10.1 Cyflwyniad

1. Mae’r adran hon yn rhoi canllawiau i bawb sy’n ymwneud â dewis israddedigion. Mae’n amlinellu polisïau ynghylch dewis israddedigion ynghyd â gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â cheisiadau. Mae’r adran hon hefyd yn bwynt cyfeirio i ymgeiswyr.

2. Bydd adran y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn cael ei hadolygu ar ddiwedd pob cylch derbyn israddedigion a’i diweddaru yn sgil datblygiadau o ran polisi a/neu weithdrefnau.

3. Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion yn rhan o’r Marchnata a Denu Myfyrwyr ac mae ar y gwaelod Adeilad Cledwyn.

Swyddfa Derbyn Israddedigion
Marchnata a Denu Myfyrwyr
Adeilad Cledwyn
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3DD

Manylion cyswllt cyffredinol:
Ffôn: 01970 622021
Ebost: ug-admissions@aber.ac.uk

4. Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion ar agor 9yb – 5yp o ddydd Llun i ddydd Iau a 9yb – 4yp ar ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus a dyddiau cau’r brifysgol). Gellir gwneud ymholiadau’n bersonol, dros y ffôn neu drwy ebost. Nid oes gan y swyddfa ei llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ei hun.

5. Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion yn prosesu ceisiadau ar gyfer astudiaethau israddedig (gan gynnwys dysgu o bell).

6. Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion hefyd yn datblygu a chynnal meincnodi ar gyfer cymharu cymwysterau rhyngwladol, a gweithdrefnau ar gyfer gwirio cymwysterau a statws ffioedd ymgeiswyr.

7. Ffocws y Swyddfa Derbyn Israddedigion yw ymgeiswyr israddedig, ac yn benodol, y broses derbyn myfyrwyr. Dylai ymholiadau ynghylch cynnwys y cwrs, rhestrau darllen ac ati gael eu cyfeirio at yr adran academaidd berthnasol, sydd yn y sefyllfa orau i ymateb.