6.4 Adborth

Holiaduron Cloriannu Modiwlau

1. Bob semester, gofynnir i’r holl israddedigion gwblhau Holiadur Cloriannu Modiwl ar-lein yn y dosbarth ar gyfer pob un o’r modiwlau y byddant yn eu dilyn. Darperir yr Holiaduron ar lein yn ganolog ond yr Athrofeydd a’r Adrannau sy’n eu gweinyddu. Mae pob Holiadur yn cynnwys cyfres o gwestiynau craidd, hyd at bedwar cwestiwn sy’n ymwneud yn benodol â’r modiwl a meysydd testun rhydd. Mae’r holl adborth drwy’r Holiaduron hyn yn ddienw ac fe’i defnyddir gan yr Athrofeydd i weld pa mor dda y mae’r modiwl yn perfformio ac i wneud unrhyw newidiadau posibl. Ar ôl eu dadansoddi, bydd y canlyniadau yn cael eu cynnwys mewn adolygiadau modiwlau a chynlluniau yn ogystal ag wrth fonitro Cynlluniau Trwy Gwrs yn flynyddol. Bydd y canlyniadau hefyd yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau Athrofeydd, ac i fyfyrwyr, fel sy’n briodol.

Rho Wybod Nawr

2. Mae’r Brifysgol hefyd yn gweithredu trefn adborth ‘Mae'ch Llais Chi'n Cyfri’ lle gall myfyrwyr roi adborth unrhyw bryd ar unrhyw agwedd ar eu profiad o’r Brifysgol. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe ‘Mae'ch Llais Chi'n Cyfri

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

3. Mae’r Brifysgol yn mynnu bod Athrofeydd yn paratoi Cynlluniau Gweithredu i ymateb i ganlyniadau blynyddol yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Dylai’r Cynlluniau Gweithredu gynnwys camau gweithredu brys i’w rhoi ar waith yn ystod tymor cyntaf y sesiwn academaidd dilynol. Dylid cyflwyno’r camau i’r Pwyllgorau Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr ym mhob Athrofa er mwyn i israddedigion y drydedd flwyddyn yn arbennig fod yn ymwybodol o’r camau a gymerir. Bydd hynny’n galluogi’r garfan sy’n llenwi holiaduron yr Arolwg hwn yn y gwanwyn i weld effaith yr ymatebion.

4. Derbynnir ac ystyrir Cynlluniau Gweithredu Athrofeydd yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd ar gyfer pob sesiwn academaidd. Bydd y Pwyllgor yn adrodd i’r Bwrdd Academaidd ar y camau sydd wedi’u cymryd ac ar y drefn yn gyffredinol.