Asesiadau Ailgynnig yr Haf

Mi fydd Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn cael eu cynnal o:

Ddydd Llun 12 Awst 2024 i Dydd Gwener 23 Awst 2024

Bydd myfyrwyr ag arwydd ailsefyll o R, M, P, H, S, F, A neu T yn gymwys i ailsefyll yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn fis Awst (yn ôl rheolau).  Codir tâl ailsefyll ar gyfer pob modiwl gyda dangosydd ailsefyll R, P, F, U ac A. Mae’r taliadau ail-sefyll i’w gweld yma Taliadau Ailsefyll .

Bydd myfyrwyr a gychwynnodd Rhan 1 ERS mis Medi 2018 a Rhan 2 ERS mis Medi 2019 yn cael eu cofrestru yn awtomatig i ailsefyll pob modiwl maent yn gymwys ailsefyll (hyd at uchafswm o 80) yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf. Bydd myfyrwyr sy'n methu 20 credyd neu lai, felly nad yw'n ofynnol iddynt ailsefyll er mwyn fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf o’r cwrs, yn gallu gwrthod ailsefyll   ym mis Awst trwy gwblhau'r dasg Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar eu Cofnod Myfyriwr ar y we.  Bydd y dasg Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar gael i fyfyrwyr o'r diwrnod y cyhoeddir canlyniadau semester dau am bythefnos yn unig. Bydd methu â chwblhau'r dasg a gwrthod ailsefyll, hyd yn oed os na fyddwch chi'n dod i'r arholiad, neu'n cyflwyno'ch asesiad ysgrifenedig ar gyfer y modiwl rydych chi wedi'ch cofrestru ynddo, yn golygu y bydd eich cofnod yn dangos eich bod wedi methu a bydd dal raid I chi dalu’r tâl ailsefyll   Sylwch mai'r marc uchaf a gawsoch yn y modiwl sy'n cyfri at eich gradd.

Rhaid i fyfyrwyr FDA ac FDSC gofrestru ar gyfer yr asesiadau ni fyddwch yn cael eich cofrestru yn awtomatig. Byddwch yn gallu gwneud hyn drwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we yn ystod diwedd mis Mehefin i gychwyn mis Gorffennaf. Bydd y cyfleuster cofrestru ar gyfer Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar gael am bythefnos yn unig o’r diwrnod bydd canlyniadau'r ail semester yn cael eu cyhoeddi. Gwelwch yma am sut i gofrestru.
 
Rhaid i fyfyrwyr a gychwynnodd Rhan 1 CYN mis Medi 2018 a Rhan 2 CYN mis Medi 2019 gofrestru ar gyfer yr asesiadau ni fyddwch yn cael eich cofrestru yn awtomatig. Byddwch yn gallu gwneud hyn drwy eich Cofnod Myfyriwr ar y we yn ystod diwedd mis Mehefin i gychwyn mis Gorffennaf. Bydd y cyfleuster cofrestru ar gyfer Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar gael am bythefnos yn unig o’r diwrnod bydd canlyniadau'r ail semester yn cael eu cyhoeddi. Gwelwch yma am sut i gofrestru.


Os cofrestrwch i ailsefyll modiwl, a phenderfynu wedyn peidio ag ailsefyll am ba reswm bynnag (er enghraifft, oherwydd cyngor gan eich adran) RHAID ichi dynnu allan o'r asesiad drwy hysbysu’r Swyddfa Gweinyddiaeth Myfyrwyr erbyn diwedd Gorffennaf fan bellaf (ac eithrio myfyrwyr a gychwynnodd Rhan 1 ERS mis Medi 2018 a Rhan 2 ERS mis Medi 2019 gan bod rhaid ichi ailsefyll yn Awst).  Os na thynnwch allan bydd eich cofnod yn dangos ichi ailsefyll a methu a chodir tâl ailsefyll arnoch o hyd. (Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych heb fynd i'r arholiad neu heb gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar gyfer y modiwl dan sylw). Sylwch mai'r marc uchaf a gawsoch yn y modiwl sy'n cyfri at eich gradd.

Er mwyn tynnu allan rhaid ichi e-bostio'r Swyddfa Gweinyddiaeth Myfyrwyr y Gofrestrfa Academaidd ar ugfstaff@aber.ac.uk gan roi eich manylion myfyriwr a manylion y modiwl rydych yn tynnu allan ohono erbyn diwedd Gorffennaf fan bellaf.

Gweler y Rheolau ar Gynnydd ac Ailsefyll ar-lein yn  neu yn Llawlyfr Arholiadau Myfyrwyr .  Os bydd unrhyw fyfyriwr yn methu cofrestru ar gyfer asesiad gorfodol a bodloni rheolau cynnydd bydd hynny yn meddwl na chewch fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf h.y. ni chewch ail-wneud modiwlau Rhan 1 a fethwyd ac astudio yn Rhan 2 ar yr un pryd.

Os am gymorth ynglŷn â'ch cofrestriad modiwlau ailsefyll cysylltwch â'r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr y Gofrestrfa Academaidd drwy e-bost ugfstaff@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 628515 / 622787.

Bydd amserlen a manylion llety ar gael ar lein yn wythnos gyntaf mis Awst.

Am ragor o fanylion ynglyn â'r amserlen cysylltwch â'r Swyddfa'r Amserlenni,  Gwasanaethau Gwybodaeth, Adeilad Hugh Owen, Campws Penglais, Rhif Ffon 01970 628771,  e-bost attstaff@aber.ac.uk

Gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar yr Amserlen Arholiadau.