Dathlu gwaith cyhoeddwyr Cymru - gwobr i CAA

Yr Athro M. Wynn Thomas, cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, yn cyflwyno'r wobr i Lynwen Rees Jones, cyfarwyddwr CAA

Ymgasglodd cyhoeddwyr Cymru yn Aberystwyth ar nos Iau, y 15fed o Fawrth, ar gyfer achlysur arbennig i gyflwyno Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi. Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd gwobr y gwerthwr gorau yn yr adran llyfrau Cymraeg i blant i CAA. Y gyfrol a hawliodd y wobr hon i’r cwmni oedd Patagonia, gan Sioned V. Hughes.

Addasiadau Cymraeg o’r gyfres ‘The Mole Sisters’

Un o lyfrau 'Nansi a Nel' Bu Catrin Elan, myfyrwraig yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, ar brofiad gwaith gyda CAA a chafodd y cyfle i addasu deg o lyfrau bach The Mole Sisters i’r Gymraeg. Cawsant eu cyhoeddi wythnos cyn iddi raddio o’r Brifysgol.

Lansio 'Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes'

Pwyll ap Siôn yn y lansiad

Pwyll ap Siôn a Gareth Bonello yn lansio cyfrol newydd - Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes - yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Llyfrau CAA ym Mhatagonia!

Gaiman – Rebeca White, ysgrifennydd dosbarthiadau y Gaiman Yn ddiweddar, cyhoeddodd CAA gyfres o lyfrau ffeithiol am ddaearyddiaeth chwe gwlad - un ohonynt ar Batagonia.