Ble a Sut i roi gwybod am Newidiadau i'ch Cofnod Myfyriwr

Newid Enw

Mae modd ein hysbysu eich bod am newid eich enw dros eich Cofnod Myfyriwr ar y we.  Mae fan newidiadau fel cywiro sillafu yn gallu cael eu gwneud heb yr angen am dogfennu swyddogol na prawf adnabod, disgwylir i newidiadau fel hyn gael eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os yr ydych am gwneud newid o bwys byddwn yn gofyn i chi roi dogfennau swyddogol yn dangos eich enw newydd a prawf adnabod i ni yn y Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd e.e. tystysgrif priodas, tystysgrif gweithred newid enw, Pasbort, trwydded yrru neu cerdyn adnabod   .  Byddwn yn danfon e-bost  atoch a gofyn i chi ddod a’r dogfennau swyddogol  yn dangos eich enw newydd ir Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd  o fewn 5 diwrnod gwaith.  Unwaith i ni gael y dogfennau priodol bydd eich enw yn newid o fewn 24 awr.

Ar ôl i ni newid eich enw fe cewch e-bost i gadarnhau y newid ac fydd eich enw newydd yn dangos ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we.  Os oes angen cerdyn myfyriwr newydd arnoch bydd angen i chi fynd ir ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen a gofyn am cerdyn newydd yn dangos eich enw newydd ar ôl i chi weld bod eich enw wedi newid ar eich Cofnod Myfyriwr.

Dylech fod yn ymwybodol, os nad oes gan eich tystysgrif gradd derfynol a rhai dogfennau swyddogol fel eich pasbort yr un enw yn ymddangos ar y ddau, efallai y bydd gennych broblemau yn y dyfodol.  Ar ôl i'r dystysgrif gradd derfynol gael ei chyhoeddi nid yw'n bosibl cael un arall yn enw (neu sillafu) gwahanol.  Fodd bynnag, gall myfyrwyr trawsrywiol a rhyw amrywiol gael tystysgrif newydd yn yr enw newydd ar  ôl dychwelyd y dystysgrif wreiddiol.


Mae'r Brifysgol yn cynnig cymorth a chyngor i fyfyrwyr trawsrywiol a rhyw amrywiol ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

 

Newid Cyfeiriad

Gellir newid eich cyfeiriad yn uniongyrchol ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we.  Mae bob newid cyfeiriad yn newid ar unwaith.  Cofiwch bod angen côd post arnoch i bob cyfeiriad preifat.