Rhan-amser Allanol

Gall myfyrwyr sydd â chyfle i ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny fel myfyrwyr Rhan-amser Allanol.  Os ydych am gofrestru ar gyfer hynny rhaid i chi lenwi'r ffurflen bwrpasol.  Cyn cofrestru, ceisiwch gyngor eich adran ac ystyriwch y pwyntiau hyn yn ofalus;

  • Nid yw myfyrwyr Rhan Amser Allanol yn mynychu'r Brifysgol. h.y. nid ydynt yn mynd i ddarlithiau, tiwtorial, a.y.b.
  • Maent yn ailsefyll modiwlau a fethwyd, a'r rheini'n unig: ni allant wneud modiwlau eraill yn eu lle.
  • Rhaid iddynt gofrestru ar gyfer pob modiwl sy'n cael ei ailsefyll, beth bynnag fydd ffurf yr asesiad , e.e. traethawd, arholiad a.y.b.
  • Rhaid i fyfyrwyr Rhan Amser Allanol gysylltu â'u hadrannau i gael gwybod pa waith fydd ei angen.  Peidiwch â chymryd y bydd yr adran yn cysylltu â chi.
  • Dylai myfyrwyr Rhan Amser Allanol gysylltu â'r cyrff / adrannau hyn i gael gwybod beth fydd cofrestru Rhan-amser Allanol yn ei olygu iddynt. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn gymwys am;

  • Ar ôl cofrestru mae gan fyfyrwyr Rhan Amser Allanol hawliau llawn i ddefnyddio'r llyfrgell a'r Cyfrifiadur.
  • Mae manylion am ffioedd Rhan-amser Allanol ynghyd â sut i'w talu ar gael yma.
  • Os ydych am gofrestru fel myfyriwr Rhan-amser Allanol rhaid i chi wneud hynny erbyn 31 Hydref.

Sut i gofrestru fel myfyriwr Rhan-amser Allanol

  • Mae ffurflenni Rhan-amser Allanol ar gael o'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd ac oddi yno'n unig.  Gellir gofyn am ffurflen drwy e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk.  Does dim angen dod i Aberystwyth i gofrestru.
  • Rhaid i bob myfyriwr geisio cyngor ei adran cyn llenwi'r ffurflen.
  • Os ydych am gofrestru fel myfyriwr Rhan-amser Allanol rhaid i chi wneud hynny erbyn 31 Hydref.
  • Ar ôl llenwi'r ffurflen rhaid ei dychwelyd i'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd, Prifysgol Aberystwyth, Llawr Cyntaf, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD.
  • Bydd ffurflenni sydd yn cael ei danfon i’r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd heb llofnod yr adran yn cael ei danfon ir adrannau perthnasol i’w llofnodi cyn i'r Gofrestrfa Academaidd allu brosesu’r ffurflen.