Dychwelyd i'r Brifysgol â'r ôl ymadael dros dro

Dylai myfyrwyr sydd wedi ymadael â'r Brifysgol dros dro ac yn dymuno dychwelyd ym mis Medi ysgrifennu neu anfon e-bost at aocstaff@aber.ac.uk , Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd erbyn canol mis Gorffennaf fan bellaf.

Dylai myfyrwyr sydd yn dymuno dychwelyd ar gyfer semester dau ysgrifennu neu anfon e-bost at aocstaff@aber.ac.uk , Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd erbyn canol mis Tachwedd fan bellaf i gadarnhau eu bwriad.

Er mwyn dychwelyd bydd yn ofynnol ichi;

  • Os bu ichi ymadael oherwydd afiechyd, bydd rhaid ichi anfon tystysgrif meddyg i ddangos eich bod yn iach; bydd angen i Gwasanaethau Cymorth Fyfyrwyr ei gymeradwyo;

    hefyd

  • talu unrhyw ffioedd neu daliadau sy'n dal yn ddyledus i'r Brifysgol.

 

Am ragor o gymorth neu fanylion pellach ar y materion uchod gweler;

Mae Ymgynghorydd Myfyrwyr yn Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr cynnig cymorth cyfrinachol ar nifer o faterion.

Mae cymorth iechyd ar gael yng Nghanolfan Iechyd a Lles.

Am wybodaeth ynglyn â thalu ffioedd neu benthyciadau myfyrwyr cysylltwch â'r Adran Ffioedd.

Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch ynglŷn â dychwelyd i'r Brifysgol cysylltwch â'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd.