Lansio 'Cyfres y Fflam' ym Mharc y Scarlets
23 July 2012

Ddydd Mercher, yr 11eg o Orffennaf, lansiwyd cyfres o lyfrau ar gyfer ysgolion uwchradd – Cyfres y Fflam – yn stadiwm Parc y Scarlets, Llanelli.
Yn ystod y lansiad bu Catrin Stevens a Tudur Dylan Jones, awduron dau o lyfrau’r gyfres, yn sgwrsio am eu llyfrau ac yn cynnal amrywiol weithgareddau gyda disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa. Cafodd yr holl westeion eu tywys ar daith o amgylch y stadiwm gyda Dafydd Jones, cyn-chwaraewr i Lanelli a Chymru, i gloi’r digwyddiad.
Cyfres o ugain llyfr pen-i-waered yw Cyfres y Fflam ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae’r llyfrau’n trin a thrafod pynciau amrywiol o ddau gyfeiriad – o’r cyfeiriad llenyddol a’r anllenyddol – a rhagwelir y bydd ysgolion yn defnyddio’r testunau i gywain gwybodaeth ac i gymharu testunau ac arddulliau â’i gilydd.
Dywedodd Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr CAA:
“Gan fod CAA yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu eleni, roedden ni’n teimlo y byddai’n gyfle da i gynnal lansiad mewn lleoliad cyffrous a phoblogaidd fel Parc y Scarlets. Roedd hefyd yn gyfle gwych i CAA gael arddangos eu hamrywiol gyhoeddiadau, a thynnu sylw at lyfrau newydd Cyfres y Fflam yn arbennig.”
Darlledwyd eitem ar y digwyddiad hwn ar 'Heno' (S4C).
Nôl i'r brig