10.17 Fisâu Myfyrwy

1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ‘noddwr’ cofrestredig o dan system Mewnfudo ar Sail Pwyntiau (PBS) Fisa Myfyrwyr. Mae hynny’n golygu y caiff y Brifysgol recriwtio a noddi myfyrwyr sy’n wladolion gwledydd y tu allan i’r DU. Mae’r Swyddfa Gartref yn gosod cyfrifoldeb ar fyfyrwyr a phrifysgolion i sicrhau y cedwir at gyfreithiau mewnfudo.

2. Fel arfer bydd angen fisa astudio ar ymgeiswyr o’r tu allan i’r DU cyn gallu cofrestru ac astudio ar gwrs yn y Brifysgol, ac eithrio’r rhai sy’n derbyn statws preswylydd sefydlog neu breswylydd cyn-sefydlog yn rhan o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

3. Bydd angen Cadarnhad eu Bod Wedi’u Derbyn gan y Brifysgol (CAS) ar ymgeiswyr sy’n gwneud cais am Fisa Myfyriwr. Cyn rhoi’r cadarnhad hwnnw, bydd y Brifysgol yn cwblhau rhestr wirio sy’n cynnwys:

  • Tystiolaeth o sut y gwnaed y penderfyniad academaidd
  • Copi o’r llythyr cynnig yn nodi teitl llawn y cwrs a dyddiadau’r cwrs
  • Copi o’r cymwysterau academaidd terfynol a ystyriwyd wrth benderfynu ar y cynnig, gan gynnwys fersiynau ardystiedig wedi’u cyfieithu pan fo’n berthnasol
  • Tystiolaeth o fedrusrwydd dilys yn y Saesneg
  • Copi o basbort dilys yr ymgeisydd
  • Gwiriadau tystiolaeth ariannol (pan fo’n berthnasol)
  • Cadarnhad bod yr ymgeisydd wedi rhoi blaendal ariannol i’r Brifysgol (pan fo’n berthnasol)
  • Tystysgrif Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) (pan fo’n berthnasol)
  • Datganiad o gynnydd academaidd boddhaol (pan fo’n berthnasol).

Ar ôl cwblhau’r rhestr wirio CAS, bydd y Brifysgol yn darparu CAS drafft ac yn ei e-bostio i’r ymgeisydd i’w adolygu.

4. Pan fo ymgeisydd yn cadarnhau bod y drafft yn gywir, dynodir cadarnhad CAS a bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi rhif CAS i’r Brifysgol. Anfonir y rhif hwn at yr ymgeisydd. (DS: Ni cheir gwneud cais Fisa Myfyriwr fwy na chwe mis cyn dyddiad dechrau’r cwrs).

Dylid anfon ymholiadau ynglŷn â pholisïau Fisâu, Mewnfudo a Chydymffurfio’r Brifysgol i immigrationadvice@aber.ac.uk