Rheoliadau ar gyfer y Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol (IFC)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoli dyfarnu y Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, y Brifysgol o hyn allan.

Cymhwysedd

Bydd ymgeiswyr ar gyfer y Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol (IFC) a ddyfernir gan y Brifysgol fel rheol yn ymgeiswyr cyn-Prifysgol, sydd wedi cwblhau’r Chweched Dosbarth neu’r hyn sy’n cyfateb iddo, neu’n dal yno, neu sy’n chwilio am gymhwyster mynediad Prifysgol.

Fel rheol dylai myfyrwyr fod wedi cwblhau addysg uwchradd yn llwyddiannus yn eu gwlad eu hunain ar lefel sy’n cyfateb i Gradd 12 cyn cychwyn cwrs sylfaen ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau eu haddysg i’r safon hon fesul achos unigol.

Ceir tri llwybr trwy’r Dystysgrif a bydd y Ganolfan Saesneg Ryngwladol yn penderfynu, adeg derbyn pob cais, beth yw’r llwybr mwyaf addas i bob ymgeisydd yn unol â safon y cymwysterau blaenorol.

Meini Prawf Dyfarnu

Mae’r Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol yn gymhwyster ffurfiol gan Brifysgol Aberystwyth ar Lefel 0 (Lefel 3 FfCChC) sy’n paratoi ymgeiswyr ar gyfer mynediad i raddau israddedig y Brifysgol. Bydd cyrsiau fel arfer yn datblygu gwybodaeth am ddisgyblaethau academaidd, a chymhwysedd mewn Saesneg a sgiliau academaidd.

Byddai’r cymhwyster fel rheol yn gynllun llawn-amser blwyddyn o hyd, er y gellir cael amrywiadau sy’n gallu dangos eu bod yn cyfateb yn gadarn o ran y dull cyflenwi a’r safonau.

Fel rheol bydd gofyn i ymgeiswyr llawn-amser ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 120 credyd ar Lefel 0 o fewn un flwyddyn academaidd yn unol â’r strwythur a gymeradwywyd ar gyfer y rhaglen. Gellir dyfarnu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) i fyfyrwyr sy’n gallu dangos tystiolaeth o ddysgu blaenorol digonol.

Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r Bwrdd Arholi eu bod wedi datblygu’r cymwyseddau a ddisgwylir gan ymgeiswyr am radd yn y Brifysgol. Bydd hyn yn ddibynnol ar ymgeiswyr yn bodloni’r Bwrdd Arholi yn eu pynciau academaidd a hefyd yn eu cymhwysedd mewn Saesneg a sgiliau academaidd.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus basio’r hyn sy’n cyfateb i 120 o gredydau ar y cwrs.

Bydd y Dystysgrif yn cael ei dyfarnu ar sail Pasio neu Fethu. Bydd y trothwy ar gyfer Pasio yn cael ei sefydlu gan y Ganolfan Saesneg Ryngwladol ar gyfer pob ailadroddiad o’r dyfarniad.

Asesu

Gall ymgeisydd sy’n methu gael ei ailgyflwyno i’w arholi, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, ar ddau achlysur arall a dim mwy. Cynhelir yr ailarholi o fewn cyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad yr arholiad gwreiddiol.

Ar ddisgresiwn y Bwrdd Arholi gall fod gofyn i’r cyfryw ymgeiswyr:

(a) ailadrodd y cynllun astudio cyfan neu ran ohono a chael eu hailarholi yn yr arholiad cyfan neu yn y rhannau hynny o’r arholiad y maent wedi eu methu;

neu

(b) gael eu hailarholi yn yr arholiad cyfan neu yn y rhannau hynny o’r arholiad y maent wedi eu methu.

Disgrifiwr ar gyfer cymwysterau ar FfCAU/FfCChC Lefel 3: Tystysgrif Sylfaen

Bydd gan ddeiliaid Tystysgrif Sylfaen wybodaeth sylfaenol am gysyniadau maes penodol o bwnc academaidd, ac ystod o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau astudio academaidd. Byddant yn gallu cyfathrebu eu gwybodaeth yn glir ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd y Dystysgrif yn hwyluso mynediad i addysg uwch ar FfCAU/FfCChC Lefel 4.

Dyfernir Tystysgrifau Sylfaen i fyfyrwyr sydd wedi dangos:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cysyniadau, y damcaniaethau a’r egwyddorion gwaelodol sy’n gysylltiedig â’u maes/meysydd astudio
  • gallu i gyflwyno a dadansoddi data ansoddol a/neu feintiol er mwyn datblygu trywydd dadl a rhoi barn gadarn yn unol â damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol y pwnc/pynciau y maent yn ei astudio/eu hastudio
  • yn achos y Dystysgrif Sylfaen Ryngwladol, cymhwysedd mewn Saesneg ar y lefel briodol ar gyfer mynediad i addysg uwch

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:

  • defnyddio ystod o ymatebion i broblemau sydd wedi’u diffinio’n dda
  • cael gafael ar wybodaeth a’i gwerthuso
  • ymwneud â gweithgaredd hunangyfeiriedig gydag arweiniad/gwerthuso
  • cyfathrebu canlyniadau eu hastudiaeth/gwaith mewn modd clir a strwythuredig

Bydd gan ddeiliaid hefyd:

  • y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer astudio mewn prifysgol, gan gynnwys arfer cyfrifoldeb personol

 

 

ANM/CBB
Medi 2014