Llythyr Cyflwyniad i Cyfleusterau Bancio DU

Os yr ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol ac eisiau agor cyfrif banc yn Aberystwyth mae’n bosib bydd angen i chi ofyn am Lythyr Cyflwyniad I Gyfleusterau Bancio DU.

Unwaith yr ydych wedi cofrestru yn ffurfiol fel myfyriwr yn y Brifysgol fedrwch ofyn am lythyr i gefnogi eich cais i agor cyfrif banc yn Aberystwyth.

Cyn i chi ofyn am y llythyr mae’n rhaid i chi ddewis y banc yr ydych yn bwriadu agor cyfrif hefo. Y banciau sydd ar gael yn Aberystwyth yw:

Halifax plc, HSBC Bank plc, Barclays Bank plc, TSB bank plc, Nationwide Building Society, NatWest Bank plc, Santander

Os llythyr ar gyfer Nationwide Building Society neu Barclays Bank plc sydd angen arnoch, bydd angen i chi ebostio aocstaff@aber.ac.uk 

Mae’n RHAID sicrhau bod eich enw ar eich cofnod myfyriwr yn dangos fel y ma ear eich Pasbort. Os yr ydych yn bwriadu gwneud cais i newid eich enw fedrwch wneud hyn o dan y label Personol ar eich cofnod myfyriwr.

 Mae’n rhaid bod cyfeiriad tymor a chartref ar eich cofnod myfyriwr neu ni fydd eich cais yn cael ei brosesu.

I wneud cais am y llythyr bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cofnod myfyriwr ar-lein.

Mewn cofnodwch ar http://www.aber.ac.uk/cy/student/

O dan y pennawd Eich Safleoedd dewiswch Gofnod Myfyriwr

Byddwch angen eich enw defnyddiwr Aberystwyth ac eich cyfrinair i fewngofnodi.

Unwaith yr ydych wedi mewngofnodi, dewiswch Fy Ngwybodaeth Bersonol ac yna dewiswch Lawrlwytho Llythyr Swyddogol. Ger y pennawd Dewisiwch Eich Rhaglen, dewisiwch pa gwrs yr ydych am greu dogfen ar gyfer. Ger y pennawd Dewiswch y math o lythyr sydd ei angen dewisiwch Lythyr Cyflwyno Banc y DG.

Os yw eich enw neu gyfeiriad yn anghywir ac yr ydych angen ei newid medrwch wneud hyn drwy ddewis ‘anghywir’ a bydd hwn yn eich cyfeirio at newid eich manylion. Os nad oes cyfeiriad cartref na thymor ar eich cyfrif ni fyddwch yn gallu symud ymlaen gydag eich cais.

Yna, bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cwrs a dewis y banc yr ydych am greu cyfrif ynddo.

Bydd y llythyr yn cael ei greu yn syth os yr ydych yn penderfynu ei argraffu eich hunain.

Fedrwch argraffu'r llythyr o Lyfrgell Hugh Owen neu o unrhyw fan ble mae argraffydd lliw ond mae’n RHAID argraffu mewn lliw.

Bydd y llythyr ar gael i’w ail-argraffu o eich Cofnod Myfyriwr am gyfnod o 7 diwrnod.

Os yr ydych yn fyfyriwr o’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol bydd angen i chi wneud cais am y llythyr yn uniongyrchol o’r ganolfan (tesol@aber.ac.uk) .