Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Gradd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig)

Cymeradwywyd i fyfyrwyr sy’n cychwyn o fis Medi 2023 ymlaen

Mae’r radd PhD drwy Weithiau Cyhoeddedig yn gymhwyster doethurol sy’n seiliedig ar ymchwil a wnaed ac a gyhoeddwyd eisoes. Ynghyd â’r deunyddiau hyn ceir dadansoddiad beirniadol i ddangos bod cwmpas, cydlyniad ac arwyddocâd y gweithiau cyhoeddedig, yn ogystal â’r cyfraniad a wnânt tuag at ein gwybodaeth, yn cyfateb i PhD sy’n seiliedig ar brosiect ymchwil a wneir yn y brifysgol.  

Bydd y meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) yr un fath â’r meini prawf a bennwyd ar gyfer Gradd PhD. 

Gellir diffinio ‘Gweithiau Cyhoeddedig’ fel gweithiau sydd yn y parth cyhoeddus neu sydd o leiaf wedi eu derbyn i gael eu cyhoeddi (ar yr amod bod yr ymgeisydd yn gallu rhoi prawf digonol bod hynny’n wir). Ni ddylai'r gweithiau a gyflwynir i’w harholi fod wedi eu cyhoeddi fwy na deng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru.

Yn unol â chynlluniau graddau ymchwil sy’n dod o fewn maes pynciau Celfyddydau Creadigol a Pherfformiadol y Brifysgol, gall y gweithiau cyhoeddedig fod ar un neu ragor o’r ffurfiau canlynol: arteffact, sgôr, testun, portffolio o weithiau gwreiddiol, perfformiad neu arddangosfa. Dylid cyflwyno, ar y cyd â’r gwaith, unrhyw eitemau eraill a all fod yn ofynnol (e.e. catalog, neu recordiad sain neu weledol).  

Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel D fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cymhwystra Ymgeiswyr

1. Ac eithrio fel y darperir yn Rheoliadau 3 a 4 isod, rhaid i unrhyw ymgeisydd am Radd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) fod yn aelod o’r staff academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers o leiaf dair blynedd cyn cofrestru ar gyfer y radd. Diben y rheoliadau hyn yw galluogi staff academaidd a chanddynt hanes o gyhoeddi i ennill doethuriaeth.

2. Rhaid i ymgeisydd am y radd fod wedi’i gofrestru fel ymgeisydd rhan-amser yn y Brifysgol cyn yr arholi ar gyfer y Radd. Rhaid cyflwyno’r gweithiau a’r dadansoddiad beirniadol i’w harholi o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad cofrestru.

3. Ni fydd unigolion yn gymwys i symud ymlaen i Radd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) o dan y rheoliadau hyn os ydynt eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer PhD neu Radd Doethur berthynol arall gan y Brifysgol.

4. Ni chaiff ymgeiswyr sydd wedi eu harholi am Radd Doethur ond nad ydynt wedi eu cymeradwyo am radd o’r fath ddod yn ymgeisydd am Radd PhD o dan y Rheoliadau hyn.

Gwneud cais

5. Bydd darpar ymgeiswyr am Radd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig) yn nodi'r Adran fwyaf priodol yn y Brifysgol ar gyfer cofrestru, ac yn cyflwyno cais i'r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion i ddatgan y pwnc y mae eu cyfraniadau at ysgolheictod wedi’u cysylltu agosaf ag ef, gan roi manylion y gwaith neu’r gweithiau cyhoeddedig y seilir eu cais am y radd arnynt. Wrth bwyso a mesur y cais, bydd yr Adran yn gofyn am farn staff a chanddynt arbenigedd perthnasol yn y pwnc, gan gynnwys darpar gynghorydd yr ymgeisydd, i ystyried y gweithiau a gyflwynwyd er mwyn penderfynu a oes achos prima facie, ai peidio, o blaid cyfeirio'r gweithiau i'w harholi, cyn derbyn yr ymgeisydd.

6. Wrth gyflwyno cais, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr

(a) ddatgan nad yw’r cyflwyniad yn ei gyfanrwydd yr un fath, i raddau helaeth, ag unrhyw gyflwyniad y maent wedi ei wneud o’r blaen neu y maent wrthi’n ei wneud ar hyn o bryd, boed ar ffurf gyhoeddedig neu heb ei gyhoeddi, am radd, diploma na chymhwyster tebyg mewn unrhyw brifysgol neu sefydliad tebyg,

(b) datgan pa rannau (os o gwbl) o’r gwaith neu’r gweithiau a gyflwynir sydd wedi eu cyflwyno o’r blaen ar gyfer cymhwyster arall,

(c) datgan na fydd y gwaith neu’r gweithiau a gyflwynir yn cael eu cyflwyno ar gyfer unrhyw gymhwyster o’r fath mewn prifysgol neu sefydliad tebyg arall, nes bod canlyniad y cais presennol i’r Brifysgol yn hysbys,

(d) cyflwyno copïau electronig, neu fel arall dri chopi papur o bob un o'r gweithiau cyhoeddedig dan sylw, ynghyd â rhestr o'r gweithiau a gyflwynir.

Ymgeisyddiaeth

7. Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad beirniadol ysgrifenedig a fydd:

  • yn gosod y cyhoeddiadau yng nghyd-destun y testunau academaidd y maent wedi gweithio â hwy a’r maes y maent wedi gweithio ynddo.
  • yn rhoi dadansoddiad beirniadol sy’n nodi’r cyfraniad gwreiddiol tuag at ddysg yn y maes hwnnw y mae eu gwaith, yn eu barn hwy, wedi ei wneud.
  • yn nodi bod y deunydd a gyflwynwyd yn ddarn cydlynol o waith sy’n cyfateb o ran ei gwmpas a’i lefel i ddoethuriaeth yn eu maes.
  • yn disgrifio ac yn rhoi tystiolaeth o effaith eu gwaith, a allai gynnwys cyfeirnodau ac a allai gyfeirio at ansawdd y cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid neu’r mannau eraill lle mae’r cyhoeddiadau wedi ymddangos.
  • yn nodi pa mor gyfredol yw’r cyhoeddiadau o fewn y testunau academaidd perthnasol.
  • os mai gweithiau creadigol yw’r deunyddiau a gyflwynwyd, bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod y gweithiau hyn wedi cael eu creu ar sail cwestiynau ymchwil, neu bod y broses greadigol a ystyriwyd wedi hynny wedi archwilio cwestiynau ymchwil yn y modd y byddai PhD creadigol-ymarferol wedi gwneud, er mwyn rhoi’r sylfaen academaidd angenrheidiol.

Nifer Geiriau

8. Fel arfer bydd y dadansoddiad creadigol rhwng tua 5,000 a 10,000 o eiriau. Fodd bynnag, os yw’r gweithiau cyhoeddedig yn weithiau creadigol na chawsant eu hysgrifennu’n benodol yn rhan o ymchwiliad i gwestiynau ymchwil pendant o fewn testunau academaidd penodol, caniateir hyd at 25,000 o eiriau ac mae’n bosibl y bydd eu hangen er mwyn dadlau’r achos bod yr allbwn ymchwil yn cyfateb i PhD ymarferol.

9. Er y bydd y deunyddiau cyhoeddedig yn amrywio o ran hyd gan ddibynnu ar y ddisgyblaeth dan sylw, ni ddylai cyfanswm hyd yr hyn a gyflwynir, gan gynnwys y dadansoddiad beirniadol, fod yn hwy, fel arfer, nag uchafswm nifer geiriau PhD, sef 100,000 o eiriau, heb gynnwys yr atodiadau a’r cyfeirnodau. Os cyflwynir gwaith sy’n hwy na hyn, rhaid cyfiawnhau pam.

10. Caiff ymgeiswyr gyflwyno gwaith/gweithiau yr ymgymerwyd â hwy mewn cydweithrediad ag eraill i ategu’r ymgeisyddiaeth, ond rhaid anfon gyda’r gweithiau hynny ddatganiad wedi ei lofnodi gan bob cyd-weithiwr sy'n dangos natur a maint y gwaith a wnaed gan yr ymgeisydd.

11. Bydd y Brifysgol yn pennu cynghorydd neu gynghorwyr a enwebir gan Adran yr ymgeisydd. Dylai fod gan y cynghorydd PhD a phrofiad o arolygu myfyrwyr ymchwil sydd wedi mynd yn eu blaenau i gwblhau eu doethuriaethau yn llwyddiannus. Bydd y cynghorydd/cynghorwyr yn rhoi arweiniad cyffredinol ar gyflwyno’r gweithiau cyhoeddedig i’w harholi ac yn cynghori ar y dadansoddiad beirniadol. 

Arholi

12. Yn unol â'r rheoliadau ar gyflwyno ac arholi graddau ymchwil, sefydlir bwrdd arholi a fydd yn cynnwys Cadeirydd a dau arholwr allanol. Gall cynghorydd yr ymgeisydd gael gwahoddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi i fod yn bresennol yn yr arholiad llafar mewn swyddogaeth gynghorol, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cymeradwyo hynny. 

13. Gall Byrddau Arholi argymell un o’r dewisiadau canlynol:

(a) Cymeradwyo ymgeiswyr ar gyfer gradd PhD, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau i'r dadansoddiad beirniadol y bydd y Bwrdd Arholi yn gofyn amdanynt. Dylai'r cywiriadau gael eu cwblhau o fewn pedair wythnos waith.

(b) Peidio â chymeradwyo’r ymgeisydd ar gyfer gradd PhD ond, pan fo’r dadansoddiad beirniadol a gyflwynwyd i’w arholi yn foddhaol o ran ei sylwedd ond yn ddiffygiol o ran ei gyflwyniad neu ei fanylion, gellir caniatáu i’r ymgeisydd ei ddiwygio a’i ailgyflwyno ar un achlysur pellach, o fewn blwyddyn i ddyddiad yr ohebiaeth swyddogol iddo ef/hi yn datgan y canlyniad, ar gyfer gradd PhD ar ôl talu ffi ailarholi. Ni fydd y dewis hwn ar gael pan fydd gwaith a ailgyflwynwyd yn cael ei arholi. Pan fydd gwaith yn cael ei ailgyflwyno, cynhelir ail arholiad llafar ond gall y Bwrdd Arholi benderfynu hepgor hyn os ydyw o’r farn bod y traethawd ymchwil yn amlwg o’r safon angenrheidiol i basio heb unrhyw newidiadau, neu â chywiriadau neu newidiadau hynod o fân yn unig. Mewn amgylchiadau eraill, eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal arholiad llafar wrth ailgyflwyno gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi a Phennaeth Ysgol y Graddedigion. Bydd y Cadeirydd yn rhoi gwybod i’r ymgeisydd pa drefniadau a wnaed ar gyfer yr arholiad llafar.

(c) Peidio â chymeradwyo’r ymgeisydd ar gyfer gradd PhD.

14. Wedi i’r arholwyr eu cymeradwyo, bydd y dadansoddiad beirniadol ac unrhyw weithiau cysylltiedig perthnasol neu ddolenni iddynt yn cael eu llwytho i gadwrfa ymchwil y Brifysgol.

 

Adolygwyd: Gorffennaf 2023