Cod Ymarfer ar gyfer Arholwyr Allanol Graddau Ymchwil

Cod Ymarfer

 Yn y ddogfen hon, mae’r term ‘Arholwyr Allanol’ yn cyfeirio at Arholwyr Allanol ar gyfer graddau ymchwil.

 Cyffredinol

1. Yn y pen draw mae pob Arholwr Allanol yn atebol i’r Senedd, sef y corff sy’n gyfrifol am y modd y caiff holl arholiadau Prifysgol Aberystwyth eu cynnal.

 Meini prawf penodi

 2. Ni chaniateir penodi unrhyw arholwr allanol sydd wedi cyfathrebu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag ymgeisydd ynghylch ei h/ymchwil.

3.Dylai Adrannau, Ysgolion ac Athrofeydd ofalu nad ydynt yn gorddefnyddio arholwr penodol.

4. Dim ond unigolion a chanddynt ddigon o brofiad a statws i hawlio awdurdod y dylid eu penodi’n arholwyr allanol. Rhaid bod gan Arholwyr Allanol wybodaeth arbenigol am y maes ymchwil ac arbenigedd ynddo.

5. Mae’n briodol pennu arholwyr o’r tu allan i’r system prifysgolion lle bo angen arbenigedd proffesiynol, ond rhaid bod gan unigolion o’r fath brofiad addas o arholiadau graddau ymchwil.

6. Ni chaniateir gwahodd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymuno â staff prifysgol arall i fod yn Arholwyr Allanol hyd nes bod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio, neu ddigon o amser i’r myfyrwyr a oruchwyliwyd gan yr aelod hwnnw o’r staff basio drwy’r system, pa un bynnag sydd hiraf.

7. Fel rheol, ni chaiff cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymddeol eu henwebu’n Arholwyr Allanol. Caniateir gwahodd aelodau o staff sefydliadau eraill sydd wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd flaenorol i weithredu fel Arholwyr Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 Penodiadau

8. Penodir Arholwyr Allanol ar ran yr Is-ganghellor ac fe’u cymeradwyir gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion.

 Canllawiau’r Byrddau Arholi Graddau Ymchwil 

9. Ar ôl eu penodi, bydd pob arholwr allanol yn cael copi o Reoliadau perthnasol y Brifysgol, ynghyd â’r Rheolau Sefydlog, y Cod Ymarfer hwn, Canllawiau’r Byrddau Arholi Graddau Ymchwil a’r ‘Ffurflenni Adroddiad a Chanlyniad’ arholiad priodol.

10. Gofynnir i’r arholwyr sicrhau eu bod yn ymgyfarwyddo â chynnwys y Canllawiau (a fydd yn cael eu rhoi iddynt ar ôl eu penodi) ac yn gweithredu’n unol â nhw.

 Ymddygiad Annheg 

11. Os bydd arholwr allanol yn tybio, naill ai yn ystod y broses arholi neu ar ôl hynny, fod ymgeisydd wedi ymddwyn yn annheg mewn arholiad, rhaid iddo/iddi ysgrifennu ar unwaith at Gadeirydd y Bwrdd Arholi perthnasol i roi gwybod iddo am y sefyllfa.

 Adroddiadau

12. Mae’r Brifysgol yn rhoi cryn bwysigrwydd ar adroddiadau’r arholwyr allanol ac ni thelir ffi hyd nes i’w hadroddiad ddod i law. Yn unol â Rheolau Sefydlog y Brifysgol, gofynnir i’r arholwyr allanol ddarparu adroddiad am y gwaith cyn gynted â phosib, ac fel rheol cyn pen deuddeg wythnos waith ar ôl i’r ymgeisydd gyflwyno’r gwaith.

 Arholwyr Cymrodeddu

13. Pan fydd anghydfod yn codi rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholw(y)r Mewnol, dylai’r Arholwyr a’r Cadeirydd farcio’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol i nodi nad oedd modd i’r Bwrdd gytuno ar argymhelliad.

Mewn achos o’r fath, mae gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion bŵer i droi at arholwr allanol arall a gofyn iddo/iddi gymrodeddu.

Wrth ddewis Arholwr Cymrodeddu Allanol, caiff Pennaeth Ysgol y Graddedigion gymryd i ystyriaeth unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan aelodau’r Bwrdd Arholi a chaiff hefyd gymryd i ystyriaeth – ond nid oes rhaid glynu wrtho – unrhyw enwebiad a wneir gan y Bwrdd gwreiddiol.

Ar ôl eu penodi, bydd Arholwyr Cymrodeddu Allanol yn cael copi o waith yr ymgeisydd, ynghyd ag adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol, y Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad a’r ‘Nodiadau i Arholwyr Cymrodeddu Allanol’.

Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, caiff Arholwr Cymrodeddu Allanol ddewis a yw am gyfeirio at adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol ai peidio (ac os felly, pryd i wneud hynny). Caiff hefyd ddewis cynnal arholiad llafar arall ac, os felly, caiff ddewis a ddylid gwahodd yr arholwyr gwreiddiol i fod yn bresennol.

Pan fydd yr Arholwr Cymrodeddu Allanol wedi gorffen ystyried y gwaith, dylai roi gwybod i Gadeirydd y Bwrdd Arholi am y canlyniad yn gyntaf. Rhaid i’r Cadeirydd drefnu i’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad gael ei llenwi, ei llofnodi a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd.

 

 ALM/rbw

Awst 2013