Adolygiad Addysg Uwch yng Nghymru 2016: Cynllun Gweithredu

Cyfeirnod

Argymhelliad

Dyddiad Targed

Camau Gweithredu

(Disgwyliadau B5, B1 a B8)

Sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan fel partneriaid wrth gymeradwyo ac adolygu rhaglenni, a gwella’r profiad myfyrwyr.

 

Medi 2016

Mae Llawlyfr Ansawdd Academaidd 2016/17 yn cynnwys myfyrwyr fel aelodau panel ar gyfer y prosesau Sicrwydd Ansawdd canlynol ar lefel prifysgol:

-  Archwiliad Perfformiad Adran ac Athrofa

-  Adolygiad Cyfnodol o Gynlluniau

-  Paneli Cymeradwyo Cynlluniau

Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cynnal sesiynau yn ystod y flwyddyn er mwyn darparu cyflwyniad / hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n aelodau o baneli, gan gydweithio gydag Undeb y Myfyrwyr.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynnwys fel aelodau o Bwyllgorau Dysgu ac Addysgu ar lefel athrofa.

 

(Disgwyliadau B9, B6, a C)

Sicrhau bod dull cyson o weithredu apeliadau academaidd o fewn ac ar draws athrofeydd.

Medi 2016

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno templed newydd ar gyfer holl lawlyfrau israddedig yr adrannau ar gyfer 2016/17, sy’n cynnwys adran gyffredin ar apeliadau academaidd. Adolygwyd fersiynau terfynol y llawlyfrau gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion er mwyn sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau prifysgol.

 

(Disgwyliadau B11, B3 a B6)

Sicrhau bod pob myfyriwr ymchwil yn derbyn hyfforddiant addas cyn ymgymryd â dyletswyddau dysgu a marcio.

 

Medi 2016

Mae rhaglen newydd i gyflwyno’r holl fyfyrwyr ymchwil yn cael ei chynnig fis Medi 2016. Bydd yr elfennau craidd yn orfodol i’r holl fyfyrwyr, a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys elfennau atodol a ddarperir ar lefel adran neu bwnc. Mae’r Brifysgol hefyd yn cyflwyno cofrestr ganolog o fyfyrwyr ymchwil sy’n dysgu.

(Disgwyliadau C a B9)

Sicrhau cysondeb y wybodaeth graidd yn y llawlyfrau a ddarperir i fyfyrwyr o fewn ac ar draws yr athrofeydd.

 

Medi 2016

Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno templed newydd ar gyfer holl lawlyfrau israddedig yr adrannau ar gyfer 2016/17. Mae’n cynnwys adrannau cyffredin ar feysydd allweddol yn cynnwys gofynion presenoldeb, casglu adborth myfyrwyr, asesu gwaith cwrs a swyddogaeth arholwyr allanol. Adolygwyd fersiynau terfynol y llawlyfrau gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion er mwyn sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau prifysgol.

(Cyfoethogi)

Cadarnhau a rhoi mynegiant eglur i’r blaenoriaethau strategol ar gyfer cyfoethogi cyfleoedd dysgu ar lefel athrofa.

 

Mawrth 2017

Mae’r Brifysgol wedi datblygu cynllun cyfoethogi newydd o’r enw ‘Trawsffurfio Asesiad ar gyfer Llwyddiant Myfyrwyr’, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd fis Mawrth 2017. Bydd yn canolbwyntio ar asesu ac adborth, gan asio’n glos gyda mentrau sy’n bodoli eisoes o fewn y Brifysgol, a’r pwyllgorau Dysgu ac Addysgu ar lefel Athrofa. Bydd y cynllun cyfoethogi’n cael ei fonitro gan y Bwrdd Academaidd, sy’n gyfrifol am oruchwylio rhaglen gyfoethogi’r Brifysgol.    

(Disgwyliad B8)

Y camau i weithredu prosesau adolygu cyfnodol ffurfiol ar lefel rhaglen.

 

Dim dyddiad

Yn dilyn cynllun peilot o’r drefn Adolygiad Cyfnodol o Gynlluniau (PSR) yn ystod 2015, cymeradwywyd y weithdrefn derfynol gan y Bwrdd Academaidd. Mae’r broses PSR bellach yn weithredol a dosbarthwyd o adolygiadau’r dyfodol i’r Athrofeydd.