Lansio 'Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes'
15 June 2011

Pwyll ap Siôn a Gareth Bonello yn lansio cyfrol newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Ddydd Llun, y 13eg o Fehefin, lansiwyd cyfrol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Cerddoriaeth Safon UG ac Uwch – Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes... Canllaw i Fyfyrwyr – yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Awduron y llyfr yw’r ddau gerddor adnabyddus, Pwyll ap Siôn ac Iwan Llewelyn-Jones.
Bu Pwyll ap Siôn yn cymryd rhan yn y digwyddiad, yn ogystal â Gareth Bonello (The Gentle Good). Gwnaeth y ddau gyflwyniad ar eu gwaith fel cerddorion, ac am y grefft o gyfansoddi – a chafwyd cyfle i’w clywed yn perfformio’u gwaith yn ystod y lansiad. Noddwyd y digwyddiad gan Llenyddiaeth Cymru, ac roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CBAC a rhai o ysgolion uwchradd Cymru yn bresennol.
Llawlyfr yw Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes... Canllaw i Fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio Cerddoriaeth UG a Safon Uwch i’w cynorthwyo gyda’u gwaith cyfansoddi. Mae CD ag enghreifftiau cerddorol arno hefyd yn cyd-fynd â’r llyfr, a cheir fersiwn Cymraeg a Saesneg o’r cyhoeddiad.
Nôl i'r brig