Newid Cynllun Astudio neu Fodiwl

Os ydych am newid eich cynllun astudio neu fodiwl rhaid ichi roi gwybod ar unwaith trwy cwblhau y broses 'Newid Cofrestriad' ar-lein trwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we.  Dylech wedyn glicio ar y garden 'Gwneud Newidiadau i fy Nghwrs' ar dudalen cartref eich cofnod myfyriwr newydd neu cliciwch ar ddolen 'Cofnod Academaidd' ar ben eich tudalen cartref ac o'r rhestr o gysylltiadau yn y gwymplen cliciwch ar 'Newid Cofrestriad' a dilyn y canllawiau.  Dylech ddefnyddio y broses ar-lein os yw y newid yn un syml o un gwrs ir llall ac DDIM yn newid sydd yn effeithio a'ch blwyddyn cwrs neu statws. Dylech nodi na chaniateir fel arfer i chi newid cynllun astudio chi ar ôl y pedair wythnos gyntaf y sesiwn yn eich blwyddyn gyntaf.

Os yr ydych am newid eich Cynllun Astudio sydd angen newid i'ch Blwyddyn Cwrs ac/neu Statws ac/neu eich dull astidio (e.e. newid o fod yn fyfyriwr llawn amser i rhan amser) ddylech lenwi Ffurflen Newid Cofrestriad Israddedigion neu fedrwch ofyn am un wrth y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion trwy ddanfon e-bost at ugfstaff@aber.ac.uk

Myfyrwyr ar Fisa

Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo i gwrs arall ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd angen i chi gael cymeradwyaeth gan eich adran bresennol (ac oddi wrth eich adran newydd os ydych chi'n trosglwyddo rhwng dwy adran wahanol). Rhaid i chi hefyd drafod y newid gyda'r Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol cyn gwneud penderfyniad ffurfiol oherwydd gallai newidiadau gael effaith ar eich fisa. Ar ôl i'r trosglwyddiad gael ei gymeradwyo gan y Brifysgol, bydd y Swyddfa Gartref yn cael gwybod am y newid. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu'r Swyddfa Gydymffurfiaeth eich bod yn trosglwyddo i gwrs arall

 

Cofrestru Amodol a Newid Cofrestriad

Newid Cynllun Astudio

Os ydych yn dymuno newid eich Cynllun Astudio yn ystod neu ar ôl Cofrestru Amodol gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio'r broses Newid Cofrestriad ar-lein trwy eich Cofnod Myfyriwr. Gallwch ddefnyddio'r broses hon i wneud newidiadau syml i'ch Cynllun Astudio ac ar yr amod nad yw'n golygu newid eich blwyddyn o gwrs neu statws dylech ddefnyddio'r system ar-lein. Os yw eich newid yn fwy cymhleth ac yn cynnwys newid blwyddyn y cwrs neu statws dylech ddefnyddio'r.  Dylech nodi na chaniateir fel arfer i chi newid cynllun astudio chi ar ôl y pedair wythnos gyntaf y sesiwn yn eich blwyddyn gyntaf.

Newid Modiwl

Ni allwch ddefnyddio'r broses Newid Cofrestriad ar-lein / ffurflen i roi gwybod am newidiadau i'ch cofrestriad modiwlau oni bai eich bod wedi cwblhau Cofrestru Amodol yn llawn. Os i chi fethu â chwblhau Cofrestru Amodol ac rydych yn gwneud cais i newid eich modiwlau trwy ddefnyddio'r broses ar-lein neu wrth cwblhau y ffurflen bydd eich cais yn cael ei wrthod. Os ydych yn dymuno gwneud newidiadau i'ch modiwlau, bydd angen i chi fynd i gofrestru yn bersonol ym mis Medi.

Os gwnaethoch gwblhau Cofrestru Amodol yn llawn gallwch ddefnyddio'r broses Newid Cofrestru i newid eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf, ac unwaith bydd yr adran(nau) wedi cymeradwyo eich newidiadau byddwch yn dal yn gallu cwblhau cofrestri ar lein ym mis Medi o fewn y fewnrwyd y Brifysgol.

Pwysig

Os i chi fethu â gwneud hyn efallai y trefnir eich asesu yn y modiwlau anghywir, ac wedyn ni fyddwch yn medru gorffen eich astudiaethau mewn un sesiwn.

Dylech nodi bod yna dyddiadau pwysig RHAID i chi gadw at pan yn gwneud newid i'ch cofrestriad.  Os i chi wneud cais i newid eich cofrestriad ar ol yr amser nodi'r isod bydd Cyfarwyddwr yr Athrofa (neu enwbai) yn ei ystyried, ac dim ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn yn unig cymeradwyir newidiadau.

  • unrhyw newid i'ch cynllun astudio ar ôl 4 wythnos cyntaf y sesiwn yn eich blwyddyn cyntaf.
  • unrhyw newid modiwl ar ôl 4 wythnos wedi cychwyn y semester.

Mae’n ofynnol i'r Brifysgol adrodd bob newid i’ch Cynllun Astudio i’ch Cwmni Benthyciadau Fyfyrwyr (SLC), Awdurdod Addysg Lleol (AALl) neu unrhyw noddwr arall. Dylech nodi os yr ydych yn newid eich cofrestriad fel eich Cynllun Astudio, Dull Astudio, hyd eich cwrs neu eich statws mae'n ofynnol i chi roi gwybod i'ch noddwr ariannol hefyd (Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, yr Awdurdod Addysg Lleol, ac ati). Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn trafod yn llawn gyda'ch noddwr ariannol y goblygiadau o wneud newidiadau o'r fath i eich cofrestriad.