Gwobr Sir Goronwy Daniel

Sefydlwyd y wobr hon yn 2005 er cof am Syr Goronwy Daniel, cyn-brifathro Prifysgol Aberystwyth. Dyfernir hi i fyfyriwr israddedig am waith llenyddol byr yn yr iaith Gymraeg:

naill ai

cerdd neu gerddi heb fod yn fwy na 100 llinell

neu

ryddiaith greadigol heb fod yn fwy na 2,500 gair.

Anfonwch eich cynnig, os gwelwch yn dda, erbyn 1 Mawrth 2020 i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion, Ystafell F11, Llawr Cyntaf, Adeilad Cledwyn, Penglais, gan nodi ‘Gwobr Syr Goronwy Daniel’ ar yr amlen. Dylai eich cynnig ddwyn ffugenw; rhowch eich enw a’ch cyfeirnod fel myfyriwr ynghyd â’r ffugenw ar ddarn o bapur tu fewn i'r amlen.

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â : aocstaff@aber.ac.uk