn ôl ei ddisgresiwn, farnu bod perfformiad myfyriwr mewn unrhyw ddysgu blaenorol drwy brofiad perthnasol yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu Gradd Meistr modiwlar. Bydd credydau a drosglwyddwyd yn cael eu cynnwys ar gyfer gofynion credydau’r cynllun, ond fel rheol ni fydd marciau’r credydau hynny yn cael eu cynnwys yng nghyfartaledd y marciau a ddefnyddir i bennu dosbarth y dyfarniad.

Asesu

12.  Caiff modiwlau eu hasesu fesul un, yn unol â’r dulliau asesu cymeradwyedig. Hefyd gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr arddangos eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus unrhyw gyfnod o hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol.

13.  Rhaid i'r traethawd hir neu'r dewis arall cymeradwyedig (gweler Rheoliad 21 isod) ymgorffori dulliau a chanlyniadau prosiect ymchwil. Rhaid iddo beidio â bod yn hwy na 15,000 o eiriau (neu 30,000 o eiriau ar gyfer ymgeisyddiaethau am radd MRes).).

14.  Rhaid i fyfyrwyr basio o leiaf 160 o gredydau ac ennill marc o 50% am y cyfan ar gyfartaledd, a hwnnw wedi ei bwysoli, er mwyn ymgymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd Meistr.

15.  Y marc pasio modiwlar fydd 50%. Bydd y Byrddau Arholi yn dyfarnu marciau cyffredinol yn unol â'r graddfeydd canlynol:

70% a throsodd : Lefel rhagoriaeth

60 - 69% : Lefel teilyngdod

50 - 59% : Pasio

0 - 49% : Methu

16.  Er mwyn cael gradd Meistr â Rhagoriaeth rhaid i ymgeisydd ennill marc cyfartaledd wedi’i bwysoli o 70% o leiaf am y cyfan. Gall ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion ar gyfer Rhagoriaeth ond sy'n ennill marc cyffredinol ar gyfartaledd o 60% neu ragor ennill gradd Meistr â Theilyngdod. Esbonnir y gofynion hyn yn y Confensiynau Arholi ar gyfer cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs.

Cyfnodau Cofrestru a Therfynau Amser

17. Rhaid cwblhau modiwlau a ddysgir fel a bennir gan strwythur y cynllun astudio cymeradwyedig. Rhaid cwblhau'r cynllun gradd llawn, gan gynnwys cyflwyno'r traethawd hir ar y ffurf a bennir, erbyn y cyfnodau canlynol o ddyddiad y cofrestru cychwynnol:

Ymgeiswyr amser llawn: nid mwy na blwyddyn

Ymgeiswyr amser llawn (Meistr 2 flynedd): dim mwy na dwy flynedd

Noder: yn achos ymgeiswyr amser-llawn, bydd y canlyniadau yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Arholi ar ôl y dyddiad cau terfynol o flwyddyn ar gyfer ystyried yr holl ymgeiswyr, hyd yn oed os bydd myfyrwyr unigol yn cyflwyno’r traethawd hir yn gynnar.

Ymgeiswyr rhan amser: nid mwy na 3 blynedd

Ni ddylai myfyrwyr Dysgu o Bell gael mwy na 2, 3 neu 5 mlynedd i gwblhau eu cynlluniau, yn ddibynnol ar hyd y cwrs.

Mae rheoliadau ychwanegol ar gyfer rhaglenni Meistr amser llawn dwy flynedd ym mharagraff 30, isod. Mae’r rhain yn berthnasol i gynlluniau ansafonol â mwy na 180 o gredydau yn unig. Rhaid cwblhau pob cynllun Meistr safonol amser llawn o fewn blwyddyn.

Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.

18. Er mwyn caniatáu adfer methiant a cyfnodau tynnu’n ôl dros dro, y cyfnod mwyaf o amser a ganiateir i gwblhau’r dyfarniad fydd y cyfnod cofrestru ynghyd â dwy flynedd, felly:

Ymgeiswyr amser llawn: dim mwy na 3 blynedd

Ymgeiswyr amser llawn (Meistr 2 flynedd): dim mwy na 4 blynedd

Ymgeiswyr rhan amser: dim mwy na 5 mlynedd

Ymgeiswyr Dysgu o Bell: dim mwy na 2 flynedd yn hwy na hyd y cynllun, hyd at uchafswm o 7 mlynedd.

O dan amgylchiadau arbennig eithriadol, gellir ymestyn y terfynau amser hyn gan y Dirprwy Is-Ganghellor yn dilyn cyflwyno cais sy’n cynnwys tystiolaeth o amgylchiadau arbennig, ac achos cryf a rhesymol sy’n dangos disgwyliad rhesymol y gellir cwblhau o fewn cyfnod pellach o 12 mis.

Methu ac Adfer

19. Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw fodiwl yr enillwyd marc pasio amdano yn flaenorol.

20. Gellir ailarholi ymgeiswyr sy'n ennill llai na 50% mewn modiwl yn y modiwl hwnnw dda dro arall, a hynny o fewn y terfyn amser cyffredinol a bennir ar gyfer y cynllun. Ni fydd ymgeiswyr a ailarholir mewn modiwl yn gymwys ond am y marc pasio moel (h.y. 50%). Os derbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar berfformiad, gellir caniatáu ailsefyll ar gyfer y marc llawn. Ceir gwybodaeth bellach am y polisi ailsefyll yn y Confensiynau Arholiadau ar gyfer cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs.

Cyflwyno Traethawd Hir ac Adfer Methiannau

21.  Gall y modiwl astudio annibynnol 60 credyd fod ar ffurf traethawd hir ond gellir ei gymeradwyo hefyd mewn ffurfiau eraill sy’n bodloni canlyniadau dysgu’r cynllun gradd ym marn Panel Cymeradwyo’r Cynllun. Er enghraifft, gall cynlluniau’r Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol fod ar ffurf arteffact, sgôr, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosiad, ynghyd â sylwebaeth ysgrifenedig sy’n ei osod yn ei gyd-destun academaidd, ac unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog neu recordiad sain neu weledol). Mae enghreifftiau cymeradwyedig eraill yn cynnwys cyflwyno dau adroddiad a/neu gyflwyniadau a asesir yn seiliedig ar bwnc y traethawd hir.

Dylid cymryd bod cyfeiriadau yn y paragraffau canlynol at ‘draethawd hir' yn cynnwys unrhyw ffurfiau o gyflwyno / asesu a fanylir yn y paragraff hwn.

22. Gradd MRes: Yn achos ymgeiswyr sy'n astudio am radd MRes, bydd strwythur y cynllun yn gyfanswm o 180 o gredydau, gydag o leiaf 60 o gredydau a ddysgir, ac o leiaf 100 o gredydau yn cwmpasu'r traethawd hir.

23.  Mae ymgeiswyr yn rhydd i gyhoeddi'r cyfan, neu ran, o'r gwaith a gynhyrchir yn ystod cyfnod cofrestru'r ymgeiswyr yn y Brifysgol cyn iddynt ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd, neu fel rhan o draethawd hir, ar yr amod na ddatgenir yn unman yn y gwaith cyhoeddedig ei fod yn cael ei ystyried am radd uwch. Caiff unrhyw gyfryw waith cyhoeddedig ei ymgorffori yn ddiweddarach yn y traethawd hir a gyflwynir i'w arholi.

24. Ar gyfer yr holl gynlluniau gradd Meistr trwy gwrs sydd wedi’u cymeradwyo, mae Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig ar gael fel dyfarniadau ar gyfer ymgeiswyr sy’n gadael cyn cwblhau’r 180 o gredydau sy’n ofynnol ar gyfer dyfarnu gradd Meistr neu ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt, adeg cwblhau’r radd, wedi pasio digon o gredydau er mwyn gallu dyfarnu’r cymhwyster iddynt. Mae’r rheoliad uchod a’r Confensiynau Arholiadau yn disgrifio ar ba sail y gellir rhoi’r dyfarniadau hyn. Dylai ymgeiswyr roi gwybod i’r Gofrestrfa Academaidd o fewn 6 wythnos i gwblhau’r credydau a ddysgir os oes arnynt eisiau cael dyfarniad gadael ar yr adeg honno, a pheidio â mynd yn eu blaenau i ymgymryd â’r traethawd hir/ymchwil.

25.  Ni chaiff ymgeiswyr ddiwygio'r traethawd hir, nac ychwanegu ato na dileu oddi wrtho ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'w arholi.

26.  Wrth gyflwyno traethawd hir, rhaid i'r holl ymgeiswyr ddatgan i ba raddau y mae'n ganlyniad i'w gwaith neu i'w harchwiliad hwy eu hunain, a rhaid iddynt nodi unrhyw rannau y maent yn ddyledus i ffynonellau eraill amdanynt. Dylid rhoi cyfeiriadau clir, a rhaid atodi llyfryddiaeth lawn wrth y gwaith.

27.  Wrth gyflwyno traethawd hir, bydd pob ymgeisydd yn tystio nad yw eisoes wedi ei dderbyn yn sylweddol ar gyfer unrhyw ddyfarniad academaidd ac nad yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd mewn ymgeisyddiaeth ar gyfer dyfarniad arall o’r fath.

28.  Os na chyflwynir y traethawd hir o fewn y cyfnod cofrestru (gweler Rheoliad 17 uchod) bernir bod y myfyriwr wedi methu’r traethawd hir. Caniateir dau gyfle arall i ailsefyll, am farc o 50% wedi ei gapio, ac eithrio achosion lle ceir tystiolaeth o amgylchiadau arbennig. Ceir gwybodaeth bellach am y polisi ailsefyll yn y Confensiynau Arholiadau ar gyfer cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs.

29.  Os bydd yr arholwyr yn methu traethawd hir, neu os bernir ei fod wedi methu trwy fethiant i gyflwyno, caiff yr ymgeisydd ei ailgyflwyno ar ddau achlysur arall. Caiff y dyddiad ar gyfer ailgyflwyno ei gyfathrebu i’r ymgeisydd gyda’r canlyniad a bydd angen ei ailgyflwyno mewn pryd ar gyfer cyflwyno’r marc ailsefyll i’r Bwrdd Arholi 12 mis ar ôl cadarnhau’r canlyniad gwreiddiol. Bydd ffi yn daladwy am arholi'r cyfryw draethawd hir a ailgyflwynir.

Cynllun Meistr Dwy Flynedd Amser Llawn

30. Gellir cymeradwyo rhaglen Meistr amser llawn i redeg hyd at ddwy flynedd. Gall fod, er enghraifft, yn gynllun cydweithredol gyda phartneriaid y mae eu dyfarniadau Meistr fel arfer yn hwy na blwyddyn, neu fod gofyn am ddwy flynedd o astudio er mwyn cwblhau’r modiwlau gofynnol yn y naill sefydliad a’r llall. Math arall o gynllun dwy flynedd fyddai ychwanegu lleoliad integredig mewn diwydiant o hyd at flwyddyn at raglen blwyddyn o hyd.

31. Lle cynigir cynllun o’r fath, cymerir yn ganiataol y bydd y rheoliadau uchod a’r rheolau sefydlog a chonfensiynau arholi cysylltiedig yn berthnasol o hyd, lle bo hynny’n bosibl. Lle bydd angen gwyro oddi wrth y rheoliadau, rheolau sefydlog a chonfensiynau presennol, dylid cynnig darpariaethau amgen priodol a’u cymeradwyo yn rhan o broses cymeradwyo’r rhaglen.

Atodiad

Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig

1.  Ar gyfer pob cynllun gradd Meistr trwy gwrs cymeradwyedig, mae Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig ar gael i’w dyfarnu i ymgeiswyr sy’n gadael cyn cwblhau’r 180 credyd gofynnol ar gyfer y radd Meistr, neu i’r sawl fydd wedi cwblhau’r cynllun ond heb basio nifer digonol o gredydau i ymgymhwyso. Mae’r rheoliad uchod a’r Confensiynau Arholiad yn disgrifio ar ba sail y gellir dyfarnu’r dyfarniadau hyn.

2. Gall ymgeiswyr hefyd ymgofrestru ar gyfer Tystysgrifau a Diplomâu Uwchraddedig amser llawn, rhan-amser neu trwy ddysgu o bell. Gall fod y rhain yn deillio o gynlluniau Meistr sy’n bodoli eisoes ac sy’n dwyn yr un teitl, neu fe allant fod wedi’u cymeradwyo yn ddyfarniadau annibynnol a enwir ar wahân.

3. Ni ddylai’r traethawd hir na’r hyn sy’n cyfateb iddo yn gymeradwyedig o raglen Meistr ffurfio Tystysgrif gyfan na rhan o Ddiploma. Os bydd Tystysgrif neu Ddiploma yn dwyn yr un teitl â chynllun Meistr ac yn seiliedig ar fodiwlau sydd ar gael fel rhan o’r cynllun Meistr, rhaid i’r Athrofa sy’n darparu’r cynllun sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer strwythur cynllun sy’n dynodi pa fodiwlau y mae’n rhaid eu dilyn ac ym mha drefn.

4. Os darperir Tystysgrif neu Ddiploma annibynnol, rhaid iddi gael ei chymeradwyo yn gynllun astudio newydd yn cynnwys manylion rhaglen a strwythur cynllun.

5. Mae’r terfynau amser ar gyfer cwblhau Tystysgrifau a Diplomâu fel a ganlyn:

           i. Tystysgrif Uwchraddedig, Amser llawn: un sesiwn academaidd

           ii. Tystysgrif Uwchraddedig, Rhan-amser: dau sesiwn academaidd

          iii. Tystysgrif Uwchraddedig, Dysgu o bell: dwy flynedd

          iv. Diploma Uwchraddedig, Amser llawn: un sesiwn academaidd

           v. Diploma Uwchraddedig, Rhan-amser: dau sesiwn academaidd

          vi. Diploma Uwchraddedig, Dysgu o bell: pedair blynedd

Ym mhob achos bydd cyfnod ychwanegol o ddeuddeg mis ar gael i fyfyrwyr er mwyn caniatáu iddynt ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd; caniateir dau gyfle ailsefyll.

Bydd estyniadau i’r terfynau amser hyn yn cael eu seilio ar amgylchiadau arbennig eithriadol. Gellir eu cymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor yn dilyn cyflwyno cais ynghyd â thystiolaeth o amgylchiadau arbennig, ac achos cryf a rhesymegol sy’n dangos bod disgwyliad rhesymol y bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno o fewn cyfnod pellach o 12 mis.

6. Bydd darpariaethau’r rheoliadau uchod, y Confensiynau Arholiad a’r Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau yn berthnasol yn union yr un modd i Dystysgrifau a Diplomâu o ran gofynion mynediad, lefel y modiwlau a ganiateir oddi mewn i gymwysterau uwchraddedig trwy gwrs, marciau pasio modiwlar, adfer methiant ac unrhyw fater arall nas cyfeiriwyd ato yn yr atodiad hwn.