Y Clwb

Brynamlwg, hen ffermdy hardd wedi ei leoli ar ymyl ogleddol Campws Penglais, tua thair munud o Adeilad Hugh Owen a Chanolfan y Celfyddydau wrth gerdded.

Yr oriau agor yw: Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 12.00-2.00 a 5.30-11.00 a dydd Sul 12.00-2.00

Yn y ffermdy byddwch yn dod o hyd i:

  • bar cyfforddus (gweler 'bwyd a diod' am fanylion) gyda mynediad i'r anabl
  • ystafell gemau, bwrdd dartiau, teledu sgrîn fawr, dominos a gwyddbwyll
  • ystafell barti (gweler 'partïon a swyddogaethau')
  • 2 ystafell ar gael ar gyfer cyfarfodydd (gweler 'partïon a swyddogaethau')
  • amrywiaeth o bapurau newydd dyddiol ar gael yn y bar
  • Cofrestrwch eich cyfrifiadur 'laptop' â Gwasanaethau Gwybodaeth i dderbyn mynediad rhyngrwyd di-wifr yn y clwb (gweler http://www.aber.ac.uk/cy/is/wireless/ am fwy o wybodaeth)

Y tu allan mae yna:

  • gardd hyfryd gyda dodrefn gardd
  • parcio cyfleus (gan gynnwys parcio i'r anabl) ar gael i aelodau a'i gwesteion tra'n defnyddio'r clwb

Lleoliad

Ar droed o'r campws, mae Brynamlwg yn dro byr o fynedfa Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau, cymerwch y llwybr i'r chwith gyferbyn ag Undeb y Myfyrwyr, ac mae'r clwb y tu ôl i'r adeiladu gelf.

Mewn car, mae mynediad i Frynamlwg yn unig oddi ar heol Cefn Llan gyferbyn ag Ysgol Uwchradd Penglais.

Brynamlwg ar 'Google Maps'.