Aelodaeth

Pwy all ymuno â Brynamlwg?

Mae aelodaeth ar gael ar gyfer:

 

  1. Holl weithwyr Prifysgol Aberystwyth (unrhyw un sy'n cael ei gyflogi gan y brifysgol).
  2. Unrhyw un a gyflogir gan y sefydliadau cysylltiedig canlynol:
    • Coleg Ceredigion
    • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
    • Aber Instruments
  3. Holl fyfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth
  4. Unrhyw un arall sy'n cael ei noddi gan 2 aelod o'r clwb
  5. Holl bobl sydd wedi ymddeol neu ddigyflog ac sy'n byw yn yr ardal
  6. Pobl sy'n aros dros dro yn yr ardal

Faint yw cost aelodaeth?

Mae'r flwyddyn aelodaeth yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref pob blwyddyn. Bydd pobl sydd yn ymuno ar ganol y flwyddyn aelodaeth yn talu pro rata

  • Cost tanysgrifiad Llawn yw £39 y flwyddyn
  • Cost tanysgrifiad i aelodau wedi ymddeol neu ddigyflog yw £19.50 y flwyddyn (Archeb Barhaol - £18.00)
  • Cost tanysgrifiad dros dro yw £5 yr mis
  • Gall priod neu bartneriaid ymuno yr un amser ag aelodau Perthynol heb gost ychwanegol
  • Gall staff PA dalu drwy ddidyniadau misol o'u cyflog
  • Cost tanysgrifiad ôl-raddedig yw £5.00 y flwyddyn

Sut ydw i'n ymuno?

Gallwch ymuno naill ai:

  • Ar y Clwb yn bersonol - siaradwch â staff y bar
  • Wrth lawrllwytho, argraffu a llenwi'r ffurflen gais berthnasol isod
  • Trwy gysylltu â naill ai yr Ysgrifennydd Aelodaeth (07968872579) neu 'r Rheolwr Bar (01970 628621) a fydd yn darparu / anfon y ffurflen berthnasol

Mae ffurflenni cais ar gael fel a ganlyn:

Dychwelwch yr holl ffurflenni at yr Ysgrifennydd Aelodaeth, Clwb Brynamlwg, Cefn Llan, Aberystwyth, SY23 3AP.

Cynigion Arbennig