Trefn Cofrestru ar gyfer Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn Awst

Bydd myfyrwyr Israddedig (heblaw FDA ac FDSC) yn cael eu cofrestru yn awtomatig i ailsefyll pob modiwl maent yn gymwys i’w hailsefyll (hyd at uchafswm o 80 credyd) yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf.  Gan ei bod yn orfodol i fyfyrwyr Israddedig ailsefyll ym mis Awst, ni fydd angen iddynt gofrestru i ailsefyll.  Yn lle hynny mi fydd myfyrwyr Israddedig sydd wedi methu 20 credyd neu lai ac felly ddim angen ailsefyll er mwyn fynd ymlaen i flwyddyn nesaf o’r cwrs yn gweld y dasg  'Asesiadau Ailgynnig yr Haf' ar eu Cofnod Myfyriwr ar y we  fel y gallant ddewis i wrthod ailsefyll yn Awst. 


RHAID i fyfyrwyr FDA ac FDSC sy'n gymwys i ail-sefyll asesiadau yn ystod y cyfnod Asesiadau Ailgynnig yr Haf ym mis Awst gofrestru a ydyn nhw'n dymuno ail-sefyll ai peidio â gwneud hynny ar-lein trwy'r Cofnod Myfyriwr ar y we.  Ni fydd myfyrwyr FDA nac FDSC yn cael eu cofrestru yn awtomatig i ailsefyll yn Awst.

Bydd gan fyfyrwyr FDA ac FDCS hyd at uchafswm o bythefnos ar ôl i'w canlyniadau gael eu cyhoeddi i gofrestru eu bwriadau i ailsefyll neu beidio.

RHAID i Uwchraddedigion sy'n gymwys i ail-sefyll asesiadau yn ystod y cyfnod Asesiadau Ailgynnig yr Haf ym mis Awst gofrestru a ydyn nhw'n dymuno ail-sefyll ai peidio â gwneud hynny ar-lein trwy'r Cofnod Myfyriwr ar y we.  Ni fydd myfyrwyr Uwchraddedig yn cael eu cofrestru yn awtomatig i ailsefyll yn Awst.

Bydd gan fyfyrwyr Uwchraddedig hyd at uchafswm o dair wythnos ar ôl i'w canlyniadau gael eu cyhoeddi i gofrestru eu bwriadau i ailsefyll neu beidio.

Bydd myfyrwyr sy’n gymwys i ailsefyll neu beidio yn gweld o dan y pennawd 'Fy Nhasgau' ar dudalen gartref y Cofnod Myfyriwr botwm o'r enw 'Asesiadau Ailgynnig yr Haf'. Cliciwch ar hwn a byddwch yn cael eich anfon ymlaen i sgrin lle gallwch nodi a ydych am ail-sefyll ai peidio (dim ond y modiwlau rydych chi'n gymwys i ddewis eu hailsefyll neu beidio bydd a botwm Ie / Na).   Nodwch eich dewis trwy glicio ar yr opsiynau Ie / Na yna cliciwch ar y botwm ar waelod y dudalen ‘Cyflwyno Dewisiadau Ail-sefyll’. Byddwch yn derbyn e-bost yn fuan ar ôl cyflwyno'ch dewisiadau i gadarnhau eich bwriadau.

Mae’n hollbwysig eich bod yn gwirio eich canlyniadau, ac yn cofrestru eich bwriad os bydd yr opsiwn hwn gennych. Nodwch bod y Brifysgol yn codi taliad ailsefyll gweler tudalen Taliadau Ailsefyll am fwy o wybodaeth.