Projectau ar y we
Cynhyrchwyd deunydd atodol, sy'n cyd-fynd â'r adnoddau a gyhoeddwyd, ar gyfer rhai o brojectau CAA.
Llyfrau ffeithiol ar ddaearyddiaeth (Cymraeg ail iaith, CA2)
Canllawiau dwyieithog ar gyfer athrawon, i gyd-fynd â'r 6 llyfr ffeithiol ar ddaearyddiaeth, sef Botswana, Gwlad yr Iâ (Lefel 2), Ffrainc, Lesotho (Lefel 3), Patagonia a Seland Newydd (Lefel 4). Mae'r canllawiau'n cynnwys sgaffaldiau iaith, gweithgareddau gwahaniaethol a thempledi pwrpasol. Hefyd ceir cyfieithiadau Saesneg o'r llyfrau.
- Canllawiau (.doc)
- Botswana (.doc)
- France (.doc)
- Iceland (.doc)
- Lesotho (.doc)
- New Zealand (.doc)
- Patagonia (.doc)
Sgorau i gefnogi Cerddoriaeth UG CBAC
- Sgorau (.pdf)
Nodiadau a luniwyd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cwrs Cerddoriaeth UG CBAC - i gyd-fynd â ffeil a chryno ddisg Sgorau i gefnogi Cerddoriaeth UG CBAC. Paratowyd y nodiadau gan Alun Guy, cyn-athro a phennaeth Adran Gerddoriaeth Ysgol Gyfun Glantaf, awdur nifer o deitlau ym maes Cerddoriaeth a phrif arholwr Cerddoriaeth TGAU gyda CBAC.
Gweithgareddau Cyfres y Gwdihŵ
Set o weithgareddau'n cyd-fynd â phob un o'r naw llyfr yn y gyfres yn unigol, ac un adran gyffredinol y gellir ei defnyddio gyda phob cyfrol. Cynhwysir hefyd restri geirfa ar gyfer pob llyfr.
A set of activities relating to each of the nine books in the series individually, and one general set of activities which are relevant to each book. Also provided is a list of vocablulary for each book.
Sglein ar y Sgiliau
Pecyn o ddeunyddiau amlgyfrwng i gynorthwyo gyda sgiliau cyfathrebu, sgiliau gwaith a sgiliau allweddol.
Taith Iaith
Pecyn cynhwysfawr o ddeunyddiau amlgyfrwng ar gyfer dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yng Nghyfnod Allweddol 3.
Y Cylchgrawn Daearyddol Digidol (Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch)
Y Cylchgrawn Hanes Digidol (Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch)
Y Map Mawr
- Map Enwau Trefi DU (.pdf)
- Symbolau (.pdf)
- Map Information SheetTaflen Wybodaeth (.pdf)
Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes – Canllaw i Fyfyrwyr
Clip DVD i gyd-fynd â thudalennau 97-100.
Erratum
Oherwydd gwall yn y broses gynhyrchu, y mae dau o'r enghreifftiau cerddorol ar y CD i gyd-fynd â'r llyfr hwn yn anghywir:
• Trac 22 (Variations for Piano Op. 27, Anton Webern) – clywir Symudiad II yn hytrach na Symudiad III.
• Trac 49 – nid trac sain Psycho, Bernard Herrmann a glywir.
Gellir dod o hyd i'r enghreifftiau cerddorol cywir ar y we.