3.6 Ymddygiad Academaidd

1.  Dylid darllen yr adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar y cyd â Rheoliad y Brifysgol ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol sydd ar gael ar: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/.

Ymddygiad Academaidd Da

2.  Caiff pob asesiad, gan gynnwys sgriptiau arholiadau a gwaith cwrs, eu hasesu ar y sail mai gwaith y myfyrwyr eu hunain ydynt. Mae’r myfyrwyr eu hunain felly’n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith a gyflwynir ganddynt i’w asesu, a’u hymddygiad mewn arholiadau, yn gyson ag egwyddorion a gofynion y Brifysgol o ran ymddygiad academaidd.

3.  Caiff y myfyrwyr wybod pa amodau’n union sy’n berthnasol i elfen arholi ffurfiol pob modiwl, e.e. pa ddeunyddiau y cânt fynd â hwy i’r arholiad. Mewn rhai achosion, cânt ddefnyddio llyfrau, nodiadau, tablau mathemategol, cyfrifianellau ac ati, ac fe’u cynghorir i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r amodau perthnasol.

Dylai traethodau ac aseiniadau eraill a gwblheir y tu allan i amodau arholiad fod yn ffrwyth astudiaethau’r myfyrwyr eu hunain, ac yn yr un modd hefyd strwythur  a chyflwyniad eu dadleuon. Cyfrifoldeb pob Adran yw rhoi gwybod i’w myfyrwyr am ofynion penodol, ond cyhoeddir canllawiau cyffredinol y Brifysgol ar ymddygiad academaidd da a chyfeirnodi yn Sgiliau Aber https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/ ac mae canllaw cyfeirnodi ac ymwybyddiaeth o lên-ladrad hefyd ar gael https://libguides.aber.ac.uk/cyfeirnodi  

4.  Mae perygl i fyfyrwyr adael eu hunain yn agored i gael eu blacmelio os ydynt yn ymwneud ag ymddygiad academaidd annerbyniol drwy ddefnyddio melinau traethodau. Bydd y Brifysgol yn ymchwilio i unrhyw achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol posib y rhoddir gwybod iddi amdanynt. Mae ffynonellau cymorth cyfrinachol ar gael drwy'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, ac os oes unrhyw droseddu ynghlwm â’r materion hyn dylid eu cyfeirio at yr Heddlu.

Ymchwilio i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

5.  Dylai aelodau o’r staff sy’n gwneud honiadau ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lenwi Adran 1 y Ffurflen Ymchwiliad i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan gyfeirio at y Rheoliad. Lle y bo hynny’n berthnasol, dylid darllen y canllawiau ar ddefnyddio Turnitin hefyd (gweler paragraffau 17 i 21 yn yr adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd). Dylid cyflwyno’r ffurflen hon i Gadeirydd y Bwrdd Arholi ar lefel yr Adran neu i’r Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) ar gyfer honiadau sy’n gysylltiedig ag arholiadau. O ran honiadau lle mae gofyn cynnull panel ar lefel y gyfadran/prifysgol, ni dderbynnir tystiolaeth sy’n dibynnu ar adroddiad Turnitin yn unig, neu sy’n anghyflawn, a chaiff ei dychwelyd i’r aelod o staff sy’n gwneud yr honiad.

6.  Dylid darparu rhestr lawn o’r dystiolaeth a amgaeir gyda ffurflen yr ymchwiliad. Lle bo hynny’n bosib, dylid cyflwyno tystiolaeth i Gadeirydd y Bwrdd Arholi ar ffurf electronig. Pan geir honiadau o lên-ladrad, rhaid cyflwyno:

(i) Adroddiad Turnitin os yw ar gael;

(ii) Copi ar wahân o’r aseiniad ac arno nodiadau manwl, gyda chroesgyfeiriadau i’r ffynonellau yr amheuir iddynt gael eu defnyddio;

(iii) Copïau o’r ffynonellau yr amheuir iddynt gael eu defnyddio, gyda chroesgyfeiriadau clir i’r aseiniad.

7.  Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi/Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) lenwi Adran 1.3 ffurflen yr ymchwiliad er mwyn cadarnhau’r weithdrefn ar gyfer ymchwilio i’r honiad o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

8.  Dim ond yn achos ymchwiliadau gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi/Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) y dylid llenwi Adran 2 y ffurflen, a dylid ei gadael yn wag os cyfeiriwyd yr honiad at banel Cyfadran/y Brifysgol (gweler adran 3 y ffurflen). Yn unol ag adran 8 y Rheoliad ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, mae gan fyfyrwyr yr hawl i ofyn i benderfyniadau ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi/Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) gael eu cyfeirio at Banel y Gyfadran i ymchwilio ymhellach iddynt. Ni fydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i ymateb i’r honiad yn ystod ymchwiliad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi/Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau).

9.  Os cadarnheir Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, dylid rhoi gwybod i’r myfyriwr. Bydd y gosb yn cael ei phennu yn unol â’r system cosbi ar sail pwyntiau. Caiff unrhyw honiadau pellach, os cânt eu cadarnhau, eu hystyried yn ail achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

10.  Y gosb am honiadau sy’n ymwneud ag arholiadau y mae'r Cofrestrydd Cynorthwyol yn ymdrin â hwy fydd rhybudd ffurfiol am drosedd gyntaf a marc wedi'i gapio am droseddau dilynol. Mae troseddau o'r fath y tu hwnt i'r system sy'n seiliedig ar bwyntiau ac nid ydynt yn cyfrif tuag at honiadau eraill o ymddygiad academaidd annerbyniol.

Ar gyfer honiadau nad ydynt yn ymwneud ag arholiadau

11.  Mewn aseiniadau gwaith cwrs yn unig, lle y bo hynny’n briodol, gall Paneli neu Gadeiryddion Byrddau Arholi gyfeirio myfyrwyr at gwrs sgiliau astudio a ddarperir gan y Ganolfan Saesneg Ryngwladol. Mewn achosion lle nad yw’r gosb ffurfiol yn cynnwys tynnu marciau, rhoddir gwybod i’r myfyrwyr y bydd marc yr aseiniad yn adlewyrchu meini prawf marcio’r adran neu ddatganiadau’r adran ar ailgylchu deunydd a gyflwynwyd eisoes.

12.  Mewn achosion pan fo’r myfyriwr wedi gofyn i benderfyniad Cadeirydd y Bwrdd Arholi/Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) (gweler adran 2 y ffurflen) gael ei gyfeirio at Banel y Gyfadran, ni chaiff Cadeirydd y Bwrdd Arholi/Cofrestrydd Cynorthwyol (Arholiadau) fod yn aelod o Banel y Gyfadran ac ni ddylai gymryd rhan o gwbl yn yr ymchwiliad. Dylid rhoi i Banel y Gyfadran gopïau o adran 1 ffurflen yr ymchwiliad ynghyd â’r dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn wreiddiol, ond ni ddylent dderbyn copi o adroddiad Cadeirydd y Bwrdd Arholi (adran 2 y ffurflen).

13.  Os cadarnheir yr honiad yn ystod ymchwiliad gan banel, dylid pennu’r gosb yn unol â’r system cosbi ar sail pwyntiau, ac eithrio ar gyfer yr honiadau lleiaf difrifol sy’n ymwneud ag arholiadau. Lle ceir tystiolaeth o amgylchiadau personol eithriadol sy’n uniongyrchol berthnasol i’r achos, caiff paneli gyflwyno argymhelliad y dylid lleihau’r gosb. Os digwydd hynny, y Cofrestrydd Academaidd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Yn unol ag adran 14.4 y Rheoliad, caiff paneli hefyd argymell cosb fwy llym.

14.  Os caiff honiadau o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol eu datrys cyn i’r Bwrdd Arholi perthnasol gael ei gynnal, dylid cadarnhau’r marciau a’r dangosyddion ailsefyll yn y ffordd arferol ym Mwrdd Arholi’r Senedd. Fodd bynnag, mewn achosion lle caiff y canlyniadau eu dal yn ôl gan y Bwrdd hyd nes y caiff yr honiad ei ddatrys, rhaid i Adrannau, pan fydd cosb wedi’i chymeradwyo, gyflwyno ffurflen newid marc yn cadarnhau’r marc a’r dangosydd ailsefyll ar gyfer y modiwl(au) dan sylw er mwyn gallu cymeradwyo hyn a rhyddhau’r canlyniadau i’r myfyriwr. Ni ddylid cofnodi marciau’r modiwl ar AStRA hyd nes y bydd yr ymchwiliad i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi’i gwblhau a hyd nes y bydd y Gofrestrfa Academaidd wedi cadarnhau’r gosb.

15.  Darperir templedi o lythyrau i’w defnyddio yn ystod ymchwiliadau i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan Gadeiryddion Byrddau Arholi, a phaneli’r Cyfadrannau a’r Brifysgol.

System cosbi ar sail pwyntiau

16.  Pennir cosbau am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol gan baneli a chadeiryddion byrddau arholi yn unol â’r system bwyntiau isod, a gyhoeddir hefyd ar ffurflen yr ymchwiliad.

Canllawiau ar ddefnyddio Turnitin mewn ymchwiliadau i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol

17.  Dylai marcwyr edrych ar adroddiadau tebygrwydd Turnitin cyn dechrau marcio. Mae’n holl bwysig bod marcwyr yn craffu’n ofalus ar bob tebygrwydd a nodwyd gan Turnitin, gan nad yw cyfatebiaethau testunol bob amser yn gyfystyr ag Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

18.  Dim ond cyfatebiaethau â thestunau sydd eisoes yn ei gronfa ddata y mae Turnitin yn dod o hyd iddynt, ac ni fydd o reidrwydd yn dod o hyd i bob achos o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Dylai marcwyr barhau i ddilyn eu greddf ynghylch gwreiddioldeb darn o waith wrth iddynt ei ddarllen, ac ymchwilio ymhellach os ceir amheuaeth bod Ymddygiad Academaidd Annerbyniol wedi digwydd.

19.  Adnodd paru testun yw adroddiad tebygrwydd Turnitin, ac felly dim ond un dangosydd cychwynnol ydyw o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol posib. Nid yw’n berffaith, a dylai marcwyr gofio hynny wrth benderfynu a yw’r achos dan sylw yn achos posib o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Ni ddylid rhoi manylion ynghylch trothwyon sgorau tebygrwydd Turnitin.

20.  Pan gyflwynir gwaith drwy Blackboard (aseiniadau cyfrwng Cymraeg a chyflwyniadau mawr neu rai â sawl rhan yn unig), ni chaiff adroddiadau tebygrwydd eu creu’n awtomatig. Dylai marcwyr chwilio am arwyddion eraill o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn darn o waith wrth ei ddarllen; gellir cyflwyno asesiad unigol i Turnitin i chwilio am destun cyfatebol os yw hynny’n briodol.

21.  Dylai’r dystiolaeth gynnwys adroddiad tebygrwydd Turnitin os ydyw ar gael, ynghyd â chopïau o’r ffynonellau ac arnynt nodiadau manwl fel y bo’n briodol. Ceir enghraifft yma o sut i roi nodiadau manwl ar yr Aseiniad a’r ffynonellau. Ni chaiff tystiolaeth sy’n dibynnu ar adroddiad tebygrwydd Turnitin yn unig, neu sy’n anghyflawn, ei derbyn a chaiff ei dychwelyd i’r marciwr, ac eithrio fel y nodir isod.

22.  Yn achos honiadau lle mae’r llên-ladrad yn cyfateb i lai nag 20% o aseiniad, byddai adroddiad Turnitin sy'n tynnu sylw clir at y rhan o’r testun sy’n peri problem a'r ffynonellau posib yn dderbyniol. At ddibenion ymchwilio i ffynonellau gwreiddiol a'u cadw, dylid cyflwyno sgrinluniau o wefannau neu weithiau cyhoeddedig. Gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi ofyn am ragor o dystiolaeth os oes angen ac os bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at banel y gyfadran/prifysgol bydd angen tystiolaeth ychwanegol a gofynnir i’r Adran amdani. Dylai’r adroddiad gynnwys manylion ynghylch sut y cyfrifwyd canran yr Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ac ni ddylai ddibynnu ar sgôr tebygrwydd Turnitin yn unig.

 

Diweddarwyd adran 3.6: Medi 2022