Gwobr Paul Metcalfe am Antur

Sefydlwyd Gwobr Paul Metcalfe am Antur er cof am Paul Metcalfe, myfyriwr yn Aberystwyth o 1983 hyd 1986. Ei hamcan yw helpu myfyrwyr gyda chostau teithio mewn mannau anghysbell neu anhygyrch lle mae angen bod yn ddyfal a mentrus.

Os hoffech gynnig, anfonwch gais at aocstaff@aber.ac.uk, erbyn 26 Ebrill 2024.

Dylai’r cais gynnwys gwybodaeth am eich cynlluniau teithio, am amser y daith, ac am yr costau tebygol, gan ddangos pa gymorth rydych yn ei ddisgwyl o ffynonellau eraill. Dylech hefyd gynnwys llythyr byr o gefnogaeth gan aelod o’r staff academaidd (Pennaeth Adran neu ddarlithydd).

Rhoddir gwybod i’r ymgeisydd llwyddiannus yn gynnar yn nhymor yr haf.

Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â aocstaff@aber.ac.uk