Gwybodaeth am y Wefan Beta
Yn ystod yr hydref bu gwaith yn mynd rhagddo ar ddyluniad newydd i wefan Prifysgol Aberystwyth. Amcanion ailddylunio yw,
- gwneud y wefan yn haws ei defnyddio,
- adfywio golwg y wefan,
- cyflymu’r wefan a
- chreu gwefan sy’n gweithio ar amrywiaeth o ddyfeisiau.
Mae fersiwn beta o ddyluniad newydd y wefan ar gael nawr i staff a myfyrwyr roi tro arni. Cymerwch olwg a llenwi’r holiadur (ceir dolen gyswllt at yr holiadur ar y dudalen hon ac ar bob tudalen Beta). Fe hoffem wybod eich barn am adeiladwaith y wefan newydd a chlywed eich argraffiadau cyntaf.
Mae’r wybodaeth ar y safle Beta yn gipolwg o’r brif wefan fel yr oedd Ddydd Llun 5ed Rhagfyr. Bydd rhai rhannau o’r Safle Beta ddim yn gweithio am mai cymwysiadau gwe ydyn nhw ac heb eu hymgorffori i’r dyluniad newydd hyd yn hyn (e.e. peiriant chwilio, archebu prosbectws). Yn ystod Rhagfyr a dechrau Ionawr bydd gwaith yn parhau ar y Safle Beta felly mae’n bosibl y gwelwch chi rai mân newidiadau os byddwch yn edrych arni fwy nag unwaith.
Os ydych chi’n awdur gweddalen byddwch yn falch i wybod y bydd, ac eithrio’r flaenddalen, y rhan fwyaf o gynnwys y wefan Beta heb newid. Hefyd nid yw’r dyluniad newydd yn newid y ffordd y caiff gweddalennau eu creu yn y System Rheoli Cynnwys.
- Ewch i ymweld â’r Wefan Beta (cyfyngedig i rwydwaith Prifysgol Aberystwyth *)
- Anfonwch eich adborth atom
Simon Marshall
Swyddog Datblygu’r We
* Os ydych yn aelod o staff neu’n fyfyriwr sy’n defnyddio’r wefan o’r tu allan i rwydwaith y Brifysgol gallwch ddefnyddio dolen y Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN) i weld y Safle Beta.