10.5 Y Broses Ymgeisio i Israddedigion

1. Caiff yr holl geisiadau eu derbyn a’u prosesu gan staff yn y Swyddfa Derbyn i ddechrau. Caiff derbynneb a phob cam o’r broses dderbyn ddilynol ei chofnodi ar y system derbyn myfyrwyr electronig.

2. Bydd staff Derbyn yn cynnal asesiad cychwynnol o bob cais, i ganfod gallu’r ymgeisydd i fodloni gofynion mynediad academaidd ac iaith Saesneg, cymaroldeb cymwysterau o’r tu allan i’r DU, statws ffioedd a materion cydymffurfiaeth ag UKVI. Gwneir nodyn o’r uchod ar y system derbyn myfyrwyr, a gall y tiwtoriaid derbyn a’r staff awdurdodedig weld hyn fel ag y bo’n briodol.

3. Mae gan staff penodedig yn y Swyddfa Derbyn awdurdod i wneud cynigion ar ran adrannau academaidd ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Noder fod ceisiadau am gyrsiau sylfaen a chyrsiau celfyddyd gain, celfyddyd greadigol a nyrsio yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i’r tiwtor derbyn adrannol perthnasol i’w hadolygu a gwneud penderfyniad yn ei gylch.

4. Anfonir pob cais nad yw’n cyd-fynd â’r meini prawf derbyn safonol at y tiwtor(iaid) derbyn yn yr adran berthnasol i’w adolygu a gwneud penderfyniad yn ei gylch.

5. Mae gan y Brifysgol gyfres benodol o rolau a chyfrifoldebau i’r holl diwtoriaid derbyn yn yr adrannau academaidd (gweler 10.26 isod).

6. Bydd y penderfyniad i wneud cynnig/cynigion ar gyfer unrhyw gwrs yn ddibynnol ar y meini prawf derbyn myfyrwyr a ddiffiniwyd ar gyfer y cwrs y gwnaethpwyd cais amdano.

7. Bydd pob penderfyniad yn cael ei brosesu gan y Swyddfa Derbyn a’i anfon at ymgeiswyr drwy UCAS Track yn achos ymgeiswyr UCAS, ac yn ysgrifenedig drwy atodiad e-bost yn achos ymgeiswyr uniongyrchol a’r rhai sy’n gwneud cais drwy Common Application.