Ymadael â'r Brifysgol

Trafodaeth gychwynnol gyda’ch Adran

Os ydych yn ystyried ymadael â’r Brifysgol, darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus. Cyn gwneud penderfyniad terfynol bydd angen i chi fynychu cyfarfod gyda’ch Adran / Gyfadran er mwyn trafod eich opsiynau academaidd. Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i chi ofyn cwestiynau ynglŷn â goblygiadau ymadael, ac i ddod i benderfyniad cytbwys yn seiliedig ar gyngor eich Gyfadran. Er mwyn gofyn am gyfarfod, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch Cofnod Myfyriwr ar y We, a dewis y cyswllt 'Gwneud Newidiadau i Fy Nghwrs' ar y cofnod myfyriwr newydd neu cliciwch ar y ddolen ‘Cofnod Academaidd’ ar frig y dudalen, ac yna’r linc ‘Ymadael’ yn y rhestr o ddewisiadau ar yr hen cofnod myfyriwr. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cam cyntaf o ofyn am gyfarfod, byddwch yn derbyn neges awtomataidd yn cydnabod y cais, ac yna wahoddiad personol yn eich gwahodd i fynychu cyfarfod gydag aelod staff o fewn eich Adran. Dylech dderbyn y gwahoddiad hwn o fewn tri diwrnod gwaith wedi i chi gyflwyno’r cais. Gall myfyrwyr anrhydedd cyfun gwrdd â'r naill adran neu'r llal Noder na fyddwch yn cael mynediad i’r ffurflen arlein er mwyn cwblhau’r cais i ymadael â’r Brifysgol hyd nes eich bod wedi mynychu’r cyfarfod hwn.

Sut i gwblhau’r Broses Ymadael

Os ydych wedi mynychu cyfafro gyda’ch Adran neu Gyfadran, ac yn dymuno parhau i ystyried eich dewisiadau ar gyfer ymadael, byddwch yn derbyn mynediad i’r ffurflen ymadael arlein, a hynny trwy eich Cofnod Myfyriwr ar y We. Bydd angen i chi ddewis y cyswllt 'Gwneud Newidiadau i Fy Nghwrs' ar y cofnod myfyriwr newydd neu cliciwch ar ddolen ‘Cofnod Academaidd’ ar frig y dudalen, ac yna’r linc’ Ymadael’ ar yr hen cofnod myfyriwr. Dilynwch y cyfarwyddiadau a chwblhau’r meysydd sy’n ofynnol.  Mae'r broses ymadael yn broses dau gam a rhaid ichi sicrhau eich bod dod yn ôl i edrych ar eich cais ar ôl cyfarfod gyda'ch adran er mwyn gorffen y broses ymadael. Bydd yn rhaid i’ch cais gael ei gymeradwyo gan Swyddogion y Brifysgol ac ar ôl i hyn ddigwydd byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi ei brosesu.

Darllenwch y nodiadau canlynol yn ofalus cyn cwblhau’r cais i ymadael dros dro neu yn barhaol. Yn dilyn trafodaeth gychwynnol gyda’ch Adran / Athrofa, fe’ch cynghorir i ofyn am gyngor gan y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Swyddfa Llety (os ydych y byw yn Llety’r Brifysgol) a’r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (os oes gennych Visa ac yn Fisâ Myfyrwyr). Bydd yn rhaid i’ch Athrofa gymeradwyo cais i ymadael dros dro.

Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Ffioedd

Cynghorir pob myfyriwr sy’n ymadael â’r Brifysgol i weld Cynhorydd Myfyrwyr o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr er mwyn trafod goblygiadau ehangach ymadael (e.e. yr effaith ar gyllid myfyrwyr/tenantiaeth etc) neu i dderbyn cefnogaeth yn ystod y broses. Os ydych yn ystyried ymadael am resymau ariannol, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y gall y Brifysgol gynnig cymorth ariannol. Anfonwch ebost at student-adviser@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761/622087 i drefnu apwyntiad. Bydd myfyrwyr Dysgu o Bell yn cael cynnig trafod eu sefyllfa dros y ffôn.

Dylech ystyried faint o ffioedd fydd yn ddyledus, yn dibynnu ar y dyddiad y byddwch yn ymadael. I gael gwybodaeth benodol cliciwch yma.

Os ydych yn ystyried ymadael â’r Brifysgol oherwydd materion hygyrchedd neu wahaniaethau dysgu penodol / materion iechyd difrifol, mae’n bosibl y byddwch am ofyn am gyngor gan un o’n Cynghorwyr Hygyrchedd sydd wedi eu lleoli yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. I drefnu apwyntiad, anfonwch neges at disability@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761/622087.

Dylai myfyrwyr nodi y bydd yn rhaid cwblhau ceisiadau i ymadael o fewn 10 diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod gyda’r Adran NEU erbyn y diwrnod olaf o ddysgu yn y semester presennol. Gall y dyddiad ymadel gael ei gofnodi hyd at 10 diwrnod gwaith yn y dyfodol neu ei ôl ddyddio gan uchafswm o 10 diwrnod gwaith yn y gorffennol. Gall dyddiad ymadael sy’n fwy na 10 diwrnod yn y gorffennol gael ei newid gan awdurdodau’r Brifysgol. Ni chaniateir i fyfyrwyr ymadael y tu allan i’r cyfnod dysgu fel arfer. Bydd pob cais ymadael a wneir y tu allan i’r cyfnod dysgu yn cael eu hystyried, ac efallai y bydd y dyddiad a ddefnyddiwyd fel y ‘dyddiad ymadael’ yn wahanol i’r hyn a gofnodwyd gan y myfyriwr.

Llety

Os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol, ac yn fyfyriwr cofrestredig yn y Brifysgol sy’n penderfynu ymadael yn barhaol neu dros dro, yna bydd yn rhaid i chi adael llety’r Brifysgol o’r dyddiad ymadael.

Yn unol â’r Cytundeb Trwydded Llety, unwaith y byddwch yn peidio bod yn fyfyrwir cofrestredig yn y Brifysgol, ni fyddwch yn gymwys i fyw yn llety’r Brifysgol.

Byddwch yn gyfrifol am dalu’r Ffioedd Llety hyd at ac yn cynnwys y dyddiad y byddwch yn gadael eich llety ac yn dychwelyd eich allwedd i’r Swyddfa Llety.

Os ydych yn byw mewn llety yn y sector breifat, dylech drafod eich opsiynau gyda’ch landlord/asiantaeth, gan ei bod yn bosibl y bydd ffioedd llety yn ddyledus hyd yn oed os ydych wedi ymadael â’r Brifysgol. Mae’n bosibl y bydd modd i’r Cynghorwyr Myfyrwyr, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, gynnig cyngor ynglŷn â hyn yn ogystal. Anfonwch neges at student-adviser@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 621761/622087 i drefnu apwyntiad.

Bydd tîm y Swyddfa Llety hefyd ar gael i’ch cynorthwyo ac i drafod pa opsiynau sydd ar gael i chi, am fwy o wybodaeth cliciwch yma. Anfonwch neges at llety@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622984.

Cyngor Academaidd

Os ydych yn ymadael â’r Brifysgol yn barhaol neu dros dro, bydd eich statws fel myfyriwr yn dod i ben, ac ni fydd gennych fynediad i adnoddau’r Brifysgol yn cynnwys e-bost ac adnoddau cyfrifiadur a llyfrgell.  Mae hefyd yn golygu y dylech roi'r gorau i'ch astudiaethau / ysgrifennu.

Ymadael yn Barhaol

Caniateir ceisiadau ymadael yn barhaol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Noder fodd bynnag mai’r dyddiad y byddwch yn cwblhau’r cais arlein fydd y dyddiad a ddefnyddir i gofnodi eich bod wedi ymadael.  Fodd bynnag, efallai y bydd angen i awdurdodau'r Brifysgol ddefnyddio dyddiad gwahanol i'r un a nodwch trwy'r broses ymadael ar-lein. Sylwch na chaniateir i fyfyrwyr uwch-raddedig dynnu'n ôl ar ôl cwblhau elfen a addysgir y cwrs.

Ymadael Dros Dro

Gall amseriad ymadawiad dros dro effeithio ar eich asesiadau, pryd y bydd modd i chi ddychwelyd, a nifer y credydau y bydd modd i chi eu cwblhau wedi i chi ddychwelyd i’r Brifysgol.

  • Ni chaiff myfyrwyr sy’n ymadael dros dro ganiatâd i ymadael ar ôl diwrnod olaf y semester. Felly ni allwch ymadael yn ystod Gwyliau’r Nadolig neu yn ystod cyfnod arholiadau/asesiadau Semester Un neu Semester Dau. Os nad ydych wedi ymadael erbyn diwrnod olaf y dysgu, fe’ch cofrestrir yn ymgeisydd am arholiadau’r semester, a bydd y rheolau arferol ynghylch cynnydd academaidd mewn grym.
  • Dylai myfyrwyr sydd ag amgylchiadau arbennig ac a fethodd a chwblhau cais ymadael cyn diwrnod olaf y dysgu gwblhau Ffurflen Amgylchiadau Arbennig.
  • Os nad ydych yn gallu cymryd rhan yn yr asesiadau/arholiadau, RHAID i chi gwblhau Ffurflen Amgylchiadau Arbennig a’i hanfon at yr aelodau staff priodol ym MHOB adran, ynghyd â’r dystiolaeth berthnasol.

Os ydych yn bwriadu cymryd rhan yn yr asesiadau ac yna ymadael yn syth ar ôl iddynt orffen dylech roi dyddiad ymadael sy’n cydfynd â diwrnod olaf yr arholiadau.

  • Bydd eich cofrestriad yn y Brifysgol yn cael ei atal tan i chi ddychwelyd ac ni chewch ddefnyddio adnoddau’r Brifysgol, mynd i ddosbarthiadau na byw mewn Neuadd Breswyl yn ystod y cyfnod hwn.
  • Fel arfer bydd gennych hawl i ymadael dros dro am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf, gyda chaniatâd eich adran(nau). Os ydych yn treulio mwy na dwy flynedd heb fod yn astudio, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi ail-ymgeisio trwy’r broses Derbyn.
  • Dylech nodi bod terfyn amser penodol ar gyfer holl raddau (Mae gan radd anrhydedd israddedig derfyn amser fel arfer o bum mlynedd o'r cofrestriad cyntaf, ar gyfer cynlluniau gradd tair blynedd, chwe blynedd ar gyfer cynlluniau pedair blynedd).
  • Cynghorir myfyrwyr i ymgysylltu â'r Gwasanaeth Lles wrth ddychwelyd ar ôl ymadael dros dro.

DYLAI POB MYFYRIWR SY’N YMADAEL Â’R BRIFYSGOL, BETH BYNNAG FO’R RHESWM, ROI GWYBOD I’W NODDWYR ARIANNOL YN SYTH e.e. Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (os yw’n berthnasol)

Ymadael Dros Dro: Myfyrwyr Dysgu o Bell

Unwaith y bydd myfyriwr dysgu o bell wedi dechrau ar elfen traethawd hir rhaglen Meistr, byddai byrddau arholi fel arfer yn ymdrin ag unrhyw darfu ar eu hastudiaethau drwy ddyfarnu ailsefyll gyda dangosyddion ailsefyll priodol. Disgwylir y bydd dysgwyr o bell, sydd mewn cyflogaeth ac sydd â gofynion eraill ar eu hamser, yn cael cyfnodau pan nad ydynt yn astudio’n weithredol, ac mae ganddynt amser hirach na myfyrwyr amser llawn a rhan-amser i gydnabod hyn. Fel arfer ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu'n ôl dros dro yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, pan fo amgylchiadau myfyriwr yn gofyn am seibiant llwyr o’i astudiaethau am gyfnod o bedwar mis neu fwy, a lle mae ganddo o leiaf 4 mis ar ôl cyn y dyddiad cau, gall ofyn am gyfnod o dynnu’n ôl dros dro, er mwyn osgoi cael cyfnodau hir pan fydd myfyriwr wedi'i gofrestru ond ddim yn weithredol ac i gydnabod y bydd amgylchiadau eithriadol yn codi i rai myfyrwyr. Rhaid i fyfyrwyr wneud eu cais cyn gynted â phosibl ac ni allant wneud cais ôl gweithredol.

Dylai myfyrwyr nodi na fydd unrhyw farciau modiwl heb eu cadarnhau yn cael eu hystyried gan Fyrddau Arholi yn ystod cyfnod o Dynnu'n Ôl Dros Dro.

 

Myfyrwyr Ymchwil

Ni chaiff Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig (MPhil, PhD, PhDFA, DAg neu LLM (RES)) roi’r gorau i’w hastudiaethau ar ôl i’w cyfnod cofrestru ddod i ben a hwythau wedi dechrau’r cyfnod ysgrifennu. Os bydd angen rhagor o amser arnoch i gwblhau eich traethawd rhaid i chi ofyn am estyniad ffurfiol i’ch dyddiad cau, ond dylech nodi mai mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y rhoddir estyniadau.

 

Mae pob cais i dynnu'n ôl (dyddiadau ac amseroedd) yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol.