Dathlu gwaith cyhoeddwyr Cymru - gwobr i CAA
19 March 2012

Ymgasglodd cyhoeddwyr Cymru yn Aberystwyth ar nos Iau, y 15fed o Fawrth, ar gyfer achlysur arbennig i gyflwyno Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi. Yn ystod y seremoni, cyflwynwyd gwobr y gwerthwr gorau yn yr adran llyfrau Cymraeg i blant i CAA. Y gyfrol a hawliodd y wobr hon i’r cwmni oedd Patagonia, gan Sioned V. Hughes.
Anrhydeddir gwaith cyhoeddwyr Cymru yn y seremoni am werthiant eu llyfrau yn ogystal â safon cynhyrchu a dylunio'r llyfrau. Cyflwynir gwobrau'r diwydiant bob dwy flynedd ac eleni roedd y seremoni'n cyd-fynd â dathliadau hanner can mlwyddiant Cyngor Llyfrau Cymru.
"Ein hamcan wrth gyflwyno'r gwobrau hyn yw anrhydeddu gwaith clodwiw y cyhoeddwyr sy’n paratoi ystod o lyfrau ar gyfer y darllenwyr," meddai'r Athro M. Wynn Thomas, Cadeirydd y Cyngor Llyfrau. "Mae'r Cyngor yn ymwybodol iawn o ymdrechion y cyhoeddwyr i gynnal y safonau uchaf wrth gyhoeddi deunydd apelgar ar gyfer plant ac oedolion. Mae'n braf, felly, cael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant ar yr achlysur hwn."
Comisiynwyd y gwobrau yn arbennig eleni gan yr artist o Gaerdydd, Carwyn Evans a enillodd y Wobr Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009.
"Mae'r cyhoeddwyr i gyd i'w llongyfarch yn fawr am eu gwaith," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. "Mae'r ffaith fod deuddeg o gyhoeddwyr wedi dod i'r brig yn yr amrywiol gategorïau yn arwydd o'r bywiogrwydd ym maes cyhoeddi yng Nghymru yn y ddwy iaith."
Mae CAA hefyd yn dathlu carreg filltir arbennig yn ei hanes eleni, sef deng mlynedd ar hugain o gyhoeddi ers ei sefydlu ym 1982.
Nôl i'r brig