10. Derbyn Israddedigion
-
10.1 Cyflwyniad
1. Mae’r adran hon yn rhoi canllawiau i bawb sy’n ymwneud â dewis israddedigion. Mae’n amlinellu polisïau ynghylch dewis israddedigion ynghyd â gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â cheisiadau.
2.Bydd adran y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn cael ei hadolygu ar ddiwedd pob cylch derbyn israddedigion a’i diweddaru yn sgil datblygiadau o ran polisi a/neu weithdrefnau.
3. Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion yn rhan o’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ac mae ar lawr cyntaf Adeilad Cledwyn.
Derbyn Israddedigion,
Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion,
Adeilad Cledwyn,
Campws Penglais,
Prifysgol Aberystwyth,
ABERYSTWYTH
Ceredigion SY23 3DDManylion cyswllt cyffredinol:
Ffôn: 01970 622021 Ebost: ug-admissions@aber.ac.uk4. Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion ar agor 9am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am – 4pm ar ddydd Gwener (heblaw gwyliau cyhoeddus a dyddiau cau’r brifysgol). Gellir gwneud ymholiadau’n bersonol, dros y ffôn neu drwy ebost. Nid oes gan y swyddfa ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ei hun.
-
10.2 Egwyddorion Cyffredinol
1. Mae Prifysgol Aberystwyth, yn unol â diben cyffredinol ei Siarter, yn cadarnhau ei hymrwymiad i bolisi cynhwysfawr o roi ystyriaeth gyfartal i bob ymgeisydd i’r Brifysgol.
2. Ni ddylai’r un ymgeisydd ar lefel israddedig nac uwchraddedig gael triniaeth lai ffafriol ar sail rhyw, oedran, tarddiad ethnig, anabledd, crefydd, statws priodasol/rhiant, nac am unrhyw resymau tebyg.
3. Mae’r Brifysgol yn ymdrechu bob amser i ddarparu cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr a all elwa ar gynllun gradd neu gynllun arall, a’i gwblhau’n llwyddiannus, waeth beth fo’u cefndir.
4. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i bum egwyddor graidd ar gyfer derbyniadau teg fel y’u diffinnir yn Adroddiad Schwartz (2014): System dderbyn sy’n seiliedig ar dryloywder, dewis ar sail yr hyn y mae ymgeiswyr wedi’i gyflawni a’u potensial, mabwysiadu dulliau asesu sy’n ddibynadwy ac yn ddilys, lleihau rhwystrau i fynediad, a bod yn broffesiynol ym mhob ffordd ar sail strwythurau a phrosesau.
5. Gwarantir y bydd pob cais a ddaw i law erbyn dyddiadau cau priodol UCAS yn y flwyddyn fynediad dan sylw yn cael ei ystyried. Caiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiadau hyn eu hystyried fel y gwêl y Brifysgol yn dda.
-
10.3 Dull Gweithredu Strategol a Strwythurau Mewnol
1. Cymeradwyir targedau cofrestru israddedigion gan Weithrediaeth y Brifysgol drwy ymgynghori â Chyfarwyddwyr yr Athrofeydd.
2. Llunnir targedau blynyddol ar gyfer ceisiadau israddedigion gan yr Adran Cynllunio a Llywodraethiant. Pennir y targedau hyn yn rhan o’r contract rhwng Gweithrediaeth y Brifysgol a’r Athrofeydd Academaidd, a chânt eu hadrodd i’r Pwyllgor Recriwtio a Marchnata.
3. Mae’r Pwyllgor Recriwtio a Marchnata, sy’n adrodd i’r Bwrdd Academaidd, yn gyfrifol am ddatblygu, adolygu a diwygio strategaethau recriwtio a marchnata, yn ogystal â’r polisïau a’r gweithdrefnau cysylltiedig.
-
10.4 Llwybrau Ymgeisio
1. Daw mwyafrif helaeth y ceisiadau oddi wrth israddedigion i law ar-lein drwy Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS). Mae manylion llawn ynghylch proses ymgeisio ar-lein ‘UCAS Apply’ ar gael yn www.ucas.com/apply
2. Er yr argymhellir bod ymgeiswyr yn gwneud cais drwy UCAS lle y bo hynny’n bosib, mae llwybr ymgeisio uniongyrchol hefyd ar gael. (DS: Dylai’r llwybr hwn gael ei ddefnyddio gan ymgeiswyr a) sy’n gwneud cais i Brifysgol Aberystwyth yn unig, ac nid i fwy nag un darparwr addysg uwch neu b) ymgeiswyr sy’n gwneud cais am unrhyw ddarpariaeth sydd â dyddiad cychwyn ansafonol.)
-
10.5 Y Broses Ymgeisio i Israddedigion
1. Mae gan staff penodedig yn y Swyddfa Derbyn Israddedigion awdurdod i wneud cynigion ar ran adrannau academaidd ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig. (DS: Anfonir ceisiadau am gyrsiau sylfaen a chyrsiau celfyddyd gain yn uniongyrchol i’r tiwtor derbyn perthnasol i’w hadolygu.)
2. Gwneir cynigion yn amodol ar dderbyn cais cyflawn ac yn unol â’r meini prawf derbyn a ddiffinnir gan bob Athrofa / Adran academaidd yn y strategaeth flynyddol ar gyfer gwneud ceisiadau.
3. Anfonir pob cais nad yw’n cyd-fynd â’r meini prawf safonol at y tiwtor(iaid) derbyn yn yr Athrofa/ Athrofeydd neu’r Adran/Adrannau academaidd perthnasol i’w adolygu a gwneud penderfyniad yn ei gylch.
4. Bydd pob penderfyniad yn cael ei brosesu gan y Swyddfa Derbyn Israddedigion a’i anfon at ymgeiswyr.
5. Mae gan y Brifysgol gyfres benodol o gyfrifoldebau i’r holl swyddogion derbyn yn yr adrannau academaidd (gweler Atodiad A).
-
10.6 Gofynion Mynediad
1. Mae gan y Brifysgol bolisi derbyn cynhwysol sy’n rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudiaethau. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu rhinweddau unigol, a gall cynigion amrywio.
2. Bob hydref, gwahoddir Cyfarwyddwyr yr Athrofeydd, drwy ymgynghori â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion, i gyflwyno manylion eu gofynion mynediad i israddedigion ar gyfer y cylch ymgeisio nesaf. Cesglir y wybodaeth hon gan y Swyddfa Derbyn Israddedigion ar ffurf strategaeth gwneud cynigion, a gyflwynir i’r Pwyllgor Recriwtio a Marchnata ac a anfonir at Weithrediaeth y Brifysgol i’w chymeradwyo.
3. Cyhoeddir lefelau cymeradwy’r cynigion ar wefan y Brifysgol, ar UCAS.com ac yn y prosbectws israddedig.
4. Bydd y Swyddfa Derbyn Israddedigion yn rhoi gwybod i Diwtoriaid Derbyn ynghylch newidiadau allanol i’r cwricwlwm a/neu ddiwygio cymwysterau a allai effeithio ar wneud cynigion yn y dyfodol.
5. Dylid anfon ymholiadau ynghylch gofynion mynediad y Brifysgol i ug-admissions@aber.ac.uk
-
10.7 Cymwysterau
1. Fel arfer bydd angen i ymgeiswyr israddedig ddangos astudiaethau cyfredol neu flaenorol ar Lefel Tri (e.e. Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol).
2. Mae’r Brifysgol yn derbyn ystod o gymwysterau o’r tu allan i’r DU ar gyfer rhaglenni israddedig. Pennir cymwysterau cyfatebol gan y Pennaeth Derbyn Israddedigion drwy ymgynghori â’r Swyddfa Ryngwladol a thiwtoriaid derbyn academaidd.
3. Dylid anfon ymholiadau ynghylch cymwysterau a dderbynnir gan y Brifysgol ar gyfer cyrsiau israddedig i ug-admissions@aber.ac.uk
-
10.8 Derbyniadau Cyd-destunol ac Amgylchiadau Arbennig
1. Defnyddir y term derbyniadau cyd-destunol i ddisgrifio gwybodaeth ychwanegol (y tu hwnt i’r hyn sydd mewn cais israddedig safonol) sy’n darparu cyd-destun i gefndir cymdeithasol neu addysgol yr ymgeisydd.
2. O ran ymgeiswyr sy’n gwneud cais am gyrsiau israddedig yng nghylch derbyn 2018/19, bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig cyd-destunol (1 radd neu’r hyn sy’n cyfateb yn is na chynnig safonol) i ymgeiswyr o 40 o Ysgolion Braenaru yng Nghymru a 1105 o ysgolion yn y ddau gwintel isaf yng Nghymru a Lloegr yn ôl mesuriadau perfformiad ysgolion drwy gyfartaledd pwyntiau fesul disgybl Safon Uwch (data UCAS). Bydd ymgeiswyr sy’n gadael gofal hefyd yn cael yr un cynnig cyd-destunol.
3. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi amharu ar eu hastudiaethau blaenorol neu gyfredol. Dylid cyflwyno’r wybodaeth honno i’r Swyddfa Derbyn Israddedigion wrth wneud y cais neu cyn gynted â phosib os bydd yr amgylchiadau arbennig yn codi ar ôl gwneud cais.
4. Bydd amgylchiadau arbennig yn cael eu hystyried fel y gwêl y tiwtor derbyn perthnasol yn dda. (DS: os bydd amgylchiadau o’r fath eisoes wedi’u hystyried gan y bwrdd arholi perthnasol, ni roddir ystyriaeth bellach i’r amgylchiadau.)
5. Mae Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i ddarpar fyfyrwyr, cyn gwneud cais ac ar ôl gwneud cais. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/
-
10.9 Credyd am Ddysgu Blaenorol
1. Cynghorir ymgeiswyr sydd am hawlio credydau am ddysgu blaenorol i ddarllen y rheolau a’r rheoliadau ynghylch trosglwyddo credydau – https://www.aber.ac.uk/cy/regulations/credit/
2. Bydd y tiwtor derbyn neu’r arbenigwr pwnc perthnasol yn ystyried pob cais o’r fath ac yn pennu faint o gredydau i’w dyfarnu.
-
10.10 Dedfrydau Troseddol
1. Mae’r Brifysgol yn ceisio darparu cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr a all elwa ar gynllun gradd neu gynllun arall, a’i gwblhau’n llwyddiannus, waeth beth fo’u cefndir. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod ganddi ddyletswydd i ofalu am ei myfyrwyr, ei staff a’i hymwelwyr.
2. Pan fo ymgeisydd yn datgan gwybodaeth ynglŷn â dedfryd droseddol berthnasol nad yw wedi darfod, ystyrir y cais hwnnw’n unol â pholisi’r Brifysgol ynghylch Ceisiadau a Dedfrydau Troseddol Myfyrwyr https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/convictions/
Diffiniadau:
Mae troseddau perthnasol yn cynnwys un neu fwy o’r rhain:
• Trais o unrhyw fath
• Troseddau rhyw
• Gwerthu neu ddelio mewn cyffuriau
• Troseddau’n ymwneud â drylliau, cynnau tân a/neu derfysgaeth3. Diffinnir y cyfnod a gymer i ddedfryd droseddol ‘ddarfod’ o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Ystyrir bod dedfryd yn un ‘heb ddarfod’ hyd at ddiwedd y cyfnod hwn sydd wedi’i ddiffinio.
-
10.11 Gwneud cynigion
1. Nod y Swyddfa Derbyn Israddedigion yw prosesu ceisiadau israddedig safonol ymhen dwy wythnos ar ôl eu derbyn. Mae’n bosib y cymer ychydig yn hwy i brosesu ceisiadau ansafonol y mae angen eu hanfon i adrannau academaidd. Mae’n bosib y cymer fwy o amser nag arfer i brosesu ceisiadau rhyngwladol nad ydynt yn gyflawn neu y mae tystiolaeth wedi’i hepgor ohonynt.
2. Gwneir cynigion israddedig i ymgeiswyr fel arfer ar ffurf cynnig sy’n nodi’r graddau angenrheidiol (e.e. BBB ar gyfer Safon Uwch, DMM ar gyfer BTEC). Pan fydd gan ymgeisydd gymysgedd o gymwysterau, gwneir cynigion fel arfer yn unol â thariff cyfatebol UCAS.
3. Hysbysir ymgeiswyr ynghylch statws eu cynnig ar-lein (ar gyfer ymgeiswyr UCAS) a/neu drwy ebost.
4. Bydd ymgeiswyr sy’n cael cynnig i astudio yn derbyn pecyn cynnig drwy’r post a gohebiaeth ynghylch cyfleoedd i ddod i ymweld. Anfonir rhagor o ohebiaeth (e.e. manylion dewisiadau llety) at yr ymgeisydd yn ystod yr haf.
-
10.12 Gofynion Saesneg
1. Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol ac ymgeiswyr o’r UE ddangos tystiolaeth bod safon eu Saesneg yn ddigonol. Mae’n rhaid profi hynny cyn i’r ymgeisydd ddechrau’r cwrs.
2. Cynhwysir amod gyda’r cynnig ffurfiol i ymgeiswyr nad ydynt wedi cyrraedd y safon ofynnol cyn cyflwyno’u cais. Bydd yr amod yn nodi’r gofynion angenrheidiol o ran y Saesneg y bydd angen eu cyflawni cyn dechrau cwrs astudio israddedig.
3. Mae manylion ynghylch y cymwysterau Saesneg a dderbynnir ar hyn o bryd ar gyfer astudiaethau israddedig ar gael yn www.aber.ac.uk/en/postgrad/howtoapply/before-you-apply/english-language/
-
10.13 Fisâu Myfyrwy
1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ‘noddwr’ cofrestredig o dan system Mewnfudo ar Sail Pwyntiau (PBS) Haen 4. Mae hynny’n golygu y cawn recriwtio a noddi myfyrwyr sy’n wladolion gwledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae’r Swyddfa Gartref yn gosod cyfrifoldeb ar fyfyrwyr a phrifysgolion i sicrhau bod cyfreithiau mewnfudo’n cael eu dilyn.
2. Fel arfer bydd angen fisa astudio ar ymgeiswyr o’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir cyn gallu cofrestru ac astudio ar gwrs yn y Brifysgol.
3. Bydd angen Cadarnhad eu Bod Wedi’u Derbyn gan y Brifysgol (CAS) ar ymgeiswyr sy’n gwneud cais am fisa Haen 4. Cyn rhoi’r cadarnhad hwnnw, bydd y Brifysgol yn cwblhau rhestr wirio sy’n cynnwys:
Tystiolaeth o sut y gwnaed y penderfyniad academaidd.• Copi o’r llythyr cynnig yn nodi teitl llawn y cwrs a dyddiadau’r cwrs
• Copi o’r cymwysterau academaidd a ystyriwyd wrth benderfynu ar y cynnig
• Tystiolaeth o fedrusrwydd dilys yn y Saesneg
• Copi o basbort dilys yr ymgeisydd
• Gwiriadau tystiolaeth ariannol
• Cadarnhad bod yr ymgeisydd wedi rhoi blaendal ariannol i’r Brifysgol
• Tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) (os yw’n berthnasol)Ar ôl cwblhau’r rhestr wirio CAS, bydd y Brifysgol yn darparu cadarnhad CAS drafft.
4. Pan fo ymgeisydd yn cadarnhau bod y drafft yn gywir, dynodir cadarnhad CAS a bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi rhif CAS i’r Brifysgol. Anfonir y rhif hwn at yr ymgeisydd. (DS: Ni cheir gwneud cais Haen 4 fwy na thri mis cyn dyddiad dechrau’r cwrs).
Dylid anfon ymholiadau ynglŷn â pholisïau Fisâu, Mewnfudo a Chydymffurfio’r Brifysgol i immigrationadvice@aber.ac.uk -
10.14 Cyfweliadau
1. Fel rheol, nid yw’n ofynnol gan y Brifysgol fod ymgeiswyr yn cael cyfweliad yn rhan o’r broses derbyn israddedigion.
2. Caiff yr adran benderfynu gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad os oes ganddynt gymwysterau ansafonol neu os yw’r ymgeiswyr yn hŷn ac nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad safonol. Dylai’r tiwtor derbyn neu’r gweinyddwr adrannol roi gwybod i ymgeiswyr am natur y cyfweliad ac am unrhyw drefniadau eraill (e.e. lleoliad, dyddiad).
3. Mae gan adrannau academaidd hawl i argymell gwneud cynnig is (fel rheol un radd yn is neu’r hyn sy’n cyfateb) i ymgeiswyr sy’n dod i ddiwrnod ymweld i ymgeiswyr ac sy’n siarad â’r staff academaidd (e.e. drwy gael trafodaeth anffurfiol). Y Swyddfa Derbyn Israddedigion sy’n gyfrifol am brosesu unrhyw gynigion is o’r fath.
-
10.15 Prifysgol Aberystwyth Mawrisiws (AUM)
1. Mae angen i ymgeiswyr sydd am astudio cyrsiau ar gampws y Brifysgol ym Mawrisiws wneud cais ar-lein drwy UCAS neu drwy lenwi ffurflen gais benodol i Brifysgol Aberystwyth Mawrisiws.
2. Mae ceisiadau i astudio ar gynlluniau israddedig a gynigir ym Mhrifysgol Aberystwyth Mawrisiws yn cael eu prosesu gan y Swyddfa Derbyn Israddedigion yn unol ag Adran 7.
3. Mae manylion y broses ymgeisio a’r cyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth Mawrisiws ar gael yn http://www.aber.ac.mu/
-
10.16 Cyrsiau drwy Fasnachfraint
1. Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â sawl coleg i gynnig cyrsiau israddedig drwy fasnachfraint.2. Proses yw masnachfraint lle mae’r Brifysgol yn cytuno i roi awdurdod i sefydliad arall i ddarparu (ac weithiau i asesu) rhan neu’r cyfan o un (neu ragor) o’i rhaglenni cymeradwy ei hun.
3. Fel arfer, bydd ceisiadau am raglenni drwy fasnachfraint yn cael eu prosesu’n unol ag Adrannau 6 a 7.
4. Dylid cyfeirio ymholiadau sy’n ymwneud â threfniadau masnachfraint cyfredol y Brifysgol at collaboration@aber.ac.uk
-
10.17 Derbyn Ymgeiswyr i’r Brifysgol
1. Dim ond lle mae telerau’r cynnig wedi’u bodloni’n llawn y bydd y Brifysgol yn gwarantu derbyn ymgeisydd israddedig.
2. Os nad yw ymgeiswyr wedi bodloni telerau eu cynnig, adolygir eu cais ac fe benderfynir a fydd y lle yn cael ei gadarnhau ai peidio.
3. Bydd yn rhaid i’r holl fyfyrwyr, yn un o amodau eu cofrestru, ddilyn Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol a’r Wybodaeth i Fyfyrwyr - https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/regulations/
-
10.18 Cyfraith Defnyddwyr
1. Mae rhwymedigaethau ar holl ddarparwyr addysg uwch y DU o ran cyfraith defnyddwyr. Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi paratoi cyngor ynghylch cydymffurfio i ddarparwyr a dylai pob tiwtor derbyn fod yn gyfarwydd â’r cyngor hwn – https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/428549/HE_providers_-_advice_on_consumer_protection_law.pdf
2. Dylai’r wybodaeth a roddir i ymgeiswyr, gan gynnwys yn y cam gwneud cynigion, fod yn gywir ac ni ddylai gynnwys gwybodaeth ffug na chamarweiniol.
3. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch cyfrifoldebau’r Brifysgol i warchod defnyddwyr at Gyfarwyddwr y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.
-
10.19 Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
1. Ni ddylid datgelu gwybodaeth am ymgeiswyr i unrhyw drydydd parti.
2. O dan y Ddeddf Diogelu Data, ac mewn rhai amgylchiadau y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae gan unigolion, yn y Brifysgol a’r tu allan iddi, hawl i weld data personol amdanynt a gedwir gan y Brifysgol.
3. Mae mynediad i’r System Cofnodion a Derbyn Myfyrwyr (AStRA) yn cael ei reoli’n llym a dim ond i staff sydd â chaniatâd priodol i ddefnyddio’r system y mae ar gael.
4. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch polisïau diogelu data’r Brifysgol at y Rheolwr Diogelu Data infocompliance@aber.ac.uk
-
10.20 Adborth a Chwynion
1. Os bydd ymgeisydd am wneud cwyn ffurfiol ynghylch unrhyw agwedd ar y gwasanaeth derbyn myfyrwyr, dylai ysgrifennu at:
Cyfarwyddwr y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion
Adeilad Cledwyn
Campws Penglais
Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DDBydd Cyfarwyddwr y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cysylltu â’r ymgeisydd ymhen pum diwrnod gwaith ar ôl i’r gŵyn ddod i law.
Os na fydd ymgeisydd yn fodlon â’r ymateb cychwynnol, dylai gysylltu â’r Dirprwy Is-Ganghellor perthnasol:
Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol)
Y Ganolfan Ddelweddu
Campws Penglais
Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BFBydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn ceisio ymdrin â’r gŵyn ymhen pum diwrnod gwaith.
DS: Mae penderfyniadau a wneir am resymau academaidd yn derfynol ac ni fydd gennych hawl i apelio.
-
10.21 Cyfrifoldebau’r Tiwtoriaid Derbyn
1. Mae’r tiwtor(iaid) derbyn penodedig ym mhob adran academaidd yn atebol i Gyfarwyddwr yr Athrofa o ran rheoli derbyniadau i’r adran honno.
2. Mae’n bosib y bydd gan rai adrannau fwy nag un tiwtor derbyn. Os felly, clustnodir un aelod o’r staff i gydlynu’r gwaith dewis ac i gydgysylltu â’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr.
3. O safbwynt prosesu ceisiadau israddedig, mae gan diwtoriaid derbyn y cyfrifoldebau cyffredinol isod:
(i) Bydd y tiwtor derbyn yn rhoi cyngor cyfrifol ac yn ymgynghori â’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr, yn ôl y galw.
(ii) Bydd y tiwtor derbyn yn gweithio’n unol â dyddiadau cau’r Brifysgol ac UCAS i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn brydlon ac yn effeithlon.
(iii) Bydd y tiwtor derbyn yn cydgysylltu â thiwtoriaid mewn Athrofeydd / Adrannau eraill ar gyfer ceisiadau i wneud gradd Anrhydedd Gyfun a cheisiadau am gynlluniau gradd rhyngadrannol er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cyd.
(iv) Bydd y tiwtor derbyn yn ystyried y portffolio o dystiolaeth yn ei gyfanrwydd, fel y’i cyflwynir ar y ffurflen UCAS, a bydd yn gofyn am ragor o dystiolaeth yn ôl y galw. Nid yw Aberystwyth yn gwneud penderfyniadau ar sail y graddau sy’n cael eu darogan yn unig. Bydd y tiwtor derbyn hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr hŷn yn cael pob cyfle i drafod eu hachosion unigol.
(v) Bydd y tiwtor derbyn yn cydgysylltu â’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr ym mhob achos lle y bydd goblygiadau i rannau eraill o’r sefydliad e.e. o ran cymorth i fyfyrwyr, anabledd, statws ariannol, disgyblaeth, ayyb.
(vi) Bydd y tiwtor derbyn yn cefnogi gwaith i weithredu polisïau derbyn y Brifysgol, a bydd yn gyfrifol am weithredu a chynnal meini prawf polisi’r Athrofa / Adran ar dderbyn myfyrwyr.
(vii) Ni fydd y tiwtor derbyn yn cyfathrebu ag ymgeiswyr sydd wedi gwrthod ein cynnig nac ag ymgeiswyr y mae eu cofnod wedi’i ganslo.
(viii) Bydd y tiwtor derbyn yn glynu at y Cod Ymarfer ar ddefnyddio System Derbyniadau Aberystwyth (AStRA) ar y rhwydwaith.
(ix) Ni all y Brifysgol na’r Athrofa / Adran gymryd cyfrifoldeb am gyngor a roddir dros y ffôn. Gall camddealltwriaeth ddigwydd yn hawdd. Cyfrifoldeb y tiwtor derbyn felly yw sicrhau nad yw’r cyngor a roddir yn gamarweiniol. Dylid ategu cyngor pwysig, e.e. ynghylch a yw ymgeiswyr yn gymwys i gael eu hystyried, yn ysgrifenedig.
(x) Bydd y tiwtor derbyn yn tynnu sylw’r sefydliad (drwy’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr) at unrhyw anghysondebau difrifol rhwng y datganiad personol a’r geirda a bydd yn wyliadwrus ynghylch datganiadau ffug, a hepgor neu gamliwio gwybodaeth yn y ffurflen gais.
(xi) Dylai’r tiwtor derbyn ofyn i’w adran roi gwybod i’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr am unrhyw absenoldeb estynedig e.e. oherwydd salwch. Dylai Cyfarwyddwr yr Athro neu Bennaeth yr Adran roi gwybod i’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr pwy fydd yn gwneud y gwaith yn lle’r tiwtor derbyn.
(xii) Dylai’r tiwtor derbyn fod yn ei swydd gydol y cylch derbyn er mwyn sicrhau dilyniant rhwng gwneud cynigion a phenderfyniadau ynghylch derbyn. Mae’n hanfodol bod y tiwtor derbyn yn bresennol yn ystod y cyfnod Cadarnhau a Chlirio.
(xiii) Mae’r tiwtor derbyn yn atebol i Gyfarwyddwr yr Athrofa a Phennaeth yr Adran (lle y bo hynny’n berthnasol) o ran sicrhau arfer gorau wrth dderbyn myfyrwyr. Bydd y tiwtor derbyn yn ystyried angen y Brifysgol i ddenu myfyrwyr sydd â photensial i symud yn eu blaenau a llwyddo yn y Brifysgol.