3.10 Ailsefyll Arholiadau Dramor

Cyflwyniad

1. Mae'r adran hon yn rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn â'r amgylchiadau lle caniateir i fyfyriwr sefyll arholiadau mewn man arall heblaw Aberystwyth, mewn sefydliad dramor.

2. Os yw myfyrwyr yn ailsefyll fel ymgeiswyr allanol, neu os oes ganddynt arholiadau ailsefyll ym mis Awst, rhaid anfon ceisiadau i gael sefyll yr arholiadau dramor i'r Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr).

3.Os oes angen gwneud trefniadau gwahanol oherwydd amseru cynlluniau Erasmus neu gynlluniau Cyfnewid, dylai myfyrwyr ddarllen y cyfarwyddiadau ym mharagraffau 4-6 isod.

Myfyrwyr sy'n dod yma ac yn mynd allan oddi yma ar gynlluniau cyfnewid

4. Yn achos myfyrwyr sy'n dod yma i astudio ar gynllun cyfnewid, disgwylir iddynt aros yn Aberystwyth i sefyll arholiadau ym mis Ionawr. Os yw myfyrwyr yn mynd allan oddi yma yn Semester 2 ar gynllun cyfnewid, disgwylir iddynt sefyll arholiadau Semester Un yn Aberystwyth cyn teithio i'r sefydliad partner. Serch hynny, cydnabyddir mewn amgylchiadau eithriadol bod gofynion cynllun cyfnewid yn gallu creu gwrthdaro i fyfyrwyr, er enghraifft os oes disgwyl i fyfyrwyr fod yn bresennol mewn sesiynau rhagarweiniol. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r Adran/Gyfadran ynglŷn ag amgylchiadau o'r fath erbyn diwedd yr ail wythnos ym mis Tachwedd.

5. Os nad yw'n bosibl i fyfyrwyr cyfnewid sy'n cyrraedd neu'n gadael fod yn bresennol yn arholiadau Semester Un yn Aberystwyth, gall y Deoniaid Cysylltiol (neu rywun a enwebir ganddynt) gymeradwyo dulliau asesu gwahanol. Rhaid ystyried hyn yn y drefn ganlynol o ran blaenoriaethau, gan ddibynnu ar ymarferoldeb ac ar sicrhau bod holl Ganlyniadau Dysgu'r modiwl wedi'u cyflawni:

(i) Y myfyriwr i sefyll yr arholiad yn y sefydliad partner ar yr un pryd ag y cynhelir yr arholiad yn Aberystwyth (myfyrwyr cyfnewid sy'n dod yma neu'n gadael am gyfnod). Gwneir y trefniadau ar gyfer yr arholiad hwn gan yr Adran/Gyfadran.

(ii) Os oes gwahaniaeth amser yn rhwystro'r myfyriwr rhag sefyll yr arholiad yn y sefydliad partner, dylid gwneud trefniadau i'r myfyriwr sefyll yr arholiad yn Aberystwyth ar ddyddiad cynharach, a gwneir y trefniadau hyn gan yr Adran/Gyfadran.

(iii) Dylid gosod asesiad gwahanol. Gallai hyn fod yn aseiniad gwaith cwrs, arholiad amser rhydd, neu ddull arall o asesu sy'n cyflawni Canlyniadau Dysgu'r modiwl. Gwneir y trefniadau ar gyfer hyn gan yr Adran/Gyfadran.

(iv) Os nad oes un o'r rhain yn bosibl, bydd yn rhaid i'r myfyriwr ailsefyll y modiwl ym mis Awst, a hynny am y marc llawn (dangosydd 'H'). Rhaid i'r Adran/Gyfadran sicrhau bod argymhelliad clir yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y bwrdd arholi. Gwneir y penderfyniad terfynol gan Fwrdd Arholi'r Senedd.

6. Bydd modiwlau sy'n cael eu hailsefyll yn rhan o raglen Erasmus neu Raglen Gyfnewid yn cael eu trefnu'n uniongyrchol gan adran gartref y myfyriwr ac nid gan y Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr).

Arholiad dramor mor i ymgeiswyr allanol a myfyrwyr sy'n ailsefyll ym mis Awst

7. Os yw myfyriwr yn ailsefyll fel ymgeisydd allanol, neu'n ailsefyll arholiadau ym mis Awst, gellid caniatáu sefyll yr arholiadau hyn mewn man arall heblaw Aberystwyth, mewn sefydliad dramor cymeradwy. Gellid cymeradwyo ceisiadau o'r fath cyhyd â bod trefniadau boddhaol yn cael eu gwneud ar gyfer yr arholiad gan y Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr). Ni fydd myfyrwyr sy'n cymryd gwyliau dramor neu'n gwneud gwaith gwyliau mewn man arall yn gymwys i hyn.

8. Os yw arholiad yn cael ei sefyll mewn man heblaw Aberystwyth rhaid ei gynnal ar yr un pryd, neu i orgyffwrdd o ran amser â'r arholiad a gynhelir yn Aberystwyth. Os yw'r gwahaniaeth amser yn rhwystro hyn, dylai myfyrwyr wneud trefniadau i ddod yn ôl i Aberystwyth. Er gwybodaeth, mae arholiadau'r bore ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dechrau am 9.30am (amser Prydain) ac arholiadau'r prynhawn am 2.00pm (amser Prydain).

9. Rhaid trefnu'r arholiad mewn man addas, sef swyddfeydd y Cyngor Prydeinig. Mewn amgylchiadau eithriadol, os nad yw'r Cyngor Prydeinig yn gallu cynnal yr arholiad, gall myfyrwyr gynnig lleoliad arall, megis prifysgol. Os na ellir dod o hyd i leoliad addas i'r arholiad, dylai myfyrwyr wneud trefniadau i ddod yn ôl i Aberystwyth. Cynghorir myfyrwyr i chwilio am wybodaeth ynglŷn â lleoliadau'r Cyngor Prydeinig ar gyfer arholiadau prifysgol yn http://www.britishcouncil.org/exam (lle ceir cwymplen yn cynnwys y rhestr 'Where can I sit an exam' er mwyn dewis gwlad).

10. Os yw myfyriwr yn dymuno sefyll arholiadau y tu allan i Brifysgol Aberystwyth, rhaid llenwi'r 'Ffurflen Gais i Ailsefyll Arholiad Dramor' ar-lein erbyn y dyddiadau cau a nodir isod. Ni fydd cais i sefyll arholiad y tu allan i Brifysgol Aberystwyth yn cael ei ystyried os caiff ei gyflwyno ar ôl y dyddiad hwn. Rhaid i'r myfyrwyr hefyd gofrestru'n ffurfiol i ailsefyll trwy eu Cofnod Myfyriwr (https://studentrecord.aber.ac.uk/cy/) Gweler http://www.aber.ac.uk/cy/student/ug-issues/ i gael rhagor o wybodaeth.

11. Bydd y Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr) yn anfon ceisiadau ymlaen i'r Sefydliadau a'r Adrannau perthnasol, ond gyda'r Gofrestrfa Academaidd y mae'r hawl i gymeradwyo'n derfynol. Er y bydd y Brifysgol yn gwneud ei gorau i gyflawni gofynion unrhyw geisiadau, bydd yn rhaid i fyfyrwyr ddod yn ôl i Aberystwyth os nad yw'n bosibl gwneud y trefniadau angenrheidiol.

12. Dim ond ar gyfer arholiadau ysgrifenedig y gall y Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr) wneud trefniadau addas. Rhaid i unrhyw fath arall o asesiad gael ei gymryd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dylai myfyrwyr ofyn i'w Hadran/Cyfadran pa asesiadau sydd angen eu cwblhau gogyfer â phob modiwl cyn llenwi'r Ffurflen Gais.

13. Bydd angen gwneud cais ar wahân ar gyfer pob cyfnod arholiad, ac ni fydd y Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr) yn gwneud trefniadau ar sail ceisiadau blaenorol.

14. Dylai myfyrwyr restru unrhyw ofynion unigol mewn arholiadau sydd ganddynt ar hyn o bryd, er enghraifft amser ychwanegol neu hawl i ddefnyddio cyfrifiadur, fel y gellir eu trafod â'r lleoliad allanol. Ni all y Brifysgol warantu y bydd modd i leoliadau arholiad dramor ddarparu'r rhain.

15. Codir tâl am y gwasanaeth hwn a'r myfyriwr fydd yn gyfrifol am ei dalu (gweler rhagor o fanylion isod).

16. Y Gofrestrfa Academaidd (Gweinyddiaeth Myfyrwyr) fydd yn gyfrifol am roi gwybod i fyfyrwyr a fu eu cais yn llwyddiannus. Dylai myfyrwyr gadw golwg yn gyson ar eu cyfrif e-bost am wybodaeth oddi wrth y Brifysgol neu'r Cyngor Prydeinig ac ymateb ar unwaith os gofynnir am wybodaeth. Gallai oedi o unrhyw fath achosi i drefniadau gael eu diddymu a pheri bod myfyrwyr yn gorfod dod yn ôl i Aberystwyth.

17. Er y bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i gynorthwyo a chynghori lle bo'n bosib, does ganddi ddim rheolaeth na chyfrifoldeb am leoliadau'r arholiadau allanol, ac ni ellir ystyried ei bod yn gyfrifol os caiff trefniadau disgwyliedig eu newid neu eu diddymu yn y lleoliad a ddewiswyd.

18. Ni all Prifysgol Aberystwyth fod yn gyfrifol am amgylchiadau annisgwyl sy'n peri bod arholiadau yn Aberystwyth yn cael eu had-drefnu, a allai rwystro ad-drefnu arholiadau ailsefyll dramor.

19. Mewn amgylchiadau o'r fath, byddai angen i fyfyrwyr ddod yn ôl i Aberystwyth i ailsefyll yr arholiadau. Mewn achos eithriadol, os yw'r trefniadau'n cael eu newid ar rybudd byr iawn, sy'n ei gwneud yn amhosibl i fyfyriwr ddod yn ôl i Aberystwyth mewn pryd, mae'n bosibl y bydd y Brifysgol mewn sefyllfa i ystyried trefniadau gwahanol.

Llenwi Ffurflen Gais

20. Cynghorir myfyrwyr i wneud cais erbyn y dyddiadau cau canlynol:

Cyfnod yr Arholiadau Dyddiadau:

(https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/dates-of-term/)

Dyddiad Cau i Dderbyn Ffurflen Gais

Arholiadau Semester Un:

Diwedd yr wythnos gyntaf ym mis Tachwedd

Arholiadau Semester Dau:

Diwedd yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth

Arholiadau Awst (Ailsefyll):

Diwedd yr ali wythnos ym mis Gorffennaf

Sylwer nad yw'r dyddiadau cau hyn yn gymwys i bob cais, gan gynnwys rhai a gyflwynir i Adrannau/Cyfadrannau gan fyfyrwyr cynlluniau cyfnewid sy'n cyrraedd neu'n gadael Aberystwyth Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiadau cau hyn yn cael eu hystyried ymhellach. Rhaid sicrhau llenwi'r Ffurflen Gais ar-lein yn gyfan gwbl er mwyn osgoi oedi oherwydd bod angen gofyn am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth am Ffioedd

21. Bydd myfyrwyr sy'n cael caniatâd i sefyll eu harholiadau ailsefyll y tu allan i Brifysgol Aberystwyth yn gorfod talu ffi gweinyddu o £120 i Brifysgol Aberystwyth, ar ben y ffi i ailsefyll modiwl. Bydd Swyddfa Gyllid y Brifysgol yn cysylltu â myfyrwyr yn nes at amser yr arholiadau ailsefyll ac yn rhoi gwybod iddynt sut i wneud y taliad. Bydd myfyrwyr yn gyfrifol hefyd am gostau a godir gan y ganolfan arholi dramor. Bydd y ffioedd hyn yn cynnwys er enghraifft: ffioedd cofrestru; ffi os nad yw'r ymgeisydd yn dod i'r arholiad; ffi am gadw papurau arholiad; costau arolygu; llogi neuadd arholi oddi ar y safle; llungopïo a phostio gwaith papur.

22. Bydd Prifysgol Aberystwyth yn codi talu diddymu os yw'r myfyriwr yn diddymu'r trefniadau lai na 2 wythnos cyn dechrau cyfnod yr arholiadau neu os na fyddant yn bresennol yn yr arholiad fel yr amlinellir isod. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r Brifysgol os penderfynant ddiddymu'r arholiad ailsefyll, er mwyn gallu hysbysu'r ganolfan arholi dramor. Yn ogystal ag e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk er mwyn diddymu'r arholiad ailsefyll ar eich cofnod myfyriwr, dylai'r myfyriwr hefyd e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk er mwyn rhoi gwybod y gall trefniadau yn y ganolfan arholi dramor gael eu diddymu.

23. Diddymu trefniadau lai na 10 diwrnod gwaith cyn dechrau cyfnod yr arholiadau.

Diddymu'r trefniadau lai na 10 diwrnod gwaith cyn dechrau cyfnod yr arholiadau.

Tâl Diddymu o £60

Diddymu trefniadau yn ystod cyfnod yr arholiadau neu beidio â throi i fyny i sefyll yr arholiad

Tâl Diddymu o £120

https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/students/ug-issues/resits/resit-abroad/

Atodiad

Ffurflen Gais i Ailsefyll Arholiadau Dramor