Amdanom ni

Asiantaeth gyhoeddi addysgol sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth yw CAA (Canolfan Astudiaethau Addysg). CAA yw un o'r cyhoeddwyr addysgol mwyaf yng Nghymru ac fe gyhoeddir tua 50 o deitlau newydd gan yr asiantaeth yn flynyddol.

Mae CAA yn cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel mewn ystod eang o bynciau ar gyfer pob Cyfnod Allweddol: addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg ôl-16 a Lefel Uwch. Mae gan yr asiantaeth brofiad helaeth o gynhyrchu deunyddiau o ansawdd da ar gyfer Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru.

Mae CAA yn arbenigo mewn creu deunyddiau dysgu Cymraeg fel ail iaith ac mae hyrwyddo llythrennedd darllenwyr anfoddog hefyd yn nod bwysig iddi. Mae bod yn rhan o Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn galluogi CAA i ddilyn y datblygiadau diweddaraf ym myd addysg ac i fanteisio ar yr arbenigedd pwnc sydd ar gael o fewn yr Ysgol.

Dyfarnwyd Gwobr Llyfrau'r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i CAA yn y gorffennol yn y categori, Llythrennedd Cynradd yn y Gymraeg. Enillwyd y wobr am y project, Cyfres Clic, a gynlluniwyd i hyrwyddo llythrennedd disgyblion Cyfnodau Allweddol 2 a 3. Dyfarnwyd Gwobr Tir na n-Og am y llyfr Saesneg gorau i un o gyfrolau CAA hefyd, sef 'The Battle of Mametz Wood, 1916'.

Gall CAA gynnig:

  • Gwasanaeth cyhoeddi cyflawn, cystadleuol a phroffesiynol yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Datblygu deunyddiau mewn ystod eang o bynciau ac ar gyfer unrhyw oed
  • Amrywiaeth o gyfryngau o lyfrau a thaflenni i becynnau i CD-ROMau